Rydym yn gweld ein holl fyfyrwyr fel unigolion ac yn deall eu cryfderau. Mae drysau ein swyddfeydd bob amser yn agored i'n holl fyfyrwyr, p'un a ydynt yn dymuno trafod eu gwaith academaidd, eu damcaniaethau ymchwil neu gael sgwrs am fywyd. Mae unrhyw un sy'n dewis astudio gyda ni yn cael help pob cam o'r ffordd a bydd yn graddio gyda chymhwyster sy'n cael ei barchu gan gyflogwyr, yn ogystal ag atgofion a ffrindiau fydd yn para am oes.
Rydym yn gymuned fywiog gyda labordai â chyfarpar da, cyfrifiaduron wedi eu rhwydweithio gan ddefnyddio meddalwedd o safon diwydiant a'n llyfrgell ein hunain. Mae ein hymchwil a'n rhyngweithio pellach â diwydiant yn sicrhau bod ein cyrsiau'n adlewyrchu'r datblygiadau diweddaraf. Mae'r staff yn ymarferwyr yn y maes sy'n gweithio ar brojectau ar y cyd ac yn gweithredu fel ymgynghorwyr i ddiwydiant.
Yn aml, cynhelir projectau blwyddyn olaf mewn cydweithrediad â chwmni lleol - gan roi manteision i chi pan fyddwch yn chwilio am waith.
Mae llawer o'n graddau cyfrifiadureg wedi eu dilysu gan Gymdeithas Gyfrifiadurol Prydain sef y sefydliad siartredig ym maes technoleg gwybodaeth.
Yn ddiweddar rydym wedi sefydlu labordy rhwydweithio mawr - a gynlluniwyd i roi'r cyfle i ddylunio a gweinyddu rhwydweithiau a chefnogi'r gwaith o gyflwyno modiwlau pensaernïaeth gyfrifiadurol.
Mae ein holl gyrsiau ar gael gyda blwyddyn ar leoliad.