Ymunwch ag Ysgol Haf ar-lein rhad ac am ddim Prifysgol Bangor mewn Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd, a gynhelir dros un wythnos gyffrous o Ddydd Llun 27 Gorffennaf hyd Ddydd Gwener 31 Gorffennaf.
Drwy gyfrwng deng sesiwn ar-lein ddifyr a gyflwynir yn fyw drwy Zoom, byddwch yn archwilio rhai o’r cwestiynau mwyaf diddorol a dadleuol sy’n wynebu dynoliaeth heddiw. O ystyr bodolaeth a’r chwilio am bwrpas, i ddeallusrwydd artiffisial, crefydd, angenfilod, moesoldeb, gwyliadwriaeth a moeseg canibaliaeth, bydd ein darlithwyr arbenigol yn eich cyflwyno i fyd amrywiol a meddylgar Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd.
P’un a ydych yn ystyried astudio Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd yn y brifysgol, yn astudio pwnc perthnasol ar hyn o bryd, neu’n syml yn chwilfrydig am gwestiynau mawr bywyd, mae’r Ysgol Haf hon ar agor i bawb.
Noder os gwelwch yn dda:
- Cynhelir pob sesiwn yn fyw ar Zoom.
- Cynhelir tair sesiwn yn Gymraeg a'r saith arall yn Saesneg.
- Ni fydd y sesiynau’n cael eu recordio, felly mae’n rhaid i gyfranogwyr fynychu’n fyw i gymryd rhan.
- Nid oes angen mynychu pob sesiwn – mae croeso i chi ymuno â chymaint o sesiynau ag y dymunwch.
- Mae’r sesiynau’n gwbl rhad ac am ddim, ond mae cofrestru’n hanfodol.
Rhaglen
Ddydd Llun 27ain o Orffennaf
- 14:00–15:00: Introduction to Existentialism: Freedom, Meaning and the Absurd
- 18:00–19:00: Vodou, Not Voodoo: Understanding a Misrepresented Religion
Ddydd Mawrth 28ain o Orffennaf
- 14:00–15:00: Does Kant Fit in the 21st Century?
- 18:00–19:00: Athroniaeth Angenfilod: Medusa, Gwrachod a pham bod Cymdeithas yn creu Dihirod (Sesiwn drwy gyfrwng y Gymraeg)
Ddydd Merched 29ain o Orffennaf
- 14:00–15:00: ChatGPT and the Meaning of Life: Can AI Replace Religion?
- 18:00–19:00: Maen nhw'n gwylio!: Moeseg Gwyliadwraeth yr 21ain Ganrif (Sesiwn drwy gyfrwng y Gymraeg)
Ddydd Iau 30ain o Orffennaf
- 14:00–15:00: The Existence of Existence? An Introduction to Metaphysics
- 18:00–19:00: The Ethics of Vigilantism
Ddydd Gwener 31ain o Orffennaf
*Noder fod yr amseroedd yn wahanol ar ddydd Gwener i weddill yr wythnos*
- 13:00–14:00: Cylchoedd Cyfrin: Paganiaeth yn y Byd Modern(Sesiwn drwy gyfrwng y Gymraeg)
- 15:00–16:00: The Ethics of Cannibalism
Sut mae cofrestru
Mae lleoedd am ddim, ond mae angen archebu lle ymlaen llaw.
I gofrestru, cwblhewch y ffurflen gofrestru erbyn 17:00 ar Ddydd Mercher 23 Gorffennaf. Bydd cofrestru’n cau bryd hynny, ac ni ellir derbyn unrhyw archebion pellach ar ôl y dyddiad a’r amser cau.
Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu i fwynhau wythnos o gwestiynu, trafod ac ystyried ffyrdd newydd o feddwl.