Fy ngwlad:
Pier - abstract

E-newyddlen i gyn-fyfyrwyr Medi 2025

Os nad ydych yn derbyn ein e-newyddion misol ond hoffech ei derbyn drwy e-bost, cwblhewch ein ffurflen diweddaru i ni gael eich adio i'n rhestr bostio.

Os oes gennych unrhyw sylwadau neu unrhyw beth yr hoffech ei weld yn y rhifynnau yn y dyfodol, cysylltwch â ni yn alumni@bangor.ac.uk.

MWY O NEWYDDION O'R BRIFYSGOL

Neges gan Bennaeth Datblygu a Chysylltiadau Alumni

Rydym yn prysur baratoi i groesawu myfyrwyr newydd a dychweledigion i Fangor ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26. Rwy'n siŵr eich bod yn cofio cyffro a phryder eich dyddiau cyntaf yn y Brifysgol; ymgyfarwyddo â'r campws, gwneud ffrindiau newydd, ymuno â chlybiau a chymdeithasau a mynd i’ch darlithoedd cyntaf.

Rwy'n siŵr y byddwch yn ymuno â mi i ddymuno'r gorau i'n holl fyfyrwyr newydd ac yn gobeithio y dônt yn gyn-fyfyrwyr llwyddiannus a hapus y dyfodol ar gyfrif eu profiad yn y Brifysgol!

Yn gywir,

Emma Marshall

Pennaeth Datblygu a Chysylltiadau Alumni

NEWYDDION O'R BRIFYSGOL

Llwyfan i Fangor yn y Senedd ar gyfer y dathliadau 1500

Cafodd Bangor ei dathlu yng nghalon San Steffan ddydd Iau diwethaf pan gynhaliodd Claire Hughes, yr Aelod Seneddol dros Fangor Aberconwy, ‘Ddiwrnod Bangor’ ar y dydd roedd y ddinas yn dathlu ei sefydlydd, Deiniol Sant.

Daeth y digwyddiad arbennig, rhan o’r rhaglen ehangach Bangor 1500 sy’n digwydd eleni, ag AS, arweinwyr busnes o ar draws Cymru, sefydliadau, grwpiau cymunedol a chynrychiolwyr lleol o Fangor at ei gilydd i roi sylw ar dalent bresennol y ddinas a’i dyfodol uchelgeisiol, yn ogystal â’i hanes balch a’i threftadaeth gyfoethog.

Mynychodd nifer o gyn-fyfyrwyr Bangor y digwyddiad a welodd Yr Athro Edmund Burke, Is-ganghellor, a chydweithwyr o’r Ysgol Gwyddorau Eigion, Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol,  yr Ysgol Feddygol Gogledd Cymru a Gardd Fotaneg Treborth yn cynrychioli'r Brifysgol. 

Fe wnaethant ymuno â nifer o sefydliadau a grwpiau diwylliannol lleol i rannu eu gwaith arloesol a’r cyfleoedd maent yn eu harwain wrth ddathlu’r ddinas, gysylltu gyda’i gilydd a thrafod beth sydd i ddod nesaf ym Mangor.

Dathlu creadigrwydd myfyrwyr yng Ngŵyl Gerdd Bangor

Mae Cronfa Bangor wedi galluogi myfyrwyr i gymryd rhan yng Ngŵyl Gerdd Bangor ac wedi cefnogi aelodau Côr Siambr Prifysgol Bangor wrth iddynt baratoi i berfformio mewn cyfres o gyngherddau drwy gydol y flwyddyn academaidd. 

Roedd Gŵyl Gerdd Bangor wedi denu cyfranogiad brwdfrydig gan 23 o fyfyrwyr ar draws yr Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau, ac roedd llawer ohonynt yn astudio modiwlau cyfansoddi ar y radd cerddoriaeth.

Cafodd y gyngerdd ei hategu gan lyfryn rhaglen estynedig, diolch i Gronfa Bangor. Roedd y llyfryn yn cynnwys cyd-destun gwerthfawr i fyfyrwyr ac i fynychwyr. Mae'r ŵyl yn parhau i fod yn llwyfan i ddysgu, cyfnewid gwybodaeth ac yn gyfle i gynnal archwiliad artistig.

