Neges gan Bennaeth Datblygu a Chysylltiadau Alumni
"Croeso i’r e-gylchlythyr i gyn-fyfyrwyr gydag enw newydd, sef Bangoriad Bach!
Efallai bod llawer ohonoch yn cofio ein cylchgrawn papur i gyn-fyfyrwyr, sef 'Bangoriad', ac rydym yn falch o ailgyflwyno'r enw i'n e-gylchlythyr, gydag ychwanegiad "Bach".
Ymddangosodd rhifyn cyntaf 'Bangoriad' ym 1929, ei deitl pryd hynny oedd 'Yr Hen Fangoriad', ac fe'i cyhoeddwyd yn rheolaidd (gyda rhai bylchau, yn enwedig yn ystod yr Ail Ryfel Byd) hyd at y 2010au. Newidiwyd yr enw i 'Y Bangoriad' ym 1968 ac yna i 'Bangoriad' o 2001. Mae'r enw'n dal i atseinio gyda llawer o'n cyn-fyfyrwyr ac felly rydym yn hapus i'w ddefnyddio eto!
Gobeithio y byddwch yn mwynhau darllen y newyddion diweddaraf o’r brifysgol.
Gan ddymuno’n dda i chi yn 2026."
Emma Marshall
Pennaeth Datblygu a Chysylltiadau Alumni
NEWYDDION O'R BRIFYSGOL
Anrhydeddau Blwyddyn Newydd i gyn-fyfyrwyr
Llongyfarchiadau enfawr i gyn-fyfyrwyr Prifysgol Bangor sydd wedi cael eu cydnabod am eu gwaith caled a'u cyflawniadau yn Anrhydeddau Flwyddyn Newydd 2026 Brenin Charles III:
Mark Williams PLY (Academi Busnes Gogledd Cymru, 2021, a Derbynnydd Gradd er Anrhydedd, 2024) – OBE am wasanaethau i Brosthetig
Helen Glencross (Hanes Canoloesol a Hanes Modern Cynnar, 2003) – MBE am wasanaethau i dreftadaeth yn Guernsey
Sheena Harrison (Hyfforddiant Athrawon, 1990, Polisi Cymdeithasol, 1993, Diploma Ôl-raddedig mewn Gwaith Cymdeithasol Cymhwysol, 1997) – BEM am wasanaethau i Bobl Ifanc mewn Gofal Maeth
William Johnston (Diwinyddiaeth, 2003) – MBE am wasanaethau i’r Gweithlu Rheilffyrdd
John Towers (Hanes, 1991) – MBE am wasanaethau i Addysg
Katy Woodington (Bioleg Môr, 1998) – MBE am wasanaethau i’r Sectorau Elusennol ac Ynni
Hefyd wedi derbyn MBE mae’r Athro Julia Jones, sy’n alumna ac Athro mewn Gwyddor Cadwraeth yn ein Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol ym Mhrifysgol Bangor. Caiff yr Athro Jones ei chydnabod yn eang am ei gwaith ar wella effeithiolrwydd cadwraeth natur drwy ddatblygu a chymhwyso dulliau i werthuso effaith polisïau ac arferion cadwraeth. Cafodd yr Athro Jones ei gwahodd i drafod yr anrhydedd ar BBC Radio Wales a chafodd ei synnu gan neges yn ei llongyfarch wedi'i recordio gan Hamza Yassin, cyn-fyfyriwr iddi, a chyn-enillydd y rhaglen Strictly Come Dancing.
Buddsoddiad o £1.4m i ddiogelu dyfodol Adeilad Brambell
Fel rhan o brojectau sylweddol sy’n cael eu hariannu drwy raglen Digarbon Llywodraeth Cymru i wella effeithlonrwydd ynni mae'r brifysgol wedi sicrhau bron i £1.4 miliwn i uwchraddio Adeilad Brambell.
Cafodd Adeilad Brambell ei gwblhau yn 1971 ac mae’r adeilad rhestredig Gradd II yn enghraifft nodedig o bensaernïaeth friwtalaidd. Cafodd ei ddylunio gan gwmni o benseiri o Gymru, Syr Percy Thomas a'i Fab. Mae'r adeilad wedi'i enwi ar ôl Francis W. R. Brambell, Pennaeth Swoleg Prifysgol Bangor o 1930 hyd at ei farwolaeth yn y 1960au. Bydd y buddsoddiad yn talu am osod to newydd ar yr adeilad, uwchraddio systemau mecanyddol a thrydanol a gosod system fodern i reoli’r adeilad er mwyn lleihau'r defnydd o ynni a lleihau allyriadau carbon.
