Newyddion: Mawrth 2012

Arwain gydag e-lyfrau

Bydd gwaith arloesol staff Canolfan Bedwyr ym maes e-lyfrau Cymraeg yn cael lle blaenllaw ar y rhaglen Pethe ar S4C heno (26 Mawrth 2012).

Dyddiad cyhoeddi: 26 Mawrth 2012

Termau addysg ar-lein

Bydd y Gweinidog dros Addysg a Sgiliau, Leighton Andrews, yn lansio gwefan newydd Y Termiadur Addysg yng Nghaerdydd ar 22 Mawrth 2012. Bydd y wefan www.termiaduraddysg.org yn cynnwys fersiwn newydd helaethach o’r llyfr termau poblogaidd a gyhoeddwyd yn 2006, a hefyd cymorth ychwanegol i ddysgu a chwilio am dermau safonol Cymraeg ar gyfer plant ysgol a myfyrwyr colegau addysg bellach.

Dyddiad cyhoeddi: 22 Mawrth 2012