Newyddion: Ionawr 2015

My Protein

Rydym yn falch o gyhoeddi ein bod yn gwerthu cynnyrch ‘My Protein' mae rhain ar gael am bris gwych o £15 am bag protein 1k. Yn cynnwys blas fanila, mefysen a siocled. Mae Caffi Brailsford hefyd yn gweini diodydd protein ffres ac eitemau byrbryd protein. 

Dyddiad cyhoeddi: 21 Ionawr 2015

Tocyn Anrheg

Rydym nawr yn falch o gynnig y cyfle i drin rhywun arbennig gyda thocyn anrheg Brailsford. Gall brynu tocyn ar gyfer aelodaeth campfa mewn £10, £20, £30 a £35.

Gellir brynu’r Tocynau Anrheg o’r Dderbynfa.

Dyddiad cyhoeddi: 21 Ionawr 2015

Dyfarnu Ysgoloriaethau Chwaraeon i athletwyr elitaidd Bangor

Pob blwyddyn, bydd Prifysgol Bangor yn cefnogi myfyrwyr â gallu mewn chwaraeon trwy gynnig nifer o Ysgoloriaethau Chwaraeon i fyfyrwyr sy'n astudio ar gyfer gradd mewn unrhyw bwnc. Dyfernir yr Ysgoloriaethau Chwaraeon i gydnabod a chefnogi rhagoriaeth a chyflawniad mewn chwaraeon. Maent yn cael eu hanelu at helpu myfyrwyr talentog i gyfuno eu hastudiaethau academaidd a pherfformiad chwaraeon i'w cynorthwyo i gyflawni eu llawn potensial.

Dyddiad cyhoeddi: 13 Ionawr 2015