Dod â Chymunedau Ynghyd gyda Chronfa Bangor
Mae project Dod â Chymunedau Ynghyd wedi trawsnewid bywyd myfyrwyr yn yr Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau. Gyda chefnogaeth Cronfa Bangor - sydd yn cael ei hariannu gan gyfraniadau gan gyn-fyfyrwyr - mae myfyrwyr wedi mwynhau cyfleoedd sy'n cyfoethogi eu hastudiaethau, yn cryfhau cyflogadwyedd, ac yn creu atgofion parhaol.
Yr hyn sydd wrth wraidd y fenter yw dosbarthiadau meistr proffesiynol mewn sawl maes creadigol megis gwneud ffilmiau, cyfansoddi cerddoriaeth a chyfarwyddo ar gyfer y teledu. Rhoddodd y sesiynau hyn fynediad uniongyrchol i fyfyrwyr at arbenigwyr yn y diwydiant, gan gynnig mewnwelediadau ymhell y tu hwnt i'r hyn a geir yn yr ystafell ddosbarth.
Achrediad amgueddfa llawn i gasgliadau amgueddfa'r Brifysgol
Mae casgliadau amgueddfa’r Brifysgol wedi cael achrediad amgueddfa llawn. Y Cynllun Achredu yw safon diwydiant y Deyrnas Unedig ar gyfer amgueddfeydd ac orielau. Mae cyflawni achrediad yn sicrhau bod amgueddfeydd ac orielau'n cael eu rheoli i'r safon a gydnabyddir yn genedlaethol ac yn rhoi hyder i gyllidwyr, benthycwyr, rhoddwyr a rhanddeiliaid eraill fod gan yr amgueddfa sylfaen gadarn.
Mae casgliadau achrededig y Brifysgol yn cynnwys celf, cerameg, offerynnau cerdd, eitemau sy’n ymwneud â swoleg a daeareg, pren a phren sydd wedi'i ddifrodi. Ffurfiwyd y casgliadau amgueddfa pwysig hyn ers sefydlu'r Brifysgol ym 1884. Mae hefyd yn werth nodi’r ffaith mai Prifysgol Bangor yw ceidwad Casgliad Hynafiaethau Cymru (dodrefn, tecstilau, eitemau archaeolegol a hanes cymdeithasol) sydd bellach yn cael ei gadw yn Storiel, sydd hefyd yn amgueddfa achrededig.
Arweinwyr Cadwraeth Ifanc yn ennill gwobrau
Mae Prifysgol Bangor, mewn partneriaeth â'r Conservation Foundation, yn falch iawn o gyhoeddi bod tri myfyriwr MSc sy’n astudio ym Mangor ar hyn o bryd wedi cael eu dewis i dderbyn Gwobr Arweinwyr Cadwraeth Ifanc. Mae'r gwobrau'n cefnogi ymgeiswyr sydd â hanes o arloesi’n lleol ym maes cadwraeth. Mae'r gwobrau hyn wedi eu cynllunio i gefnogi projectau ymchwil byr, astudiaethau maes neu brofiad gwaith a chawsant eu sefydlu i alluogi mwy o bobl ifanc i fanteisio ar gyfleoedd dysgu a datblygu, waeth beth eu hamgylchiadau ariannol.
Meddai Dr James Walmsley, uwch ddarlithydd mewn coedwigaeth, “Yn dilyn proses ymgeisio a dethol fewnol, rydym yn falch iawn o gyhoeddi enillwyr Gwobr Arweinwyr Cadwraeth Ifanc 2025-26, a bydd pob un ohonynt yn derbyn bwrsariaeth gwerth £1,000, a roddwyd yn garedig gan y Conservation Foundation. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd y wobr hon yn gwneud gwahaniaeth enfawr i'r tri enillydd ac yn rhoi hwb enfawr i'w hyder a'u cymhelliant. Mae'r bartneriaeth newydd hon gyda'r Conservation Foundation yn gydnabyddiaeth ychwanegol o natur drawsnewidiol ein rhaglenni MSc.”
