
Ystafelloedd Dosbarth Confucius
Mae Ystafelloedd Dosbarth Confucius yn fenter gan
Sefydliad Addysg Ryngwladol Tsieineaidd (CIEF) newydd, sefydliad elusennol anllywodraethol ydyw, sy'n cynnwys cynghrair o brifysgolion Tsieina gan gynnwys Prifysgol Beijing, Prifysgol Fudan, Prifysgol Iaith a Diwylliant Beijing, a sefydliadau a chwmnïau cymdeithasol eraill.
Mae HANBAN wedi ymrwymo i ddatblygu iaith a diwylliant Tsieineaidd ar draws y byd ac mae hefyd yn gwasanaethu fel pencadlys Sefydliadau Confucius ym mhob rhan o'r byd.
Lleolir Ystafelloedd Dosbarth Confucius mewn ysgolion a cholegau ac maent yn derbyn cyllid penodol. Eu bwriad yw gweithredu fel canolfannau lleol a all ysgogi a chefnogi addysgu a dysgu iaith a diwylliant Tsieineaidd ar draws cymunedau.
Caiff pob ystafell ddosbarth ryddid i weithredu yn ôl ei chyd-destun neilltuol gyda'r nod o hyrwyddo iaith a diwylliant Tsieineaidd i'r plant a'r bobl ifanc yn ei dalgylch.
Mae'r Sefydliad Confucius ym Mhrifysgol Bangor wedi cael cyllid gan Hanban i sefydlu pum o Ystafelloedd Dosbarth Confucius yn rhanbarth Gogledd Cymru mewn partneriaeth ag ysgolion, colegau ac awdurdodau lleol.
Mae'r ysgolion llwyddiannus yn cynnwys dwy ysgol uwchradd leol a thair ysgol gynradd.
Ysgol Uwchradd Friars ym Mangor
Agorodd yr Ystafell Ddosbarth Confucius yn Friars yn 2017. Fodd bynnag, mae Sefydliad Confucius ym Mhrifysgol Bangor wedi bod yn cynnig dosbarthiadau a gweithgareddau Mandarin yn yr ysgol ers 2013. Mae'r ysgol yn gweithredu fel canolbwynt rhanbarthol i ddysgu iaith a diwylliant Tsieineaidd ac ar hyn o bryd rydym yn gweithio gyda'r ysgol ar ehangu nifer y gwersi Mandarin a datblygu gweithgareddau diwylliannol newydd a chyffrous i bawb.
Am fwy o wybodaeth am bob ystafell ddosbarth, ewch i wefan yr ysgol.
Ysgol Uwchradd Friars
Lôn Y Bryn, Bangor LL57 2LN
E-bost :pennaeth@friars.gwynedd.sch.uk
Ffôn: 01248 364905
Cyswllt Ystafell Ddosbarth Confucius: Mr David Healey
Gwefan yr ysgol: http://moodletest.friars.gwynedd.sch.uk
Ysgol Uwchradd Caergybi
Agorwyd Ystafell Ddosbarth Confucius Ysgol Uwchradd Caergybi yn 2017. Fodd bynnag, mae Sefydliad Confucius ym Mhrifysgol Bangor wedi bod yn cynnig dosbarthiadau a gweithgareddau Mandarin yn yr ysgol ers 2014. Yr ysgol yw canolbwynt rhanbarthol Ynys Môn ac ar hyn o bryd rydym yn darparu dau ddiwrnod o ddosbarthiadau Mandarin bob wythnos. Mae'r ysgol hefyd yn derbyn disgyblion o ysgolion cynradd lleol sy'n dod i wersi Mandarin a gweithgareddau diwylliannol yn yr ystafell ddosbarth Confucius. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio ar ddatblygu gweithgareddau diwylliannol ychwanegol gyda'r ysgol ac yn edrych ymlaen at weld myfyrwyr yn sefyll arholiad HSK yn y dyfodol agos.
Am fwy o wybodaeth am bob ystafell ddosbarth, ewch i wefan yr ysgol.
Ysgol Uwchradd Caergybi
Teras Alderley, Caergybi Ynys Môn, LL65 1NP
E-bost: yucoffice@ynysmon.gov.uk
Ffôn: 01407 762219
Cyswllt Ystafell Ddosbarth Confucius: Ms. Gill Mortlock
Gwefan yr ysgol: http://www.ysgoluwchraddcaergybi.cymru/
Ysgol Ein Harglwyddes, Bangor
Agorodd yr Ystafell Ddosbarth Confucius yn Ysgol Ein Harglwyddes yn 2017. Dechreuodd y Sefydliad Confucius ym Mhrifysgol Bangor gynnig dosbarthiadau Mandarin a gwahanol weithgareddau fel Tai qi yn yr ysgol yn 2015. Ar hyn o bryd mae gennym ddosbarthiadau Mandarin ar ddydd Mawrth a dydd Iau yn ogystal â chlwb ar ôl ysgol a dosbarthiadau Tai qi. Mae'r ysgol yn gefnogol iawn ac yn annog y disgyblion i ddysgu bod yn Ddinasyddion Byd-eang - bod yn ymwybodol o'r byd, eu swyddogaeth ynddo a chymryd rhan mewn cymunedau ar lefel leol a byd-eang.
Am fwy o wybodaeth am bob ystafell ddosbarth, ewch i wefan yr ysgol.
Ysgol Ein Harglwyddes
Ffordd Caernarfon, Bangor, LL57 2UT
E-bost: pennaeth@ourladys.gwynedd.sch.uk
Ffôn: 01248 352463
Cyswllt Ystafell Ddosbarth Confucius: Ms. Kay O'Hanlon
Gwefan yr ysgol: http://www.ourladys.gwynedd.sch.uk/
Ysgol Gynradd Esgob Morgan yn Llanelwy
Agorwyd Ystafell Ddosbarth Confucius yn Ysgol Gynradd Esgob Morgan yn 2017. Fodd bynnag, mae Sefydliad Confucius ym Mhrifysgol Bangor wedi bod yn cynnig dosbarthiadau a gweithgareddau Mandarin yn yr ysgol ers 2014. Yr ysgol yw'r canolbwynt dysgu yn Sir Conwy ac mae'n darparu cyfleoedd i ysgolion eraill a'r gymuned. Ar hyn o bryd mae gan yr ysgol bedwar dosbarth Mandarin bob dydd Mawrth.
Am fwy o wybodaeth am bob ystafell ddosbarth, ewch i wefan yr ysgol.
Ysgol Gynradd Esgob Morgan
17 Fford Siarl, Llanelwy, LL17 0PT
E-bost: esgob.morgan@denbighshire.gov.uk
Ffôn: 01745583690
Cyswllt Ystafell Ddosbarth Confucius: Ms. Tim Redgrave
Gwefan yr ysgol: http://www.esgobmorgan.co.uk/
Yn y tymor hirach, rhagwelir y bydd pob ysgol yng Ngogledd Cymru'n cael cyfle i fynd at Ystafell Ddosbarth Confucius a manteisio ar yr adnoddau gwerthfawr y gall y canolfannau hyn eu cynnig.
Am fwy o wybodaeth anfonwch e-bost atom yn: confuciusinstitute@bangor.ac.uk neu ffoniwch: 01248 388555.