Cyfleusterau dan do Canolfan Brailsford
Mae cyfleusterau Canolfan Brailsford yn cynnwys:
Stiwdio Sbin
Stiwdio 1
Neuadd 1
6 x Cwrt Badminton, 2 x Cwrt Pêl-foli, 1 x Cwrt Pêl-fasged maint llawn (2 x 1/2 neuadd Pêl-fasged), 1 x Cwrt Pêl-rwyd, 1 x Hoci dan do, 1 x Cwrt Pump-bob-ochr. Mae hefyd darpariaeth ar gyfer Tennis Bwrdd, a Chriced dan do. Mae gan y neuadd lawr sbring a mae balconi ar gael i wylwyr.
Neuadd 2
4 x Cwrt Badminton , 1 x Cwrt Pêl-foli, 1 x Cwrt Pêl-rwyd, 1 x Cwrt Pêl-fasged ac 1 x Cwrt Pum-bob-ochr. Mae hefyd darpariaeth ar gyfer Bowlio dan do, Criced dan do a Thrampolinio. Mae balconi ar gael i wylwyr.
Dôm Chwaraeon
Mae ein Dôm Chwaraeon dan do newydd yn cynnwys 2 x Cwrt Pêl-rwyd a 2 x Cwrt Tennis dan do.
Campfa Llawr Cyntaf
Gyda golygfa wych o'r mynyddoedd a gwerth mwy na £350,000 o gyfarpar newydd, mae Canolfan Brailsford yn cynnig hyfforddiant ffitrwydd heb ei ail. Bellach mae gan Ganolfan Brailsford dair ystafell ffitrwydd ar gyfer hyfforddiant gwrthiant a chardiofasgwlaidd.
Ar y llawr uchaf mae 50 o beiriannau eithafol-fodern Lifefitness Discovery, a phob un ohonynt yn cynnwys consol wedi'i fewnosod â sgrîn-gyffwrdd gyda theledu byw, mynediad i'r we a chyrsiau rhedeg Lifescape. Gall y defnyddwyr redeg drwy goedwigoedd yn Ne'r Almaen neu drwy fryniau a cheunentydd Parc Cenedlaethol Yosemite heb orfod gadael amgylchoedd aerdymherus Canolfan Brailsford.
Gall ymarferwyr bersonoli'u sesiwn drwy fewngofnodi i'r peiriant gyda'u cerdyn aelodaeth, ffôn-smart neu gyfrif personol. Gallwch ddilyn eich cynnydd gan ddefnyddio'r ap LFConnect, sydd ar gael ar gyfer Android, iOS ac ar-lein. Mae gan phob peiriant Lifefitness gysylltwyr ar gyfer dyfeisiau Apple ac Android yn ogystal â clustffonau Bluetooth diwifr.
Campfa Llawr Gwaelod
Gyda chyfarpar newydd sbon ‘Hammer Strength’ plate-loaded a ‘Signature selectorized’ cyfarpar cryfder, mae’r gampfa isaf yn cynnig ymarfer cryfder fel dim arall. Gyda dau pwli ddeuol addasadwy, detholiad dwbl o ddymbelau, peiriant smith, dau rac cwrcwd a chyflenwad digonol o ddisgiau, mae’r gampfa llawr gwaelod yn darparu amryw o gyfarpar sy'n addas ar gyfer unrhyw raglen hyfforddi. Gyda chod QR ar phob peiriant, gall ymarferwyr sganio ac arbed eu canlyniadau i'w cyfrif LFConnect.
Platfform 81
Cyrtiau Sboncen
Mae gan y Ganolfan Chwaraeon bedwar cwrt sboncen, un sydd â wal cefn wydr yn cynnwys oriel gwylio. Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod ein cyrtiau sboncen o safon rhyngwladol.
Wal ddringo
“Wal Livingstone”. Mae 10 Rhaff Top yn rhoi mynediad i dros 30 o lwybrau o 'DIFF' i 7c, ar waliau panelog o bron yn fertigol i uwch serth. Mae wal clogfaen yn rhoi sgôp am anawsterau o phob lefel, uwchben matiau diogelwch. Ar gyfer cyrsiau dringo ymwelwch a thudalen ‘Beth sydd ymlaen’.