Neges gan Bennaeth Datblygu a Chysylltiadau Alumni
"Croeso i Bangoriad Bach.
Er bod ein cymuned o fyfyrwyr a'n cydweithwyr academaidd yng nghanol semester dau, rydym ni yn y Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni hefyd yn brysur yn ymgysylltu ac yn gweithio gyda chyn-fyfyrwyr ledled y byd. Diolch yn fawr i bawb sy'n cysylltu i rannu eu straeon a diweddariadau eu bywyd – rydym yn mwynhau clywed gennych yn fawr iawn. Diolch hefyd i'r cyn-fyfyrwyr sy'n gwirfoddoli eu hamser i gefnogi'r Brifysgol fel Dr Rebecca Heaton (Coedwigaeth, 1993) sy'n arwain un o'n Darlithoedd Cyn-fyfyrwyr Nodedig y mis nesaf. Dysgwch mwy yn y rhan Digwyddiadau isod. Mae croeso i chi gysylltu â ni unrhyw bryd drwy anfon e-bost at alumni@bangor.ac.uk
Os oes gennych unrhyw ffrindiau sy’n gyn-fyfyrwyr nad ydynt mewn cysylltiad â ni ac a hoffai dderbyn Bangoriad Bach bob mis, rhannwch y neges hon a gofyn iddynt gwblhau ein ffurflen ddiweddaru fel y gallwn gadw mewn cysylltiad â nhw'n uniongyrchol."
Dymuniadau gorau,
Emma Marshall
Pennaeth Datblygu a Chysylltiadau Alumni
NEWYDDION O'R BRIFYSGOL
Llwyddiant Dathliad 200 mlynedd ers agor Pont Menai
Cynhaliwyd diwrnod hanes i nodi 200 mlynedd ers agor Pont Menai ddydd Sadwrn, 31 Ionawr.
Trefnwyd y digwyddiad gan y Brifysgol ac Ymddiriedolaeth Treftadaeth Gymunedol Pont Menai, gyda Dr Marc Collinson a Dr Lowri Ann Rees o Ysgol Hanes y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithasol yn cydlynu, a gyda chefnogaeth Cronfa Bangor a Chyngor Dinas Bangor. Roedd y digwyddiad cyhoeddus, a ddenodd dros 200 o fynychwyr, yn archwilio stori ddiddorol yr esiampl arloesol o beirianneg sifil, ac yn cynnwys cyfres o sgyrsiau deniadol a gyflwynwyd gan academyddion Prifysgol Bangor a haneswyr gwirfoddol o'r Ymddiriedolaeth, a drafodwyd dechreuad y bont yn ogystal â'i datblygiad dros y 200 mlynedd.
Dywedodd Dr Marc Collinson a Dr Lowri Ann Rees, “Roedd yn fraint wirioneddol i drefnu’r digwyddiad, ac rydym yn falch bod cynifer o’r gymuned wedi ymuno â ni i ddathlu’r digwyddiad arbennig. Gyda chefnogaeth o bob cwr o’r brifysgol, a’r gymuned, ochr yn ochr â chefnogaeth gan Gronfa Bangor a Chyngor Dinas Bangor, galluogodd hyn ni i allu coffáu digwyddiad trawsnewidiol yn hanes lleol a chenedlaethol. Hoffem ddiolch i’r grŵp eang o gydweithwyr a gyflwynodd yn y digwyddiad, a’n helpodd i’w drefnu, neu a fynychodd.”
Cronfa Bangor yn cefnogi gwaith i ailddatblygu pwll ac ardal bywyd gwyllt Brambell
Yn ddiweddar mae Cronfa Bangor, sy’n cael ei gweinyddu gan y Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni a’i chynnal trwy roddion gan gyn-fyfyrwyr, wedi cefnogi gwaith i ailddatblygu pwll ac ardal bywyd gwyllt ger Adeilad Brambell. Cafodd yr ardal ei thrawsnewid i fod yn ofod diogel, hygyrch, ac ecolegol gyfoethog a fydd yn cynnig manteision parhaol i fyfyrwyr wrth ddysgu ac ymchwilio.
