Rydym yn edrych ymlaen at ein Diwrnodau Agored a'r Diwrnodau Deiliaid Cynnig ar y campws eleni.
Mae eich cadw chi a'n cymuned yn ddiogel yn bwysig i ni ac rydym yn gofyn am eich cefnogaeth i wneud hyn.
Yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, sylwer:
- Er diogelwch staff, myfyrwyr ac ymwelwyr, mae’r Brifysgol yn parhau i argymell gwisgo gorchuddion wyneb yn holl adeiladau’r brifysgol ac mae’n ofynnol eu gwisgo ar drafnidiaeth y Brifysgol (megis bysus a ddefnyddir ar gyfer teithiau llety).
- Er mwyn helpu pawb, rydym yn cynghori pob ymwelydd i gymryd Prawf Llif Unffordd cyn dod i’r Diwrnod Agored /Diwrnod Deiliaid Cynnig.
- Anogir ymwelwyr i ddefnyddio'r hylif diheintio dwylo a ddarperir ledled y campws.
- Efallai y bydd yn rhaid i ni gyfyngu ar y niferoedd sy'n mynd i’r sgyrsiau ar unrhyw adeg benodol, yn dibynnu ar gapasiti'r ystafelloedd.
- Yn yr un modd, mae'n rhaid i ni reoli’r niferoedd ar ein teithiau o amgylch llety myfyrwyr a chyfleusterau academaidd.
- Os ydych chi neu unrhyw aelod o'ch teulu'n teimlo'n sâl ac yn datblygu unrhyw un o symptomau COVID-19, megis tymheredd uchel cyn dod, peidiwch â theithio i'r Brifysgol.
- Fel mater o gwrteisi, os ydych chi neu unrhyw aelod o'ch grŵp yn profi'n bositif am Covid 19 o fewn ychydig ddyddiau ar ôl eich ymweliad, yna gadewch i ni wybod os gwelwch yn dda fel ein bod yn gallu rhoi gwybod i'r rhai sydd efallai wedi bod mewn cysylltiad â chi.
Mae'r pandemig coronavirus wedi golygu ein bod i gyd wedi gwynebu sawl her ac mae'n dda gweld myfyrwyr yn ôl ar y campws, yn mynd i ddarlithoedd, yn cymryd rhan mewn clybiau a chymdeithasau, ac yn mwynhau bywyd prifysgol.
Rydym hefyd yn falch iawn o allu trefnu Diwrnodau Agored / Diwrnodau Deiliaid Cynnig ar y campws unwaith eto, er mwyn i chi gael teimlad o'r profiad eithriadol a gewch os dewiswch astudio ym Mhrifysgol Bangor.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau cyn dod i’r Diwrnod Agored / Diwrnod Deiliaid Cynnig, cysylltwch â ni ar diwrnodagored@bangor.ac.uk
I gael rhagor o wybodaeth ewch i'n tudalennau gwybodaeth am Covid-19.