Newyddion: Mehefin 2018

Cynnal cystadleuaeth Sboncen Merched y PSA yn y Brifysgol am y tro cyntaf

Canolfan Brailsford, Canolfan Chwaraeon Prifysgol Bangor, fydd y llwyfan ar gyfer cystadleuaeth sboncen merched y PSA (Professional Squash Association) yr wythnos hon – y gystadleuaeth gyntaf o’i bath i gael ei chynnal yn y Brifysgol a’r gyntaf hefyd i’w chynnal yng Nghymru. Gan ddechrau ar ddydd Mercher 20 Mehefin, bydd y brwydro dwys dros bum niwrnod yn arwain at gêm derfynol y gystadleuaeth, a gwobr o $5000, i’w chynnal ddydd Sul.

Dyddiad cyhoeddi: 19 Mehefin 2018

Myfyrwraig Prifysgol Bangor i gynrychioli Prydain Fawr mewn Pencampwriaethau Cyfeiriannu

Mae myfyrwraig o Brifysgol Bangor wedi cael ei dewis i gynrychioli Prydain Fawr ym Mhencampwriaethau Cyfeiriannu Prifysgolion y Byd yn y Ffindir ym mis Gorffennaf.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Mehefin 2018