Cyfleusterau Maes
Canolfan Ymchwil Henfaes yw safle gwaith maes arbennig yr ysgol, tua saith milltir o Fangor, ac mae’n ymestyn ar draws 252 o hectarau. Mae Henfaes yn cynnig cyfleoedd heb eu hail i astudio amgylcheddau amrywiol o dir ar lefel y môr i rai o'r tiroedd uchaf yn Eryri, i gyd ar yr un fferm.
Mae ardal iseldir 49 hectar yn cynnig cyfleusterau ymchwil ac addysgu ym maes gwyddor yr amgylchedd, amaethyddiaeth iseldir (gan gynnwys cnydau ar a phori da byw), coedwigaeth, hydroleg, a chadwraeth. Mae ganddo hefyd draethlin helaeth lle gellir astudio prosesau morfeydd heli arfordirol.
Mae gwaith presennol yn cael eu hariannu gan Defra, Llywodraeth Cymru, BBSRC, NERC, yr Undeb Ewropeaidd, a diwydiant. Rydym yn denu staff, myfyrwyr, a phrosiectau o ar draws y byd i Henfaes.
Mae Henfaes yn un o safleoedd dwysau cynaliadwy Defra, ble yr astudir sut i gynyddu cynhyrchiant bwyd heb gynyddu allyriadau nwyon tŷ gwydr. Mae hefyd yn safle sy'n rhan o'r Platfform Fferm Rhyngwladol.
Mae Henfaes yn Ganolfan Arloesi i LEAF, ac yn Safle Arloesi i raglen Cyswllt Ffermio Llywodraeth Cymru.
Mae Henfaes hefyd yn rhan bwysig o Ganolfan Defnydd Tir Cynaliadwy Syr William Roberts.
Cyfleusterau ymchwil yn Henfaes
Mae adnoddau a chyfleusterau ymchwil yn Henfaes yn cynnwys:
- Dau labordy modern gydag offer cysylltiedig i baratoi samplau a gwneud rhai dadansoddiadau ar y safle;
- Tai gwydr wedi eu rheoli gan gyfrifiaduron (gan gynnwys lysimedr 24 tanc);
- Ystafelloedd twf;
- Gorsaf dywydd awtomatig sy'n trosglwyddo data trwy delemetreg;
- Plotiau arbrofol tymor hir ar gyfer tir pori, cnydau, amaeth-goedwigaeth, coedwigaeth a gwyddor pridd ar draws 40 hectar;
- 16 o gromenni haul (a reolir gan y Ganolfan Ecoleg a Hydroleg), a ddefnyddir ar hyn o bryd i wneud gwaith cysylltiedig ag oson.
- Ystafell gyfarfod; a swyddfeydd gyda chyfleusterau cyfrifiadur sy'n gysylltiedig â Bangor trwy linell ffibr-optig bwrpasol.
- Plotiau cnydau arddangos, a ddefnyddiwyd mewn gweithgareddau ymchwil a datblygu blaenorol a gyllidwyd gan Lywodraeth Cymru a'r UE.
Mae Canolfan Ymchwil Henfaes yn gartref hefyd i arbrawf amaeth-goedwigaeth, Arbrawf Cyfoethogi Carbon (BangorFACE / BangorDIVERSE), treial tarddiad ynn, arbrofion biosiar a threialon rhywogaethau porthiant.
Addysgu yn Henfaes
Ymysg y cyfleusterau yn Henfaes y mae darlithfeydd a labordai, a ddefnyddir i addysgu israddedigion ac ôl-raddedigion. Mae'r gweithgareddau addysgu yn cynnwys ymarferion samplo a chasglu data gydag israddedigion, a gwaith project o dan arweiniad israddedigion, ac ôl-raddedigion hyfforddedig ac ymchwil.
Canolfan Rheolaeth Bryndir ac Ucheldir (CHUM)
Yn Henfaes hefyd y ceir y Ganolfan Rheolaeth Bryndir ac Ucheldir (CHUM), sy'n cael ei rheoli fel uned defaid masnachol (dan gynllun amaeth-amgylchedd). Mae'r fferm yn dal i weithredu'n fasnachol, gyda 1,650 o famogiaid mynydd Cymreig pur, gwartheg, a 12 o ferlod mynydd Cymreig pedigri (Adran A).
Nod CHUM yw ymgymryd â gweithgareddau amaethyddol masnachol gyda'r ymarfer amgylcheddol gorau, a gwneud elw hyfyw yr un pryd. Mae darn sylweddol o'r ucheldir ar y fferm yn meddu ar statws ardal dan warchodaeth o dan ddeddfwriaeth y DU (Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, Gwarchodfa Natur Genedlaethol) ac o dan Gyfarwyddeb Cynefinoedd yr UE (Ardal Cadwraeth Arbennig). Mae hyn yn rhoi cyfleoedd i astudio effeithiau cynlluniau rheoli ar berfformiad ariannol ac amgylcheddol fferm.
Mae CHUM yn cynnwys amrywiaeth o laswelltiroedd yn ogystal â blociau coedwigoedd conifferaidd a choedwigoedd collddail sy’n ffinio â Gwarchodfa Natur Genedlaethol Coedydd Aber. Rydym hefyd yn gallu defnyddio’r mynydd sydd uwchben CHUM i wneud ymchwil ar fawn a rhostiroedd.
Rydym yn aelodau o Gymdeithas Porwyr Tir Comin Aber a Llanfairfechan, gyda hawliau pori i 1850 o ddefaid ar ardaloedd tir comin Aber a Llanfairfechan ym mynyddoedd y Carneddau (sy’n eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol). Mae'r tir comin yn cynnwys cynefinoedd mynyddig sensitif (uwchben y coedlin) a rhywogaethau o ddiddordeb cadwraeth i'r Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd, ac mae darn sylweddol o'r tir wedi ei ddynodi'n Ardal Cadwraeth Arbennig o dan Gyfarwyddeb Cynefinoedd yr UE.