Bydd yr ardal sydd wedi cael ei hailddatblygu yn adnodd hanfodol ar gyfer teithiau maes israddedig, gan ddarparu cyfleoedd uniongyrchol i arsylwi ecosystemau dŵr croyw ac ecosystemau tir sych, ymarfer technegau arolygu ecolegol, ac archwilio pynciau allweddol ym maes bioleg cadwraeth a gwyddor yr amgylchedd.
Lansio Cwrs Fferylliaeth Prifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor yn dathlu lansiad ffurfiol ei Rhaglen Meistr Fferylliaeth (MPharm) yn Ysgol Feddygol Gogledd Cymru.
Mae'r Rhaglen Meistr Fferylliaeth yn garreg filltir bwysig arall i Ysgol Feddygol Gogledd Cymru Prifysgol Bangor wrth iddi ehangu ei darpariaeth gofal iechyd. Mae'n rhan o genhadaeth y Brifysgol i hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o feddygon, gwyddonwyr, ymchwilwyr ac arweinwyr iechyd. Mae Prifysgol Bangor wedi cofrestru dros 30 o fyfyrwyr yng ngharfan gyntaf y cwrs MPharm. Y nod yw cynyddu'r nifer bob blwyddyn nes bod capasiti i gofrestru hyd at 100 o fyfyrwyr yn flynyddol.
Datganiad gan y Brifysgol ynglyn â Chymdeithas Ddadlau a Gwleidyddiaeth y myfyrwyr
Efallai eich bod yn ymwybodol o neges ddiweddar ar y cyfryngau cymdeithasol gan Gymdeithas Ddadlau a Gwleidyddiaeth Undeb y Myfyrwyr. Yn eu neges, nododd y Gymdeithas eu bod wedi gwrthod cais gan gynrychiolwyr Reform UK i ymweld â’r Brifysgol a chynnal sesiwn Holi ac Ateb gyda myfyrwyr. Hefyd, disgrifiodd y Gymdeithas y neges fel “datganiad swyddogol”, ond nid yw hyn yn gywir.
Ers hynny, mae’r neges wedi denu sylw ar-lein, gan arwain at sylwadau negyddol a diddordeb gan y cyfryngau. Mae’n bwysig egluro bod y neges wedi’i chyhoeddi’n annibynnol gan gymdeithas fyfyrwyr. Mae cymdeithasau myfyrwyr yn gweithredu drwy Undeb y Myfyrwyr, ac maent yn mynegi eu barn eu hunain. Nid ydynt yn cynrychioli safbwynt y Brifysgol, fel yr awgrymwyd yn y neges. Fel Prifysgol, rydym yn parhau i fod yn wleidyddol niwtral, fel y buom erioed, gan gefnogi rhyddid i leisio barn a chael trafodaeth agored ar draws y sbectrwm gwleidyddol.
Mae’r Brifysgol ar hyn o bryd yn trafod y mater gydag Undeb y Myfyrwyr. Rydym hefyd wedi cysylltu â chynrychiolwyr Reform UK i egluro safbwynt y Brifysgol ar ryddid i leisio barn a chael thrafodaeth agored.
Cyn-fyfyrwyr yn dychwelyd ar gyfer cyngerdd Band Pres
Cynhaliwyd Band Pres Prifysgol Bangor ei gyngerdd Alumni yn ddiweddar i ddathlu 15 mlynedd, yn cynnwys dros 50 o gyn-chwaraewyr a chwaraewyr presennol yn cyfuno am gyngerdd a gododd dros £700 i’r band. Diolch gymaint i bawb a wnaeth ymuno, roedd y digwyddiad yn wych!
Gweler mwy o luniau ar ei dudalen Facebook. (Credyd Llun: @hachiko.shots)
Gwreiddiau Llwyddiant: Y Cyfeillion sy'n Meithrin Gardd Fotaneg Treborth
Mae Gardd Fotaneg Treborth Prifysgol Bangor yn drysor. Gan ymestyn dros 44 erw ar hyd Y Fenai sy'n unigryw yn ecolegol, mae'r ardd yn hafan o heddwch yn ogystal â labordy byw sy'n cynnwys pyllau, dolydd, a chasgliad enwog o blanhigion tŷ gwydr. Fodd bynnag, mae’r ardd mewn cyflwr ffyniannus heddiw oherwydd grŵp ymroddedig o selogion i raddau helaeth: Cyfeillion Gardd Fotaneg Treborth.