Darganfod mwy

Cyfle i enwebu - Graddau er Anrhydedd 2026

Gwahoddir cyn-fyfyrwyr Prifysgol Bangor i gyflwyno enwebiadau ar gyfer unigolion eithriadol i dderbyn Gradd Er Anrhydedd gan Brifysgol Bangor yn 2026. Graddau Er Anrhydedd yw gwobrau uchaf y Brifysgol, sydd yn rhoi cydnabyddiaeth i bobl sydd wedi gwneud cyfraniadau eithriadol i gymdeithas, sy'n ymgorffori gwerthoedd y Brifysgol ac sy'n haeddu cydnabyddiaeth arbennig am y bri sydd ganddynt yn eu priod faes.

Daw'r bobl sydd wedi eu henwebu yn y gorffennol o feysydd y gwyddorau a thechnoleg, gwasanaethau cyhoeddus, diwydiant, darlledu, y byd academaidd, y celfyddydau, diwydiant a chwaraeon. Roedd derbynwyr Graddau er Anrhydedd 2025 yn grŵp nodedig o unigolion a oedd yn cynrychioli cyflawniad a dylanwad ledled Cymru a thu hwnt.

Gellir gwneud enwebiadau drwy ddefnyddio'r ffurflen hon. Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw 17:00, Dydd Gwener, 15fed Tachwedd 2025.

Gwobr APEX UK am brosiect trawsddisgyblaethol arloesol

Mae Prifysgol Bangor wedi ennill un o Wobrau APEX eleni, wedi cystadleuaeth frwd. Cynllun yw’r Gwobrau APEX a gynhelir ar y cyd gan yr Academi Brydeinig, yr Academi Beirianneg Frenhinol, a'r Gymdeithas Frenhinol gyda chefnogaeth hael gan Ymddiriedolaeth Leverhulme.

Bydd y wobr yn cefnogi cydweithrediad dwy flynedd rhwng dau ymchwilydd uchel eu parch o Brifysgol Bangor. Y ddau ymchwilydd hyn yw’r Athro Zengbo Wang o'r Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg a Dr Ellie Jameson o'r Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol.

Bydd yr ymchwil yn datblygu ffordd newydd o arsylwi haint firaol gan wylio a gwrando ar gelloedd wrth iddynt gael eu heintio. Gyda thechnoleg uwch, gall y tîm weld strwythurau sy’n filoedd o weithiau'n llai na lled blewyn gwallt bod dynol.

Ochr yn ochr â Gwobr APEX ddwy flynedd, bydd y project hefyd yn cael ei gefnogi gan Gronfa Wynne Humphrey Davies, sy’n cael ei weinyddu gan y Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni, ac yn agor y drws ar gyfer cydweithrediadau ymchwil newydd gyda sefydliadau blaenllaw yn yr Unol Daleithiau, gan gynnwys MIT a Phrifysgol Northeastern.

Darganfod mwy

Proffiliau cyn-fyfyrwyr

Rydym o hyd yn falch o glywed eich diweddariadau ac yn ddiolchgar i'n cyn-fyfyrwyr sy'n hapus i rannu eu straeon sydd yn helpu i ysbrydoli darpar fyfyrwyr a myfyrwyr presennol. Gallwch ddarllen rhai o'r diweddariadau gan ein cyn-fyfyrwyr yma.

Os oes gennych stori i'w rannu, mae croeso i chi gysylltu â alumni@bangor.ac.uk

Gwobrau Cyn-fyfyrwyr Study UK 2026

Mae Gwobrau Cyn-fyfyrwyr Study UK y Cyngor Prydeinig yn cydnabod cyflawniadau rhagorol cyn-fyfyrwyr rhyngwladol y Deyrnas Unedig ledled y byd, gan anrhydeddu arweinwyr rhyngwladol sydd wedi defnyddio eu haddysg yn y Deyrnas Unedig i wneud cyfraniadau sylweddol i'w cymunedau, eu diwydiannau a'u gwledydd.

