Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Yn Rhan Un y cwrs, mae myfyrwyr yn datblygu sgiliau a meithrin gwybodaeth bwnc wrth baratoi ar gyfer Rhan Dau, sef traethawd hir 20,000 o eiriau. Nod y Diploma, sef Rhan Un y rhaglen MA, yw datblygu dysgwyr annibynnol i’r graddau y bo myfyrwyr yn abl i ddechrau traethawd hir ysgolheigaidd ar lefel MA.
Hyd y Cwrs
MA: Blwyddyn yn llawn-amser, 2-3 blynedd yn rhan-amser; Diploma: 9 mis yn llawn amser (astudio rhan-amser ar gael hefyd).
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Rhan Un: Ar ddechrau'r cwrs hwn, rhaid i bob myfyriwr gofrestru ar gyfer modiwlau gorfodol.
Rhan Dau: Traethawd hir – darn sylweddol o ymchwil ysgolheigaidd, ar bwnc o'ch dewis eich hun ac wedi'i drafod yn fanwl gyda'r goruchwyliwr a ddewiswyd.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modwilau Astudiaethau Canoloesol .
Mae cynnwys y cwrs wedi'i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Gofynion Mynediad
Gradd israddedig 2.ii neu gyfwerth mewn pwnc perthnasol (e.e. Astudiaethau Llenyddol, Hanes, Astudiaethau/Llenyddiaeth Arthuraidd, Astudiaethau'r Oesoedd Canol).
Dylai'r ymgeiswyr amlinellu'r maes yr hoffent arbenigo ynddo (e.e. hanes, astudiaethau llenyddol) yn eu datganiad personol. Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.
Yn achos myfyrwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf, bydd arnynt angen sgôr IELTS o 6.5 o leiaf (heb i unrhyw elfen fod yn is na 6.0).
Gyrfaoedd
Mae'r MA hwn yn eich paratoi ar gyfer gyrfa mewn addysgu, cyhoeddi ac amrywiaeth o weithgareddau cysylltiedig, yn ogystal â chynnig paratoad ar gyfer ymchwil bellach mewn addysg uwch.