Fy ngwlad:
Myfyrwyr mewn theatr ddarlith

Dod o hyd i dy gwrs ym Mhrifysgol Bangor

Ar y dudalen hon:

6 Rheswm dros astudio ym Mangor

Darganfydda brifysgol lle mae’r lleoliad, y bobl a’r profiad i gyd yn dy helpu i wireddu dy botensial.

Ym Mangor, byddi di’n dysgu gan academyddion sy’n arwain yn eu meysydd ac sy’n dy wahodd i fod yn rhan o’u gwaith. Mae’r Ardd Fotaneg, yr Amgueddfa Hanes Naturiol a’n cyfleusterau ymchwil arbenigol – gan gynnwys ein llong ymchwil – yn rhoi cyfleoedd i ti brofi dy bwnc mewn ffyrdd ymarferol a chofiadwy.

Yma, nid yw dy ddysgu’n aros o fewn pedair wal y ddarlithfa. Byddi di’n rhoi syniadau ar brawf, yn camu mewn i amgylcheddau newydd ac yn magu hyder drwy brofiad uniongyrchol.

Mae Bangor yn adnabyddus am ei hawyrgylch gyfeillgar a’i theimlad clós. Mae Campws Byw yn dod â myfyrwyr ynghyd drwy drefnu digwyddiadau sy’n ei gwneud hi’n hawdd i setlo ac i gwrdd â phobl newydd.

O nosweithiau pizza a gwersi coginio i garioci, nosweithiau ffilm a theithiau cerdded mynydd, mae rhywbeth ar y gweill drwy’r amser.

Yn byw mewn neuadd neu’n teithio o gartref, mae’n hawdd dod o hyd i dy le yma.

O amgylch y ddinas mae cymysgedd gwych o fariau, caffis a bwytai, gan gynnwys Bar Uno ym Mhentref Ffriddoedd a Barlows ym Mhentref y Santes Fair.

Mae Pontio ein canolfan gelfyddydau ac arloesi, yn ganolbwynt bywiog gyda sinema, theatr, bar a chaffi oll dan yr un to.

Gyda’r mynyddoedd a’r môr ar stepen y drws, mae Bangor yn cynnig profiadau bythgofiadwy yn un o’r llefydd mwyaf ysbrydoledig i astudio ynddi yn y DU.

Mae Undeb y Myfyrwyr yn cefnogi amrywiaeth eang o glybiau, cymdeithasau a phrosiectau gwirfoddoli, gan gynnwys:

  • Dros 60 o glybiau chwaraeon, o rygbi a phêl-droed i sgwba-blymio, dringo a chelfyddydau ymladd.
  • Cymdeithasau amrywiol sy’n ymestyn ar draws ystod o ddiddordebau academaidd, diwylliant, antur awyr agored, cerddoriaeth, drama, gemau a llawer mwy.
  • Prosiectau gwirfoddoli dan arweiniad myfyrwyr sy’n cefnogi llesiant, yr henoed, plant, yr amgylchedd, mentrau cymunedol, ymgyrchoedd a digwyddiadau.

Rhoi cynnig ar rywbeth newydd neu fynd â dy angerdd gam ymhellach, mae cymuned yma sy’n barod i dy groesawu.

Rydym yn deall y pwysau ariannol sy’n gallu wynebu myfyrwyr, ac rydym yn gweithio’n galed i sicrhau nad yw costau’n rhwystr i brofiad prifysgol llawn.

Mae ein cymorth costau byw yn cynnwys:

  • Prydau fforddiadwy bob dydd o’r wythnos yng Nghaffi Teras
  • Cynhyrchion mislif am ddim
  • Mannau dysgu a mannau cynnes 24/7
  • Sesiynau cyllidebu un-i-un
  • Mynediad at fwrsariaethau, cronfeydd caledi ac ysgoloriaethau
  • Opsiwn llety mwy fforddiadwy

Rydym yma i dy helpu i wneud y gorau o dy arian fel y gelli di fwynhau dy amser yn y brifysgol.

Dewisa Bangor fel dy Ddewis Cadarn, a bydd sicrwydd o ystafell yn ein neuaddau yn aros amdanat.

Mae pentrefi’r Santes Fair a Ffriddoedd o fewn pellter cerdded i’r prif adeiladau a chyfleusterau, gan ei gwneud hi’n hawdd setlo i fywyd myfyriwr.

Mae’r rhent yn cynnwys:

  • Wi-Fi a rhyngrwyd gwifredig
  • Pob bil (dŵr, gwres a thrydan)
  • Aelodaeth o’r gampfa a Champws Byw

Byddi di’n byw mewn cymuned gyfeillgar a chefnogol lle mae wastad rhyw weithgaredd ar y gweill.

Mae dy ddyfodol yn bwysig i ni. Mae Bangor yn cynnig ystod eang o gyfleoedd i ti ddatblygu sgiliau, magu hyder ac archwilio dy opsiynau gyrfa.

Cei fynediad at:

  • Arweiniad gyrfaoedd drwy gydol dy gwrs.
  • Lleoliadau, interniaethau a chyfleoedd profiad gwaith.
  • Cystadlaethau menter a chymorth i ddatblygu dy syniadau dy hun.
  • Swyddi rhan-amser a rolau gwirfoddoli drwy CyswlltGyrfa / CareerConnect.

