Dynol a Tu Hwnt: Coed a'u Ieithoedd
Sut mae coed yn ein cysylltu â lleoedd? Bydd y bardd o Algeria, Samira Negrouche, yn cyflwyno gweithdy ysgrifennu creadigol trwy fideo, yn cynnwys y coed olewydd yn ei phentref. Gyda chefnogaeth gweithgareddau ysgrifennu creadigol yn y Gymraeg a’r Saesneg, bydd myfyrwyr Blwyddyn 8 a 9 o ysgolion lleol yn cael eu gwahodd i ysgrifennu cerddi yn Ffrangeg, Cymraeg a Saesneg sy’n ymateb i goed yn eu hardal. Bydd y cerddi canlyniadol yn cael eu harddangos yng Nghanolfan Celfyddydau ac Arloesi Pontio (Yn agor mewn ffenest newydd) ar gyfer arddangosfa Tree Sense ym mis Mawrth 2023.
Sylwch fod y digwyddiad hwn ar agor i ysgolion yn unig. Os hoffech wybod mwy neu gael eich ysgol i gymryd rhan, e-bostiwch: beinghuman@bangor.ac.uk.
Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o Hyb Gŵyl Prifysgol Bangor.