Prifysgol Bangor ymlith 400 Prifysgol gorau'r byd yn ôl Time
Mae Prifysgol Bangor wedi’i rhestru yn 360fed yn y byd, ail yng Nghymru ac 40fed yn yr DU yn rhestr TIME o Brifysgolion Gorau’r Byd 2026.
Mae’r gydnabyddiaeth hon yn adlewyrchu ymdrech barhaus ar draws y Brifysgol i ddarparu addysg o ansawdd uchel ac ymchwil effeithiol, tra’n cryfhau partneriaethau rhyngwladol a henw da byd-eang y Brifysgol.
Podlediad Llawrydd Llwyddiant Myfyrwyr - Fedrwch chi helpu?
Mae’r Tîm Llwyddiant Myfyrwyr: Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yn gweithio ar brosiect ar hyn o bryd sy'n canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o fanteision gweithio'n llawrydd, yn ogystal â hyrwyddo mynediad at yr adnoddau, y gefnogaeth a'r cyfleoedd sydd ar gael trwy Brifysgol Bangor a Freelancer Club.
Fel rhan o'r gwaith hwn, bydden yn cynnal podlediad ac rydym yn awyddus i gysylltu ag academyddion a chyn-fyfyrwyr a allai fod efo diddordeb mewn rhannu eu profiadau, eu hymchwil, neu eu mewnwelediadau ynghylch gweithio'n llawrydd, hunangyflogaeth, neu themâu cysylltiedig. Os yw hynny'n swnio fel chi (neu rywun rydych chi'n ei adnabod), bydden wrth ein bodd yn clywed gennych chi – cysylltwch â ni ar gyrfaoedd@bangor.ac.uk
Cydnabyddiaeth Genedlaethol i waith Allgymorth Ysgol Feddygol Gogledd Cymru
Mae rhaglen allgymorth arloesol dan arweiniad Ysgol Feddygol Gogledd Cymru, Prifysgol Bangor wedi derbyn cydnabyddiaeth genedlaethol ar ôl ennill Gwobr Cymdeithas Swyddogion Cyswllt Addysg Uwch (HELOA) am yr Arfer Gorau ym maes Ehangu Cyfranogiad, Allgymorth a Mynediad.
Myfyriwr yn astudio PhD yn y Gymraeg ar ôl dysgu'r iaith am ddwy flynedd
Ar ôl dysgu Cymraeg am ddwy flynedd, mae Hammad Rind, myfyriwr PhD yn Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas Prifysgol Bangor, wedi ennill Ysgoloriaeth i wneud doethuriaeth yn y Gymraeg dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Ei bwnc ymchwil ydy cymharu traddodiadau marwnad yn y Gymraeg, Perseg, ac Wrdw.
Ysgol Fusnes Albert Gubay yn gweithio gyda Snowdon Timber
Mae Ysgol Fusnes Albert Gubay ym Mhrifysgol Bangor am gydweithio â chwmni Snowdon Timber am ddwy flynedd a hanner, er mwyn helpu'r cwmni i wneud gwell defnydd o ddata. Nod y bartneriaeth yw helpu'r cwmni cyflenwi pren i sydd wedi'i leoli ym Mangor i hybu refeniw a gwella elw trwy ddefnyddio gwell data, teclynnau digidol newydd, a systemau gwell ar draws y busnes.
DIGWYDDIADAU I DDOD: FE'CH GWAHODDIR
Darlith Cyn-fyfyrwyr Nodedig: Dr Rebecca Heaton
DARLITH CYHOEDDUS: DR REBECCA HEATON
"WILL BUSINESS SOLVE THE ENVIRONMENTAL CRISIS FOR US?"