Ysgoloriaeth newydd i ddogfennu cyfraniadau meddygol gan Iddewon yng Nghymru
Mae ysgoloriaeth ôl-radd newydd, Ysgoloriaeth Goffa Goodwin, wedi ei lansio i ymchwilio i gyflawniadau ymarferwyr meddygol Iddewig yng Nghymru a’u cofnodi. Mae'r fenter wedi ei sefydlu ar y cyd gan y brifysgol a Chymdeithas Hanes Iddewig Cymru a chaiff ei hariannu trwy waddol gan deulu Gerald Goodwin, ffoadur o'r Almaen a fu’n ddeintydd yng nghymoedd y de.
Yn dilyn proses ddethol gystadleuol, dyfarnwyd yr ysgoloriaeth i Laura Henley-Harrison, myfyrwraig ymchwil ôl-radd ym maes y cyfryngau. Bydd yr Athro Nathan Abrams o’r Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau yn goruchwylio'r ymchwil.
Gwneud beth sy'n anodd yn hawdd: Myfyrdodau ar y ffilm "Joy"
Lansio Coleg Treftadaeth Bangor i ysbrydoli pobl ifanc lleol
Lansiwyd Coleg Treftadaeth Bangor yn swyddogol ym mis Tachwedd, gan nodi dechrau project newydd cyffrous sy’n dathlu hanes cyfoethog y ddinas.
Arweinir y fenter gan Brifysgol Bangor gyda chyllid gan Gyngor Dinas Bangor a chefnogaeth gan bartneriaid allanol, ac mae'n cyfuno dysgu ar-lein ag archwilio go iawn. Mae'n cynnig cyfle i blant a thrigolion Bangor archwilio hanes, treftadaeth ac amgylchedd Bangor trwy ddysgu gyda ffrindiau, aelodau o'u teulu a'u cymuned ehangach i gryfhau eu hymdeimlad o berthyn a'u cysylltiad â'r ddinas. Gall cyfranogwyr ennill credydau a thystysgrifau wrth iddynt symud ymlaen, gyda seremoni raddio ar ddiwedd y flwyddyn ar ôl cwblhau.
Newid yn sut mae’r Brifysgol yn Ymwneud â Bancio Buddsoddi
Mae Prifysgol Bangor yn falch o gyhoeddi partneriaeth waith newydd gyda CCLA, sef banc buddsoddi sy'n arbenigo mewn rheoli buddsoddiadau elusennau, sefydliadau crefyddol a'r sector cyhoeddus.
Fel elusen gofrestredig, bydd penderfyniad Prifysgol Bangor i weithio gyda CCLA yn sicrhau bod buddsoddiadau'r brifysgol yn cael eu trin mewn modd cyfrifol gan fanc sy'n deall ein hanghenion ariannol. Mae dull CCLA, sy'n seiliedig ar dreftadaeth a pherchnogaeth gydfuddiannol, yn adlewyrchu cefndir a gwerthoedd Prifysgol Bangor a bydd yn sicrhau bod rhoddion hael ein cyn-fyfyrwyr drwy Gronfa Bangor a rhoddion gan unigolion yn cael eu trin yn y ffordd orau bosib.
Am ragor o wybodaeth ynglŷn â sut y gallwch gyfrannu at waith y brifysgol, cliciwch yma.
DIGWYDDIADAU I DDOD: FE'CH GWAHODDIR
Diwrnod Cofio'r Holocaust
Dydd Mawrth, 27 Ionawr 2026
10.30 - 11.30 am
Neuadd Powis, Prif Adeilad y Celfyddydau, Ffordd y Coleg, Bangor, LL57 2DG
Cynhelir gwasanaeth i nodi Diwrnod Cofio'r Holocost 2026 ym Mhrifysgol Bangor. Bydd y gwasanaeth yn cynnwys cerddoriaeth a darlleniadau gan ysgolion lleol, aelodau o’r gymuned leol a’r cyngor lleol, Undeb y Myfyrwyr, Tîm y Gaplaniaeth, a staff y Brifysgol.
