Fy ngwlad:
Main University Building with rooftops in foreground

Micro-gymwysterau Yn Prifysgol Bangor

Beth yw Micro-gymwysterau?

Cyrsiau achrededig byr yw micro-gymwysterau, sydd wedi'u cynllunio i'ch helpu i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth newydd mewn ffordd hyblyg. P'un a ydych eisiau uwchsgilio, dysgu sgil newydd, neu archwilio pwnc cyn ymrwymo i gymhwyster llawn, mae ein micro-gymwysterau’n cynnig profiad dysgu cydnabyddedig.

Mae llawer o ficro-gymwysterau Prifysgol Bangor wedi'u tynnu o raglenni gradd presennol ar lefel israddedig ac ôl-radd, sy'n eich galluogi i elwa ar addysg o ansawdd uchel, wedi'i achredu gan y brifysgol, heb ymrwymo i radd lawn. Gellir hyd yn oed 'pentyrru' micro-gymwysterau tuag at gymhwyster ffurfiol – cysylltwch i ddysgu mwy am hyn.
 

Pam Dewis Micro-gymwysterau?

""

Dysgu Hyblyg – Gallwch astudio pryd a lle sy’n gyfleus i chi. Caiff y rhan fwyaf o gyrsiau eu cyflwyno ar-lein ac maent wedi'u cynllunio i gyd-fynd â gwaith neu ymrwymiadau eraill.

Hybu Gyrfa – Gallwch ennill sgiliau sy'n cyd-fynd ag anghenion y diwydiant a dangos eich datblygiad proffesiynol i gyflogwyr.

Achredir gan y Brifysgol – Mae pob micro-gymhwyster yn dwyn credydau ac wedi’i sicrhau’n academaidd. Ar ôl cwblhau micro-gymhwyster yn llwyddiannus, byddwch yn derbyn trawsgrifiad swyddogol Prifysgol Bangor.

Cam ymlaen at Astudiaethau Pellach - Cyfle i archwilio pwnc cyn ymrwymo i radd lawn. Gellir hyd yn oed 'pentyrru' rhai micro-gymwysterau tuag at gymhwyster ffurfiol.

Dysgu Gydol Oes – Yn ddelfrydol i ddysgwyr sy'n dychwelyd i addysg, unigolion sydd eisiau uwchsgilio’n broffesiynol, neu unigolion sy'n dilyn diddordeb personol.

 

                                           Sut fyddaf yn Astudio?

""

Mae ein micro-gymwysterau wedi'u cynllunio gyda phobl brysur mewn meddwl. Mae'r rhan fwyaf o’r micro-gymwysterau’n cael eu cyflwyno ar-lein, ac mae rhai ohonynt hefyd yn cynnig opsiwn i ddysgu ar y campws ym Mangor.

Mae cyrsiau fel arfer yn cael eu cynnal dros ychydig wythnosau ac yn cynnwys cymysgedd o ddarlithoedd, seminarau a dysgu cymhwysol, dan arweiniad academyddion profiadol a gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant.

Byddwch yn cwblhau asesiad fel rhan o'r cwrs, a bydd eich dysgu'n cael ei gydnabod yn ffurfiol gyda chredyd prifysgol.

 

Sut i Wneud Cais?

""

I gofrestru, ewch i dudalen we'r cwrs unigol, lle byddwch yn gweld:

  • Cynnwys a strwythur y cwrs
  • Gofynion mynediad
  • Dyddiadau dechrau a hyd yr astudiaeth
  • Manylion cyswllt arweinydd y cwrs

Os oes gennych gwestiynau neu os oes angen cefnogaeth arnoch cyn gwneud cais, cysylltwch ag arweinydd y cwrs a restrir ar y dudalen.
 

Cyrsiau Micro-gymwysterau

Porwch drwy’r cyrsiau sydd ar gael isod, neu cysylltwch â ni i drafod sut y gall micro-gymwysterau gefnogi eich taith ddysgu.