TEITHIO DRAMOR
PWYSIG: There have been recent media reports regarding difficulties experienced by some travellers when attempting to enter the USA. PLEASE READ this UMAL Document if planning to travel to the USA. |
Os ydych yn bwriadu teithio dramor ar weithgareddau sy'n gysylltiedig â'r Brifysgol rhaid i chi ddilyn gofynion Polisi Teithio Dramor (Cyfieithiad i ddod) y Brifysgol a chynllunio’ch taith a pharatoi eich hun yn unol â hynny. Fel rhan o hyn y mae’n orfodol cwblhau'r Hysbysiad Teithio Dramor Gorfodol ar-lein.
Mae'r Llawlyfr Teithio Staff a Myfyrwyr yn rhoi llawer o wybodaeth ddefnyddiol.
Dyma'r prif gamau wrth drefnu taith:
-
CAM 1: Awdurdodiad
-
CAM 3: Asesiad Risg
-
CAM 4: Hanfodion Iechyd Teithio (yn cynnwys gwybodaeth am frechlynnau)
-
CAM 5: Hanfodion Teithio
Gwybodaeth Teithio Cyffredinol
Mae'r World Travel Guide Net yn ddull defnyddiol i gynllunio'ch taith, yn cynnwys y pwyntiau hanfodol 'cyn i chi fynd' i sicrhau eich bod wedi ystyried fisâu, iechyd ac ati a phethau eraill â chyfyngiadau amser o bosibl.
Yswiriant, Manylion Teithio a Gwybodaeth Gyswllt
Mae'n hanfodol eich bod yn nodi'ch manylion teithio a'ch cysylltiadau brys ar y porth Hysbysiad Teithio Dramor Gorfodol fel bod y gwasanaethau perthnasol yn gallu eich helpu a'ch cefnogi pe bai unrhyw beth yn mynd o'i le.
Mae'r Brifysgol yn darparu Yswiriant Teithio Dramor Am Ddim (ar gael trwy'r porth Hysbysiad Teithio Dramor Gorfodol) i staff a myfyrwyr sy'n teithio dramor ar fusnes y Brifysgol. Byddwch yn cael dalen yswiriant ar ddiwedd y broses hysbysu.
Mewn Argyfwng
Rhowch y rhifau ffôn canlynol yn eich ffôn i gysylltu'n gyflym rhag ofn i argyfwng diogelwch neu iechyd ddigwydd tra’r ydych i ffwrdd.
Mewn argyfwng cysylltwch â Global Response +44 (0) 203 859 1492 / UMAL@global-response.co.uk (Cyf: UMAL 026). SYLWCH: Cysylltwch â Global Response cyn talu unrhyw gostau meddygol. Gall methu â gwneud hynny arwain at wrthod hawliadau treuliau meddygol dilynol.
Cefnogir UMAL, Yswiriwr y Brifysgol, hefyd gan Crisis24, sy'n darparu cyfoeth o wybodaeth am ddiogelwch yn y wlad. COFRESTRWCH gyda Crisis24 (gan ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost Bangor) i gael gwybodaeth am deithio, gan gynnwys:
-
Rhybuddion Byw am Ddigwyddiadau a Phroffiliau Gwledydd
-
Modiwl E-ddysgu Teithio sy'n cadarnhau trwy e-bost pan fydd wedi'i gwblhau
-
Cefnogaeth a chyngor diogelwch
Archebu Teithiau drwy Diversity
Os oes angen cymorth brys arnoch (e.e. teithiau awyren wedi'u canslo neu gais brys am deithio y tu allan i oriau swyddfa arferol) ffoniwch Linell Argyfwng Diversity. +44 (0) 161 300 8258
Ffynonellau Gwybodaeth Defnyddiol
Mae'r dolenni canlynol yn rhoi arweiniad defnyddiol wrth baratoi i deithio dramor.
Dolenni
-
Polisi Teithio Dramor Prifysgol Bangor - Cyfieithiad i ddod
-
Swyddfa Gyllid y Brifysgol (Yswiriant Teithio)
- Coleg Bangor yn Tsieina