Mae lleoliadau gwaith, Gwobrau BUILT a digwyddiadau gyda chyflogwyr yn dy helpu i ddatblygu sgiliau ymarferol sy’n edrych yn wych ar dy CV ac yn rhoi hyder i ti wrth gynllunio’r cam nesaf.

Ciw o ddarpar fyfyrwyr ar gyfer y Diwrnod Agored, mae’r llun yn dangos eu coesau a phentwr o fagiau tote Diwrnod Agored.

Diwrnodau Agored

Dyma beth i'w ddisgwyl yn un o'n Diwrnodau Agored ar y campws:

  • Cwrdd â'r academyddion sy'n llunio dyfodol dy bwnc
  • Gweld dysgu ymarferol ar gyfer y byd go-iawn ar waith
  • Mwynhau ein tirwedd eiconig
  • Taith o amgylch ein cynigion llety
  • Sgwrsio â staff a myfyrwyr a chael teimlad go-iawn o fywyd ym Mangor
  • Teimlo cynhesrwydd ein croeso

 

Sgwrsio gyda'n Myfyrwyr

 

Prosbectws Poced

Rydym yn falch o fod yn un o'r prifysgolion mwyaf blaenllaw yn y byd o ran cynaliadwyedd. Mae'r Prosbectws Poced yn gyhoeddiad llawer llai na'r prosbectws arferol. Golyga hyn ein bod yn lleihau ein defnydd o adnoddau yn sylweddol wrth barhau i ddarparu'r rhestrau cyrsiau a'r wybodaeth ddefnyddiol sydd eu hangen wrth i’n darpar fyfyrwyr wneud eu dewisiadau prifysgol.

Prosbectws Poced 2027

Rhagor o Wybodaeth am Fangor

Ym Mangor, rwyt yn dysgu mewn cymuned sy’n creu cyfleoedd, sy’n agor llwybrau newydd.

Mae ein cyfleusterau arbenigol yn adlewyrchu’r meysydd rydym yn arbenigo ynddynt. O’r llong ymchwil a’r sganiwr MRI i’r siambr hinsoddol, yr Amgueddfa Hanes Naturiol a’r Ardd Fotaneg, mae’r cyfan wedi’i gynllunio i dy alluogi i archwilio, darganfod a gwneud dy farc.

Mae iechyd a lles yn bwysig i ni hefyd. Mae’r caeau 3G a’r caeau glaswellt awyr agored, y neuaddau chwaraeon, y campfeydd a’r cyrtiau sboncen yn cynnig digon o gyfleoedd i ti gadw’n heini. Yng nghanol y campws mae Canolfan Brailsford – campfa o’r radd flaenaf gyda wal ddringo aml-lwybr, trac athletau ac ystod eang o gyfleusterau – sy’n dy helpu i deimlo’n rhan o gymuned fywiog a chefnogol.

Rydym yn credu mewn agor drysau, nid eu cau. Dyna pam ein bod yn cynnig ystod eang o ysgoloriaethau a bwrsariaethau i fyfyrwyr newydd a myfyrwyr sy’n dychwelyd.

I fyfyrwyr newydd, mae Ysgoloriaethau Teilyngdod ar gael i’r rhai sy’n rhagori yn yr Ysgoloriaethau Mynediad.

Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol hefyd yn cynnig ysgoloriaethau gwerthfawr i fyfyrwyr sy’n dewis astudio drwy gyfrwng y Gymraeg, gan helpu myfyrwyr i ddewis y llwybr sy’n gweddu orau iddyn nhw.

Y gefnogaeth ariannol hon yw ein ffordd o sicrhau bod gen ti’r lle a’r hyder i wneud y mwyaf o dy brofiad prifysgol.

Mae rhan fwyaf o gyrsiau Israddedig yn galluogi myfyrwyr i ychwanegu Blwyddyn Profiad Rhyngwladol atynt, gan astudio neu weithio dramor am flwyddyn yn ganol eu gradd.

Pan fyddi di’n graddio, bydd dy radd yn cynnwys “gyda Phrofiad Rhyngwladol”, gan ddangos i gyflogwyr dy fod yn hyblyg, yn hyderus ac yn barod i ymgymryd â heriau newydd.

Bydd digon o amser gen ti i benderfynu os yw’r opsiwn hwn yn addas i ti neu beidio, a gelli di wneud cais yn ystod dy flwyddyn gyntaf neu dy ail flwyddyn.

Mae prifysgol yn brofiad sy’n ymestyn ymhell y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth. Mae’n gyfle i feithrin dy ddiddordebau a dod o hyd i bobl sy’n rhannu’r un brwdfrydedd am bethau. Mae gan Undeb y Myfyrwyr ystod eang o glybiau, cymdeithasau a phrosiectau gwirfoddoli.

Boed yn chwaraeon, cerddoriaeth, y celfyddydau, diwylliant neu’r awydd i roi rhywbeth yn ôl, mae cymuned yma sy’n barod i dy groesawu.

Ein Campws a Chyfleusterau