Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Bydd y cwrs hwn yn eich galluogi i ddatblygu gwybodaeth theoretig ac ymarferol uwch o egwyddorion sylfaenol dadansoddi ymddygiad a chymhwyso’r egwyddorion o fewn sefyllfaoedd clinigol ac ymchwil. Datblygwyd y rhaglen gan ddadansoddwyr ymddygiad ardystiedig y bwrdd (BCBA) mewn cydweithrediad â'r Behavior Analysts Certification Board (BACB). Mae'n cynnwys eu rhestrau tasgau cyfan ac mae'r BACB yn cydnabod ei fod yn darparu'r meini prawf cymhwysedd cynnwys sy'n angenrheidiol i sefyll yr arholiad BCBA llawn os dymunwch.
Mae rhan un yn cynnwys modiwlau hyfforddedig sydd wedi eu cynllunio ar sail rhestr dasgau y BACB. Ar ôl cwblhau rhan un, byddwch yn symud ymlaen i ran dau - astudiaeth ymchwil glinigol, a gynllunir mewn cydweithrediad â'ch goruchwyliwr ymchwil â chymhwyster BCBA. Ceir hefyd dewis i nifer fach o fyfyrwyr gwblhau interniaeth glinigol dros ddwy flynedd sy'n bodloni safonau profiad y BACB. Cewch eich dysgu trwy gyfuniad o weithdai, seminarau, pecynnau hyfforddi arbenigol ar gyfrifiadur a phrofiad ymchwil ymarferol. Rydym yn cynnig amgylchedd addysgu a dysgu o ansawdd uchel sy'n ysgogol yn ddeallusol ac sy'n defnyddio egwyddorion dadansoddi ymddygiad.
Efallai y byddwch yn dewis cymryd nifer llai o fodiwlau ar gyfer tystysgrif ôl-radd neu ddiploma, neu at ddibenion DPP.
Hyd y Cwrs
Blwyddyn yn llawn-amser neu 2 flynedd yn llawn amser i fyfyrwyr sy'n dewis gwneud y practicum. Mae'r cwrs hefyd ar gael yn rhan-amser.
Cynnwys y Cwrs
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modwilau Dadansoddi Ymddygiad Cymhwysol .
Mae cynnwys y cwrs wedi'i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Gofynion Mynediad
Gradd israddedig 2(ii) neu gyfwerth o leiaf. Gall ymgeiswyr hŷn (25+ ar ddechrau'r cwrs) heb radd ond sydd â phrofiad perthnasol hefyd gael mynediad i'r cwrs ar lefel tystysgrif. Gall profiad clinigol perthnasol gynnwys gwaith â thâl neu waith gwirfoddol mewn ysgolion, cartrefi gofal, gwasanaethau oedolion, gwasanaethau iechyd meddwl ac ati a bydd cyfarwyddwr y cwrs yn ei adolygu fel y bo'n briodol. Ar ôl cwblhau'r cwrs tystysgrif yn llwyddiannus, bydd ymgeiswyr o'r fath yn gymwys i symud ymlaen i'r diploma a'r lefel meistr.
IELTS: Gofynnir am 6.5 (heb unrhyw elfen dan 6.0). Rhaid cyflwyno ceisiadau electronig i'r ysgol erbyn 1 Mai bob blwyddyn. Cysylltir ag ymgeiswyr posib sy'n bodloni'r holl feini prawf eraill i gael cyfweliad byr gyda chyfarwyddwr y cwrs. Bydd cyfweliadau'n cael eu cynnal naill ai'n bersonol neu trwy gyfrwng telegynadledda. Cynigir lleoedd erbyn diwedd mis Mehefin.
Gyrfaoedd
Mae ymgeiswyr llwyddiannus yn gadael y cwrs ar ôl bodloni elfen hyfforddedig y meini prawf cymhwysedd i sefyll arholiad ardystio dadansoddwr ymddygiad ardystiedig y bwrdd a gynigir gan y Behavior Analyst Certification Board (BACB). Mae'r BACB yn gorff proffesiynol rhyngwladol sy'n goruchwylio'r proffesiwn dadansoddi ymddygiad. Mae cyflogwyr yn chwilio fwyfwy am bobl sydd wedi cymhwyso fel dadansoddwr ymddygiad ardystiedig, ac mae gan ein myfyrwyr fantais amlwg wrth geisio hyfforddiant uwch a chyflogaeth bellach mewn meysydd cyflogaeth sy'n delio ag ymddygiad heriol, darpariaethau addysgol arbennig ac anableddau datblygiadol.
Gwneud Cais