Fy ngwlad:

Croeso i'r Ysgol y Celfyddydau a'r Dyniaethau

Ruth McElroy

Os ydych chi'n frwd dros eich pwnc ac yn awyddus i gael eich herio a'ch ysgogi i gyrraedd eich potensial, Ysgol y Celfyddydau a'r Dyniaethau yw'r lle gorau i chi.

Dros bron i ganrif a hanner o ddysgu’r celfyddydau, diwylliant ac ieithoedd, sefydlodd Bangor ei hun yn ganolfan ragoriaeth genedlaethol a rhyngwladol yn y maes.

Mae Ysgol y Celfyddydau a'r Dyniaethau yn gartref i ystod eang o bynciau, ac rydym yn anelu at ddysgu’r myfyrwyr mewn dosbarthiadau bach.

Mae gan yr ysgol gyfleusterau ymchwil ac addysgu rhagorol, ac mae hefyd yn gwneud cyfraniad sylweddol at agenda ddinesig y Brifysgol ac at ymgysylltu â’r cyhoedd yn lleol, yn rhanbarthol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae'r Ysgol ar flaen y gad yng nghenhadaeth y Brifysgol i sefydlu ethos ac amgylchedd gwaith dwyieithog o’r radd flaenaf o safon ryngwladol.

Canolfannau Ymchwil a Grwpiau Ymchwil

Canolfan Astudiaethau Pentecostaidd a Charismataidd

Mae Canolfan Astudiaethau Pentecostaidd a Charismataidd Prifysgol Bangor yn Ganolfan academaidd arloesol ac adeiladol sy'n cynnig cyfle i oruchwylio PhD ar draws y disgyblaethau diwinyddol fel y maent yn ymwneud â'r Mudiadau Pentecostaidd a Charismataidd.

Mwy

Y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd

Mae'r ganolfan newydd hon yn tynnu sylw at y cyfoeth o arbenigedd a'r traddodiad o ymchwilio a dysgu yn y maes Arthuraidd a geir ym Mangor ers sefydlu'r brifysgol ym 1884. 

Mwy

Y Ganolfan dros Farddoniaeth Gyfoes (ContemPo)

Mae'r Ganolfan dros Farddoniaeth Gyfoes (a elwir yn anffurfiol yn 'ContemPo') yn ganolfan ymchwil draws-sefydliadol, gydweithredol a sefydlwyd yn 2006.

Mwy

Y Ganolfan Astudiaethau Ffilm, Teledu a Sgrin

Mae'r ganolfan newydd hon yn dwyn ynghyd ysgolheigion o ddisgyblaethau ar draws Prifysgol Bangor sy'n addysgu ac ymchwilio i wahanol agweddau ar astudiaethau ffilm, teledu a sgrin.

Mwy

Y Ganolfan Astudiaethau Galisaidd yng Nghymru

Fforwm ar gyfer ymchwil ar Galicia gyfoes. Mae materion yn ymwneud â dwyieithrwydd a hunaniaeth ddiwylliannol a'u perthnasedd i ddiwylliant Galicia a diwylliant Cymru o ddiddordeb arbennig i'r fforwm.

Mwy

Canolfan Ymchwil i Ddwyieithrwydd

Mae'r ganolfan wedi ei lleoli ym Mhrifysgol Bangor ac yn gweithredu ar draws nifer o ysgolion a cholegau. Mae ymchwil ym maes dwyieithrwydd yn seiliedig ar sawl disgyblaeth, gan gynnwys dwyieithrwydd, seicoleg, niwrowyddoniaeth, addysg, cymdeithaseg, economeg a gwyddor wleidyddol.

Mwy

Canolfan Ymchwil R.S. Thomas

Agorwyd y Ganolfan yn swyddogol gan R.S. Thomas ym mis Ebrill 2000. Mae ei archif yn cynnwys y cyfan mae R.S.Thomas wedi ei gyhoeddi, ynghyd â chasgliad cynhwysfawr o adolygiadau, llyfrau beirniadol ac erthyglau, cyfweliadau a deunydd clyweledol. Mae'r deunydd hwn ar gael i ysgolheigion gwadd.

Mwy

Canolfan Ymchwil Cymru

Mae Canolfan Ymchwil Cymru yn dwyn ynghyd pawb ym Mhrifysgol Bangor sy'n gweithio ar Gymru yn Gymraeg a Saesneg ar draws y Celfyddydau a'r Dyniaethau ac mewn maes polisi iaith.

