Myfyrwyr yn trafod eu gwaith mewn labordy

Gwybodaeth i Fyfyrwyr Hŷn

Fel myfyriwr hŷn mae gennych ymrwymiadau a chyfrifoldebau eraill sy’n golygu y gall y modd yr ydych yn trin bywyd coleg, yn academaidd ac yn gymdeithasol, fod yn wahanol.

Neuaddau Preswyl ym Mhentref Ffriddoedd

LLETY Neuaddau Preswyl y Brifysgol

Ym Mangor, rydym yn cynnig llety hunan-arlwyol – sy’n cynnwys ystafelloedd safonol neu en-suite ac rydym yn gallu sicrhau llety i holl israddedigion blwyddyn gyntaf sengl sy’n ymgeisio am lety o fewn yr adegau priodol.

Pob blwyddyn rydym yn ceisio darparu rhai ystafelloedd ar gyfer myfyrwyr sydd eisiau aros mewn amgylchedd tawelach. Bydd manylion ynglŷn â pha neuadd sydd wedi cael ei dynodi i’r bwriad hwn ar ein gwefan. Gall yr ystafelloedd hyn fod yn addas, ond nid yn gyfan gwbl, ar gyfer myfyrwyr aeddfed sydd well ganddynt amgylchedd mwy tawel.

MYFYRWYR GYDA THEULUOEDD

Cefnogaeth i fyfyrwyr

Byddwch o bosibl yn cyrraedd yma gydag ymrwymiadau a chyfrifoldebau eraill ac rydym yn sylweddoli y gallwch fod yn symud yma gyda'ch teulu neu efallai fod gennych ddibynnyddion gartref. Dewch i wybod mwy am y cymorth sydd ar gael i fyfyrwyr gyda theuluoedd a gwybodaeth am ofal plant, ysgolion a'r gefnogaeth ariannol sydd ar gael i chi. 

CEFNOGAETH I FYFYRWYR Â THEULUOEDD

Llety i fyfyrwyr â theuluoedd

Nid yw'r Brifysgol yn berchen ar nac yn rheoli llety ar gyfer teuloedd. Os ydych yn fyfyriwr sydd yn dod i Fangor gyda'ch teulu, dylech gysylltu gyda Swyddfa Tai Myfyrwyr am gymorth. 

Ewch i'r wefan am fwy o fanylion.

SWYDDFA TAI MYFYRWYR

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?