Mae categorïau gwobrau yn cynnwys busnes ac arloesedd, diwylliant, creadigrwydd a chwaraeon, gwyddoniaeth a chynaliadwyedd, a gweithredu cymdeithasol ac mae ceisiadau bellach ar agor ar gyfer 2026.

Rydym yn falch iawn bod cyn-fyfyrwyr Prifysgol Bangor wedi ennill Gwobrau Cyn-fyfyrwyr Study UK yn y gorffennol a byddem wrth ein bodd yn gweld rhai o'ch llwyddiannau’n cael eu cydnabod hefyd!

Os ydych chi'n gyn-fyfyriwr rhyngwladol a astudiodd ym Mangor ac yr hoffech enwebu'ch hun ar gyfer y wobr, gweler gwefan Gwobrau Cyn-fyfyrwyr Study UK i wybod mwy a manylion ynghylch sut i gymryd rhan.

Fe'ch gwahoddir: Darlith gyhoeddus Cymdeithas y Cenhedloedd Unedig

"From Taboo to Necessity: Preparing for a New Dawn in Global Governance", Yr Athro Augusto Lopez-Claros

Mewn cydweithrediad â Changen Menai o Gymdeithas y Cenhedloedd Unedig (UNA)

Dyddiad: Dydd Mercher, 8 Hydref

Amser: 6yh – 7yh  

Lleoliad: Darlithfa Eric Sunderland, Pryfysgol Bangor, Ffordd y Coleg, Bangor, LL57 2DG

Ymunwch a'r Economegydd rhyngwladol, Yr Athro Augusto Lopez-Claros, am ddarlith gyhoeddus a fydd yn trafod yr argyfyngau cyfoes y mae dynoliaeth yn eu hwynebu a'r fath newydd o gytundeb rhyngwladol sydd ei angen. Sut olwg ddylai fod ar Siarter newydd y Cenhedloedd Unedig, er mwyn moderneiddio ein pensaernïaeth llywodraethu fyd-eang a grymuso’r Cenhedloedd Unedig i’n helpu i fynd i’r afael â’r llu o risgiau trychinebus byd-eang sy’n bygwth ein dyfodol?

Yr Athro Lopez-Claros yw Cyfarwyddwr Gweithredol y Fforwm Llywodraethu Byd-eang. Mae wedi cyhoeddi nifer o lyfrau am ddiwygio llywodraethu byd-eang ac ar hyn o bryd mae'n arwain gwaith y Fforwm Llywodraethu Byd-eang o ddrafftio Ail Siarter y Cenhedloedd Unedig. Mae'n dod â mwy na 30 mlynedd o brofiad mewn sefydliadau rhyngwladol, gan gynnwys yn fwyaf diweddar fel cyfarwyddwr y Grŵp Dangosyddion Byd-eang ym Manc y Byd.

Mae'r mynychu'r ddarlith yn rhad ac am ddim ond mae gofyn i chi gofrestru o flaen llaw. Am fwy o wybodaeth ac i gofrestru, gweler ein gwefan.

 

Recriwtio Ymddiriediolwyr Allanol Undeb Bangor

DYDDIAD CAU WEDI EI ESTYN! 6ED HYDREF 2025

Mae Undeb Bangor (Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor) yn recriwtio dau Ymddiriedolwr Allanol newydd i ymuno â’u Bwrdd Ymddiriedolwyr.

Mae Undeb Bangor yn elusen ddemocrataidd dan arweiniad myfyrwyr ac yn cael ein hariannu (yn bennaf) drwy grant blynyddol gan Brifysgol Bangor. Er ein bod yn gweithio’n agos gyda’r Brifysgol, mae’r Undeb yn sefydliad ar wahân ac mae penderfyniadau’n cael eu gwneud yn fewnol gan ein haelodau.

Mae’r Bwrdd Ymddiriedolwyr yn chwarae rôl hanfodol wrth arwain cyfeiriad strategol Undeb Bangor, sicrhau llywodraethu cadarn, a hyrwyddo diwylliant sy’n adlewyrchu ei gwerthoedd. Mae’r Undeb bellach yn awyddus i adeiladu ar fomentwm drwy groesawu dau ymddiriedolwr newydd sy’n rhannu ei hymrwymiad i rymuso myfyrwyr ac i ragoriaeth sefydliadol.