Mwy

Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru

Cafodd #Ecoamgueddfa Pen Llŷn, yr ecoamgueddfa gyntaf yng Nghymru, a hyd y gwyddom yr ecoamgueddfa ddigidol gyntaf yn y byd ei chreu drwy gydweithio agos rhwng Lab Cynaliadwyedd Prifysgol Bangor, Cyngor Gwynedd a’r partneriaid ym Mhen Llŷn

Mwy

Stephen Colclough Centre for the History and Culture of the Book

Mae Canolfan Stephen Colclough ar Hanes a Diwylliant y Llyfr yn ganolfan ryngddisgyblaethol i astudiaethau uwch o'r llyfr fel arteffact, yn y gorffennol, y presennol a'r dyfodol, ac o'r diwylliannau sy'n gysylltiedig â'r llyfr.

Mwy

Rhesymeg, Ieithyddiaeth, a Niwroteip

Mae'r Grŵp Ymchwil Rhesymeg, Ieithyddiaeth, a Niwroteip (ReLiaNt) yn cynnwys ymchwilwyr ôl-raddedig sydd â diddordeb mewn defnyddio dulliau gwyddoniaeth ieithyddol a gwybyddol i ddeall yn well y gwahaniaethau mewn gwybyddiaeth a chyfathrebu mewn niwroteipiau gwahanol(gan gynnwys awtistiaeth, ADHD, a dyslecsia).

Mwy

Unedau Academaidd-gysylltiedig:

Mae gan yr ysgol dair o unedau academaidd-gysylltiedig

Mae gan yr ysgol dair o unedau academaidd-gysylltiedig

Academyddion Rhagorol

Dyma Ysgol amrywiol ond cydgysylltiedig sy’n cynnal cymuned o academyddion ac ymarferwyr creadigol rhagorol a nodedig sy'n cynhyrchu ymchwil o'r radd flaenaf mewn meysydd o gryfder craidd gan gynnwys Astudiaethau Diwylliannol Rhyngddisgyblaethol, Ysgrifennu Creadigol, Cerddoleg a Chyfansoddi, Perfformio a Ffilm, Ieithyddiaeth a Chynllunio Ieithyddol, Testunau Materol a Diwylliannau Materol, a Chysylltiadau Diwylliannol ledled Cymru, Ewrop a'r Byd.

Cyfleusterau

Yn gefn i’r addysgu a'r ymchwil mae archifau a chasgliadau arbennig eithriadol a chyfleusterau llyfrgell a digidol rhagorol ac ymgysylltiad dwfn â'r dyniaethau digidol.

Amlieithog

Mae'r Ysgol, fel Bangor a'r cymunedau cyfagos, yn amlieithog; defnyddir y Gymraeg a'r Saesneg yn yr ysgol at ddibenion cyfathrebu, addysgu ac ymarfer creadigol, ac mae’r staff a’r myfyrwyr yn siarad ac yn astudio amrywiaeth o ieithoedd gwahanol.  Mae gan yr ysgol agwedd fwriadol ryngwladol at ymchwil, a hynny’n seiliedig ar ein hunaniaeth ieithyddol a diwylliannol unigryw a'n lleoliad rhyfeddol,  Mae'n ymgysylltu ag ysgolheigion ledled y byd, mae’n ymgymryd ag ymchwil gymharol a rhyngwladol a ariennir yn allanol ac mae’n gartref i gymuned o staff a myfyrwyr rhyngwladol.

Ynys Enlli o Mynydd Mawr, Penllŷn

PROJECT YMCHWIL DAN SYLW Ecoamgueddfa Pen Llŷn

Y project #Ecoamgueddfa Pen Llŷn, yw'r ecoamgueddfa gyntaf yng Nghymru, a hyd y gwyddom yr ecoamgueddfa ddigidol gyntaf yn y byd. Mae’r tîm wedi’i leoli yn Ysgol y Celfyddydau a'r Dyniaethau, ac maent yn gweithio’n agos gydag archeolegwyr yr Ysgol er mwyn cyflwyno ystod o ddigwyddiadau ymgysylltu â’r gymuned ac adnoddau digidol archaeolegol.