‘Pontio’r Cenedlaethau’ yw thema Diwrnod Cofio’r Holocost 2026, sydd yn alwad i weithredu. Mae Pontio’r Cenedlaethau yn amlygu rôl hollbwysig y genhedlaeth nesaf wrth gadw’r cof am yr Holocost yn fyw a’i drosglwyddo i’r cenedlaethau nesaf. Mae’n dangos pa mor bwerus yw deialog rhwng y cenedlaethau, gwrando ar bobl a ddaeth o’n blaenau a rhannu’r straeon hyn gyda’r cenedlaethau a ddaw ar ein holau. Wrth wneud hynny, nid yn unig ein bod yn cadw cof am y pethau hyn yn fyw, rydym hefyd yn eu cysylltu â’r presennol. Mae’r thema’n ein gwahodd i anrhydeddu pob bywyd, ac i anrhydeddu’r rhai nad oes ganddynt deulu i fedru dwyn y gynhysgaeth hon yn ei blaen.
Mae'r digwyddiad yn rhad ac am ddim, ond ofynnir i chi gofrestru o flaen llaw yma os gwelwch yn dda.
Diwrnod Hanes Deucanmlwyddiant Pont Grog y Borth
Mae Prifysgol Bangor ac Ymddiriedolaeth Treftadaeth Gymunedol Porthaethwy yn cynnal Diwrnod Hanes i nodi deucanmlwyddiant Pont Grog eiconig y Borth ar ddydd Sadwrn 31 Ionawr 2026.
Bydd y diwrnod yn cynnwys cyfres o sgyrsiau diddorol a gyflwynir gan academyddion Prifysgol Bangor a haneswyr gwirfoddol o’r Ymddiriedolaeth. Gyda’i gilydd, byddant yn archwilio stori ddiddorol y Bont - o’r cyfnod cynnar cyn 1826 a’r 200 mlynedd ers hynny - gan dynnu sylw at y llwyddiannau peirianneg a’r heriau a wynebwyd ar hyd y ffordd.
Diwrnod Agored Amgueddfa Hanes Natur Brambell
Bydd yr Amgueddfa Hanes Natur adeilad Brambell ar agor ar Ddydd Sadwrn, 14 Chwefror, rhwng 11yb a 3yp, gan gynnig digwyddiadau am ddim sy’n addas i deuluoedd.
Bydd hyn yn gyfle i ymweld ag Amgueddfa Hanes Natur y Brifysgol, nad yw fel arfer ar agor i’r cyhoedd, er mwyn dysgu mwy am y sbesimenau sydd arddangos. Bydd cyfle i ofyn cwestiynau i’r myfyrwyr a bydd yna hefyd cornel gweithgareddau i blant o bob oedran.
Mae'r digwyddiad yn rhad ac am ddim, ond gofrestrwch eich diddordeb yma o flaen llaw os gwelwch yn dda.
Cyngerdd Dathlu David Cousins
Dydd Sadwrn, 28 Chwefror, 7pm
Neuadd Prichard-Jones, Prifysgol Bangor
Ymunwch â ni am gyngerdd arbennig i anrhydeddu David Cousins, y canwr-gyfansoddwr hynod a sefydlydd y band Strawbs. Bydd y gwesteion arbennig iawn Blue Weaver (Amen Corner, Strawbs, y Bee Gees), Cathryn Craig (the Righteous Brothers) a Brian Willoughby (Strawbs, Mary Hopkin) yn ymuno â Cherddorfa Symffoni Prifysgol Bangor a Chôr Siambr Prifysgol Bangor i ddathlu caneuon oesol David a helpodd i ddiffinio roc gwerin Prydeinig.
Bydd holl elw'r cyngerdd yn cefnogi Ysgoloriaeth Gerddoriaeth David Cousins ym Mhrifysgol Bangor.
Tocynnau (£20 a £10 i fyfyrwyr a dan 18) ar gael yma.
Cyngerdd dathlu pen-blwydd 200 Pont Menai
Ar ddydd Sadwrn 7fed Mawrth bydd Cerddorfa Symffoni a chôr y Brifysgol yn ymuno â Chantorion Menai i berfformio cyngerdd yn dathlu pen-blwydd 200 Bont Menai.
Mae'r ddau grŵp yn ymarfer ar ochrau gyferbyn y bont ac yn gallu uno gyda diolch i gyflawniad peirianyddol rhyfeddol Thomas Telford.
Rhaglen:
- Calm Sea and Prosperous Voyage - Mendelssohn (A ddaeth i wneud braslun o'r Bont yn 1829)
- Celtic Dances - Mathias (Preswylydd Porthaethwy)
- A Sea Symphony - Vaughan Williams
Cysylltiad: joe.cooper@bangor.ac.uk