Ailddyfodiad profiad: adar cân, tawelwch a geiriau gyda Montenegrofisher
Mae'r ddeuawd artistig Chile–DU, Montenegrofisher, yn cyflwyno digwyddiad gwrando bore cynnar mewn cydweithrediad â Gŵyl Tysilio.
Wedi’i leoli yng nghoetir Coed Cyrnol ger Ynys Tysilio, mae’r gweithdy cyfranogol hwn yn gwahodd artistiaid, beirdd, trigolion lleol a gwrandawyr chwilfrydig i ymuno mewn archwiliad ar y cyd o ecoleg, iaith, cân adar, gwrando a lle. Trwy gyfres o weithredoedd, crwydro unigol, sain, symud a chreu ar y cyd, bydd cyfranogwyr yn cael eu gwahodd i droi eu sylw tuag at fod yn bresennol yn y foment. Nid oes cyrchfan na nod penodol, nid oes gofyn adnabod rhywogaethau, nac unrhyw bwysau i egluro neu ddehongli’r hyn a geir.
Bydd y gweithdy’n archwilio syniadau ynghylch cysylltedd ecolegol, cyfathrebu mwy-na-dynol, arferion gwrando, a’r berthynas rhwng tirwedd, cof ac iaith.
Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o brosiect trawsddisgyblaethol, wedi'i gyflwyno gan CAInC, sy’n ymchwilio i’r ffordd y mae dulliau gwahanol o ymgysylltu ag amgylcheddau naturiol yn dylanwadu ar brofiadau a chanfyddiadau pobl.
Gyda chefnogaeth WREC – Wales Research Environment and Culture.
Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig.
Cost: Am Ddim