Newyddion: Tachwedd 2017
Newyddlenau
Prifysgol yn y Dosbarth Cyntaf am Gynaladwyedd
Gosodwyd Prifysgol Bangor ymhlith 30 prifysgol ym Mhrydain sydd wedi eu dynodi fel bod o safon ‘Gradd er Anrhydedd Dosbarth Cyntaf’ am eu gweithgareddau cynaladwyedd. Mae’r tabl diweddaraf yn gweld y Brifysgol yn codi naw lle ac yn symud o gategori ‘2:1’ at ‘Radd Dosbarth Cyntaf’. Llwyddodd y Brifysgol i gyflawni ei sgôr uchaf erioed, gyda chynnydd o bron i 8.5% ar y ffigwr blaenorol, a llwyddo hefyd i ennill sgôr o 100% yn achos pedwar categori o blith y 13 cyfan. Mae’r gynghrair prifysgolion yn cael ei llunio gan People & Planet , a hon yw’r unig gynghrair annibynnol wedi ei neilltuo ar gyfer cynaladwyedd ym mhrifysgolion cyhoeddus Prydain. Fe’i llunnir ar sail ystod eang o feini prawf amgylcheddol, cymdeithasol a chynaladwyedd cyllidol.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Tachwedd 2017