Digwyddiadau
GŵylGyrfaoedd 2023: Llun Proffil LinkedIn
Mae cael proffil LinkedIn o ansawdd da yn ffordd wych o wella eich cyflogadwyedd. Gallwch gael llun proffesiynol o’r pen ar gyfer LinkedIn wedi ei dynnu am ddim ar y campws i hybu'ch proffil.
Sesiwn galw heibio yw hwn – does dim angen archebu lle ond bydd eich enw’n cael ei ychwanegu at restr a bydd myfyrwyr yn cael eu gweld yn eu tro. Sylwch y bydd slotiau'n cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin hyd nes bod pob slot wedi'i lenwi am y diwrnod - cofiwch gyrraedd yn gynnar i osgoi cael eich siomi.
Dyddiad: 8 Mawrth 2023
Amser: 12:16:00
Lleoliadau: Pontio – Mezzanine, Level 2
Gweler amserlen GwylGyrfaoedd 2023 fan hyn.
Darganfodwch eich Dyfodol mewn Gyrfa Amgylcheddol
Dyddiad: Dydd Iau, 9 Mawrth 2023
Amser: 17:30 – 19.00
Trefn: Ar-lein drwy Zoom
Mae’r digwyddiad wedi’i gynllunio i hysbysu ac ysbrydoli myfyrwyr a graddedigion sy’n gobeithio ymgorffori'r amgylchedd a chynaliadwyedd yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol. Bydd y digwyddiad yn arddangos sut mae sefydliadau'n mynd i'r afael â materion amgylcheddol allweddol a mynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd. Bydd gyflogwyr graddedig, cynfyfyrwyr Prifysgol Caerdydd a gweithwyr proffesiynol ar ddechrau eu gyrfa sy'n gweithio yn y sector amgylcheddol yn rhannu eu harbenigedd a'u dealltwriaeth o sut i lywio cyfleoedd gyrfa yn y sector hwn ac archwilio rhai o'r heriau a'r cyfleoedd yn eu diwydiannau.
Bydd pob siaradwr yn cyflwyno eu hunain, yn amlinellu taith eu gyrfa ac arddangos ymchwil a/neu brosiectau byw sy'n adlewyrchu'r gwaith y maent yn eu gwneud sydd wedi arwain at effeithiau cadarnhaol ar yr amgylchedd. Bydd y panel hefyd yn ateb cwestiynau gan y Cadeirydd a'r gynulleidfa, a fydd yn cynnig cyfle i drafod rhai o'r pynciau llosg a thrafod beth sydd ei angen i lwyddo yn y llwybr gyrfaol hwn.
Mae'r digwyddiad yn agored i’r holl staff a fyfyrwyr sy'n mynychu, neu sydd wedi graddio o, unrhyw un o brifysgolion Cymru - Archebwch eich lle yma
Adfywiwch eich CV
Beth am gymryd y blaen a diweddaru eich CV?
Dilynwch y linc yma i archebu apwyntiad CV ar-lein drwy eich cyfrif TARGETconnect.