Cysylltwch â'n Tîm Yswiriant ymroddedig am unrhyw arweiniad pellach
Arweiniad Cyffredinol
Mae'r Brifysgol yn cynnig yswiriant gan ei darparwyr ond dim ond ar ein tudalennau gwe mewnol y mae ar gael i staff neu fyfyrwyr (sy'n gofyn am fewngofnodi).
Mae’n bwysig ystyried eich gofynion iechyd, diogelwch acgorchudd cyn teithio dramor ar waith i’r Brifysgol. Mae’n ofynnol i bob aelod staff a myfyriwr sy’n teithio tramor, gan gynnwys y rheini sy’n mynychu cynadleddau, gwaith maes a lleoliadau gwaith, lenwi’r Ffurflen Teithio Tramor ar-lein.
Mae’r ffurflen ar-lein hon yn rhoigorchudd teithio’r Brifysgol am ddim i’r ymgeisydd (dros gyfnod y gwaith) ac mae’n cynnwys gwybodaeth iechyd a diogelwch sy’n hanfodol i Safon Polisi’r Brifysgol dros deithio tramor.
Cyn llenwi’r ffurflen, gwnewch eich hunain yn gyfarwydd â’r wybodaeth sy’n berthnasol i’ch taith. Gallwch wneud hyn drwy fynd i’r gwefannau canlynol:
- Swyddfa Dramor a’r Gymanwlad (FCO)- cyngor gan y llywodraeth ar deithio, ardaloedd peryglus posibl, ac arferion lleol.
- Y GIG - yn rhoi cyngor am ystyriaethau iechyd tramor, gan gynnwys brechiadau. Mae gwefan arall gan y GIG ar gael yma.
- MASTA – gwasanaeth “dalu” sy’n rhoi cyngor iechyd manwl i deithwyr. Yn aml, mae’n hanfodol i’r sawl sy’n teithio i fannau anghysbell.
- HSS – Mae adran iechyd a diogelwch y Brifysgol yn rhoi gwybodaeth gyffredinol a manwl ar ystyriaethau iechyd a diogelwch teithwyr.
- Gwybodaeth Visa Ardal Schengen
- Gwybodaeth am yswiriant teithio UMAL – RiskMonitor Traveller a TravelPrepare
- Yswiriant – Cwestiynau a ofynnir yn aml
Mae gan y Brifysgol bolisi Iechyd a Diogelwch sy'n werth ei ddarllen.
Teithio Tramor: bydd angen Ffurflen Sicrwydd Teithio Tramor arnoch ac i gwblhau’r ffurflen bydd angen eich Rhif Staff/Rhif Cyflogres neu’ch Rhif Myfyriwr/ID Baner ac enw gweinyddwr cyswllt eich Coleg/Ysgol/adran.
Noder:
I rywun sydd eisoes â phroblemau meddygol, mae yswiriant y Brifysgol yn darparu triniaeth brys yn unig; nid yw’r Brifysgol yn rhoi yswiriant i unigolyn sydd wedi’i gynghori i beidio â theithio.
Lle bo modd, dylid defnyddio Aelodau ABTA i drefnu’r teithiau, a dylent fod wedi’u diogelu gan ATOL a dylid defnyddio cerdyn credyd i dalu.
Argymhellir i deithwyr sganio copi o’u pasbort a’i anfon i gyfrif e-bost y gellir mynd ato’n hawdd. Mae hyn yn eich galluogi i gael gafael ar y manylion yn hawdd petai eich pasbort yn mynd ar goll neu’n cael ei ddwyn.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Swyddog Yswiriant y Brifysgol, Swyddog Yswiriant y Brifysgol, neu Gwasanaethau Iechyd a Diogelwch.
Ein tystysgrif Atebolrwydd Cyflogwr ddiweddaraf.