Mae ymchwil o dan y thema hon yn archwilio'r ffyrdd amrywiol y mae pobl yn rhyngweithio â'r amgylchedd ac effaith bosib y cysylltiadau hyn.
Mae hyn yn cynnwys yr effeithiau lles, bywoliaeth a datblygiad y gall natur eu cael ar bobl mewn amrywiaeth o gyd-destunau rhyngwladol, gan roi sylw arbennig i wahaniaethau. Mae hefyd yn cynnwys deall y prosesau gwneud penderfyniadau sy'n sail i sut mae pobl yn rhyngweithio â natur. Mae ein hymchwil yn edrych ar achosion o wrthdaro, rhwng pobl a rhwng pobl a natur, sy’n aml yn gysylltiedig â'r gwahanol ffyrdd y mae natur yn cael ei gwerthfawrogi a'i deall. Rydym hefyd yn gwerthuso effeithiolrwydd a rhesymeg sy'n sail i wahanol ddulliau llywodraethu. Yn olaf, rydym yn edrych ar y ffyrdd y mae pobl yn gweithredu i fynd i'r afael â newid amgylcheddol ac addasu iddo.
Mae'r ymchwil hwn yn cymhwyso cyfuniad o ddulliau ar draws y gwyddorau cymdeithasol amgylcheddol, y dyniaethau, cadwraeth ac economeg amgylcheddol, gan gynnwys dadansoddi data ansoddol a meintiol.