“Roeddwn yn 12 oed pan benderfynais fy mod eisiau astudio coedwigaeth, ac yn fwy penodol, gweithio ar faterion coedwigaeth yn y De Byd-eang. Dewisais Brifysgol Bangor oherwydd bod Pennaeth yr Adran, sef yr Athro Larry Roche, yn goedwigwr trofannol uchel ei barch.
Cyfweliad oedd cam cyntaf y daith. Yr hyn a gwnaeth y marc mwyaf oedd cael fy holi sut y byddwn yn ymdopi fel merch mewn maes sydd wedi’i ddominyddu gan ddynion. Rwy’n cofio cael fy synnu - doeddwn i ddim yn gallu gweld pam y byddai hyn yn broblem. Ac eto, arhosodd y cwestiwn hwnnw gyda mi, ac mae wedi bod yn sail i lawer o agweddau ar fy ngwaith dros y 40 mlynedd diwethaf, gan gynnwys fy PhD ym Mhrifysgol Genedlaethol Awstralia. Roedd fy PhD yn seiliedig ar ymchwil yn Nepal yn archwilio sut mae cast, dosbarth a rhywedd yn dylanwadu ar fynediad at adnoddau coedwigoedd.
Cafodd y diddordeb hwn mewn dimensiynau cymdeithasol a gwleidyddol coedwigaeth ei feithrin yn gryf ym Mhrifysgol Bangor, yn enwedig drwy ddarlithoedd heriol ac ysbrydoledig yr economegydd Colin Price, a’m hanogodd i gwestiynu meddylfryd sefydledig.
Rwyf wedi bod yn ffodus o ddilyn gyrfa amrywiol sydd wedi rhoi llawer o foddhad i mi. Dechreuais yn byw mewn pentrefi yn Nepal, gan geisio deall dynameg gymdeithasol leol a chysylltiadau pŵer. Symudais i Lundain yn ddiweddarach i weithio yn y Sefydliad Datblygu Tramor, lle, ynghyd â Gill Shepherd, es ati i helpu i sefydlu'r Rhwydwaith Coedwigaeth Gymdeithasol. Roedd y fenter hon yn cysylltu ymarferwyr ledled y byd ac yn cyfrannu at y gwaith o ail-lunio coedwigaeth - o ddisgyblaeth hynod dechnegol, i un sy'n cydnabod ei chysylltiadau dwfn â chymunedau a phobl frodorol. Fe wnaethom helpu i symud y ffocws tuag at hawliau, ecwiti ac atebolrwydd, gan annog adrannau coedwigaeth i ailystyried eu dull gweithredu.
Fel ymgynghorydd annibynnol, rwyf wedi parhau â'r gwaith hwn ar draws De a De-ddwyrain Asia, yn ogystal â rhannau o Affrica. Drwy gydol fy ngyrfa, rwyf wedi parhau i fod wedi ymrwymo i ddeall sut i wella bywydau pobl, rhoi llwyfan i’w lleisiau, a herio a thrawsnewid strwythurau pŵer anghyfartal.
Nawr, wrth i mi agosáu at ddiwedd fy ngyrfa, rwy'n canolbwyntio ar roi yn ôl. Rwy'n gwasanaethu ar sawl bwrdd, gan gynnwys The Tenure Facility, RECOFTC, a Chymdeithas Coedwigaeth y Gymanwlad. Wrth edrych yn ôl, rwy'n teimlo ymdeimlad dwfn o falchder - yn enwedig pan fyddaf yn meddwl am Nepal, lle mae 22,000 o gymunedau bellach yn rheoli eu coedwigoedd eu hunain, lle mae bryniau wedi cael eu hadfywio, a gall pobl arfer eu hawliau heb ofn.
Rwyf hefyd yn falch bod materion a ystyriwyd ar un adeg i fod y tu hwnt i gwmpas coedwigaeth - gan gynnwys rhywedd a dosbarth - bellach yn cael eu cydnabod yn eang fel materion canolog. Mae dealltwriaeth gynyddol bod coedwigoedd a phobl yn anwahanadwy, ac y dylai pobl frodorol a chymunedau lleol gadw'r hawliau i lywodraethu a rheoli'r coedwigoedd y maent wedi eu cynnal ers cenedlaethau.
Prifysgol Bangor oedd dechrau’r daith, ac rwy'n parhau i fod yn ddiolchgar iawn i'r Adran Gwyddor Coedwigaeth a Phren ar y pryd am fy helpu i ehangu fy mhersbectif — o weld coedwigoedd fel coed yn unig, i'w deall fel systemau byw a luniwyd gan y bobl sy'n dibynnu arnynt. Rydw i hefyd yn ddiolchgar am gefnogaeth yr adran wrth i mi archwilio fy awydd i ehangu ffiniau coedwigoedd y tu hwnt i weld y coed i weld pobl leol fel rhan o'r rhesymau pam y gellir cynnal coedwigoedd.”