Trawsgrifiad Fideo
[00:00-00:01] Helo,
[00:01-00:02] Arwyn Roberts 'dw i,
[00:02-00:05] Cyfarwyddwr Cwrs BA Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid,
[00:05-00:08] A dwi just isio dy longyfarch am dderbyn lle ar y cwrs.
[00:08-00:12] Dwi'n edrych ymlaen i ddod i dy nabod di yn ystod yr Wythnos Groeso.
[00:12-00:15] Mae holl fanylion yr wythnos fan hyn i ti ar y wefan.
[00:15-00:16] Hwyl!
Dyma amserlen eich Wythnos Groeso, sy'n cynnwys digwyddiadau sy’n ymwneud â’ch Ysgol/Cwrs Academaidd a digwyddiadau canolog sy’n agored i bob myfyriwr.
Cyfarwyddwr eich cwrs yw Arwyn Roberts (a.b.roberts@bangor.ac.uk).
Edrychwn ymlaen at gwrdd â chi a'ch croesawu ar y cwrs.
Sylwch y gall y digwyddiadau newid, felly cadwch lygad am ddiweddariadau neu ychwanegiadau newydd.
Côd lliw eich amserlen
I wneud pethau'n haws, rydym wedi creu côd lliw ar gyfer y digwyddiadau:
Mae Digwyddiadau Gorfodol (bloc coch) yn cynnwys gwybodaeth a gweithdrefnau hanfodol y bydd eu hangen arnoch i lywio eich taith academaidd.
Mae Digwyddiadau a Argymhellir (bloc melyn) yn cynnig cyfleoedd i gwrdd â chyd-fyfyrwyr a staff y Brifysgol, neu i gael gwybodaeth a chymorth ychwanegol ar wella eich profiad myfyriwr.
Mae Digwyddiadau Cymdeithasol (gyda llun) yn ffordd berffaith o wneud ffrindiau, darganfod angerdd newydd, a chreu atgofion yn ystod eich wythnos gyntaf yn y Brifysgol.