Mae hon yn rôl wirfoddol ddi-dâl a byddwch yn rhoi eich amser i sicrhau eu bod yn gwneud penderfyniadau ariannol cadarn ac yn dilyn fframweithiau cyfreithiol. Am ragor o wybodaeth a gwybodaeth ar sut i ymgeisio, gweler y Pecyn Recriwtio Ymddiriedolwr Allanol.

Am sgwrs anffurfiol, cysylltwch â Mair Rowlands, Cyfarwyddwr Undeb y Myfyrwyr - mair.rowlands@undebbangor.com

Gostyngiad cyn-fyfyrwyr ArtUK

Mae Prifysgol Bangor wedi casglu a chomisiynu ystod eang o weithiau celf ers ei sefydlu ym 1884. Mae'r casgliad bellach yn cynnwys dros 600 o weithiau, yn dyddio o'r ail ganrif ar bymtheg i'r unfed ganrif ar hugain, gyda gweithiau celf gan lawer o artistiaid nodedig gan gynnwys Kyffin Williams, Evan Walters a Frederick William Hayes.

Rydym wrth ein bodd yn gallu cynnig y cyfle i chi ddod â darn o'r casgliad eithriadol hwn i'ch cartref eich hun gyda phrintiau hardd o rai gweithiau o'n casgliad. Yn well fyth, gall cyn-fyfyrwyr a chyfeillion y Brifysgol elwa o ostyngiad o 10% ar eich archeb trwy ddefnyddio'r cod "BANGORALUMNI". Cliciwch yma i weld y casgliad.

Cwmni gyn-fyfyriwr yn derbyn cymorth AI gan Brifysgol Bangor

Ers lansio dwy flynedd yn ôl mae cwmni Pelly, sy’n dadansoddi data ar gyfer clybiau pêl-droed, yn mynd o nerth i nerth; ac yn ddiweddar maen nhw wedi derbyn buddsoddiad gan Brifysgol Bangor er mwyn gwella eu dealltwriaeth o ddealltwriaeth artiffisial (AI).

Mae Pelly yn ap sy’n canolbwyntio ar ganoli gwybodaeth a gweithgarwch ar gyfer clybiau pêl-droed, fel adroddiadau ar ddata chwarae’r chwaraewyr, hanes anafiadau, contractau, bonysau a beth maen nhw’n bostio ar y cyfryngau cymdeithasol.

Fe aeth un o sylfaenwyr Pelly, Tomos Owen o Benllech, ati i ddatblygu’r platfform tra’n fyfyriwr ym Mhrifysgol Bangor.  Mae Pelly yn gweithredu o M-SParc, parc gwyddoniaeth y Brifysgol yng Ngaerwen, ac mae Tomos a'i gyd-sylfaenwyr, wedi elwa o gydweithio â Dr Gavin Lawrence, uwch ddarlithydd mewn datblygu talent ac arbenigedd ym Mhrifysgol Bangor. 

Darganfod mwy

Arolwg Canlyniadau Graddedigion

Yr Arolwg Canlyniadau Graddedigion yw arolwg cymdeithasol mwyaf y Deyrnas Unedig, a luniwyd i gasglu safbwyntiau a statws cyfredol graddedigion diweddar. 

Os ydych wedi cwblhau cwrs addysg uwch yn y Deyrnas Unedig, cewch eich gwahodd i gymryd rhan yn yr arolwg 15 mis ar ôl gorffen eich astudiaethau. 

 

Mae’r arolwg hwn yn holi a ydych mewn swydd, addysg bellach, neu’n dilyn cyfleoedd eraill - ac yn holi sut mae eich cymhwyster wedi dylanwadu ar eich taith. 

Cewch ragor o wybodaeth yma.

 
Cofiwch sicrhau bod eich manylion cyswllt diweddaraf gennym er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn cael gwahoddiad i lenwi'r Arolwg Canlyniadau Graddedigion.