Dydd Mercher, 18 Mawrth 2026, 6:00 - 7:00pm
Darlithfa Eric Sunderland, Prif Adeilad y Celfyddydau, Prifysgol Bangor
Mae'r argyfwng amgylcheddol yn gwaethygu - mae busnesau'n teimlo effeithiau newid hinsawdd a dirywiad natur. Ond beth maent yn ei wneud amdano ac a allwn ddibynnu ar fyd busnes i ddatrys yr argyfwng hinsawdd a natur ar ein rhan? Yn y darlith yma bydd Dr Rebecca Heaton yn myfyrio ar sut mae cynaliadwyedd ym myd busnes wedi datblygu, a'r rhan y mae busnes wedi ei chwarae a'r rhan y gallai ei chwarae yn y dyfodol.
Mae'r digwyddiad yma yn rhad ac am ddim, ond gofrestrwch o flaen llaw yma os gwelwch yn dda.
Pontio Cymru a Llundain
Dydd Mercher, 27 Chwefror 2026, 4:00pm
Y Shard, Llundain
Fe'ch gwahoddir i fynychu ein digwyddiad Pontio Cymru a Llundain, mewn partneriaeith gyda Grwp Foresight a Menter Môn, yn y Shard, Llundain, 25 o Chwefror am 4yp.
Bwriad y digwyddiad hwn yw rhoi Cymru ar y map fel cenedl o arloeswyr, i arddangos a dathlu arloesedd o Gymru ac i feithrin cysylltiadau newydd. Bydd y sesiwn yn trafod Cyfleoedd Buddsoddi, Mewnwelediadau Sylfaenwyr a'r Sector Bwyd a’r Gadwyn Gyflenwi.
Cofrestrwch yma os gwelwch yn dda. Rydym yn gobeithio yn fawr eich gweld yn y digwyddiad.
Dyddiadau Agored 2026
Os ydych chi hefo diddordeb mewn astudiaethau pellach neu'n helpu rhywun yn eich bywyd i archwilio eu dewisiadau, dewch i un o'n Dyddiau Agored!
Dyma dyddiadau Dyddiau Agored 2026:
- Dydd Sadwrn, 4 Gorffennaf 2026
- Dydd Sul, 16 Awst 2026
- Dydd Sul, 11 Hydref 2026
- Dydd Sadwrn, 24 Hydref 2026
- Dydd Sadwrn, 28 Tachwedd 2026
Mae croeso i chi cysylltu â diwrnodagored@bangor.ac.uk gyda unrhyw ymholiadau.
Cyngerdd Dathlu David Cousins
Dydd Sadwrn, 28 Chwefror, 7:00pm
Neuadd Prichard-Jones, Prifysgol Bangor
Ymunwch â ni am gyngerdd arbennig i anrhydeddu David Cousins, y canwr-gyfansoddwr hynod a sefydlydd y band Strawbs. Bydd y gwesteion arbennig iawn Blue Weaver (Amen Corner, Strawbs, y Bee Gees), Cathryn Craig (the Righteous Brothers) a Brian Willoughby (Strawbs, Mary Hopkin) yn ymuno â Cherddorfa Symffoni Prifysgol Bangor a Chôr Siambr Prifysgol Bangor i ddathlu caneuon oesol David a helpodd i ddiffinio roc gwerin Prydeinig.
Bydd holl elw'r cyngerdd yn cefnogi Ysgoloriaeth Gerddoriaeth David Cousins ym Mhrifysgol Bangor.
Tocynnau (£20 a £10 i fyfyrwyr a dan 18) ar gael yma.
Cyngerdd dathlu pen-blwydd 200 Pont Menai
Ar ddydd Sadwrn 7fed Mawrth bydd Cerddorfa Symffoni a chôr y Brifysgol yn ymuno â Chantorion Menai i berfformio cyngerdd yn dathlu pen-blwydd 200 Bont Menai.
Mae'r ddau grŵp yn ymarfer ar ochrau gyferbyn y bont ac yn gallu uno gyda diolch i gyflawniad peirianyddol rhyfeddol Thomas Telford.
Rhaglen:
- Calm Sea and Prosperous Voyage - Mendelssohn (A ddaeth i wneud braslun o'r Bont yn 1829)
- Celtic Dances - Mathias (Preswylydd Porthaethwy)
- A Sea Symphony - Vaughan Williams
Tocynnau ar gael yma: https://www.pontio.co.uk/en/events/buso