Os yw’ch Person Ifanc yn mynd i mewn, neu o bosib yn mynd i mewn, i’r drefn Glirio - y peth cyntaf i’w wneud yw: peidiwch â phoeni. Mae’r drefn Glirio wedi newid yn sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf ac erbyn hyn mae’n llwybr positif a strwythuredig tuag at addysg uwch. Yn hytrach na ras frys munud olaf, mae’n bellach yn gyfle i bobl ifanc ddod o hyd i’r cwrs cywir yn y brifysgol gywir.
Dyma bopeth y mae angen i Rieni a Gwarcheidwaid ei wybod am y drefn Glirio 2025 ym Mhrifysgol Bangor.
Beth yw’r drefn Glirio?
Mae’r drefn Glirio ym Mhrifysgol Bangor yn gyfle gwerthfawr i’ch Person Ifanc sicrhau lle mewn prifysgol ar gyfer mis Medi 2025. Mae’r drefn ar gael i’r rhai sydd:
- Wedi newid eu meddwl am eu cwrs neu eu prifysgol
- Yn gwneud cais am y tro cyntaf, hwyrach ymlaen yn y broses
- Wedi gwneud yn well nag oeddent wedi disgwyl ac am archwilio dewisiadau eraill
- Heb dderbyn cynigion gan y prifysgolion a ddewiswyd yn wreiddiol
- Heb gyrraedd y graddau angenrheidiol ar gyfer eu dewis cadarn neu yswiriant
Mae’r drefn Glirio yn cynnig ffordd hyblyg ac agored i bobl ifanc wneud penderfyniad gwybodus ynghylch â beth i astudio ac ym mhle
Dyddiadau Allweddol a Llinell Amser y Drefn Glirio 2025
Ymwybyddiaeth: Nid yw’r drefn Glirio wedi agor eto, ond mae’n amser da i siarad gyda’ch Person Ifanc am eu hopsiynau. Anogwch nhw i archwilio prifysgolion sy’n cyd-fynd â’u diddordebau, gwerthoedd a thrywydd gyrfa.
- Mae’r drefn Glirio’n agor yn swyddogol.
- Os oes gan eich Person Ifanc eu canlyniadau eisoes (o flynyddoedd blaenorol), gallant wneud cais yn uniongyrchol drwy’r drefn Glirio yn ystod y cyfnod hwn - hyd yn oed os nad ydynt wedi gwneud cais trwy UCAS o’r blaen.
- Os yw’ch Person Ifanc yn aros am eu canlyniadau, gallant gofrestru eu diddordeb mewn cwrs. Bydd Prifysgol Bangor yn cysylltu ar ôl i ganlyniadau gael eu rhyddhau.
- Os nad yw’ch Person Ifanc wedi derbyn cynnig, neu heb gwrdd ag amodau eu dewis cadarn ac yswiriant, byddant yn cael eu trosglwyddo’n awtomatig i’r drefn Glirio.
- Os yw’ch Person Ifanc am newid cwrs neu brifysgol, gallant fynd i mewn i’r drefn Glirio drwy fewngofnodi i’w cyfrif UCAS a chlicio ar y botwm ‘Decline my place’.
- Yna gallant gysylltu’n uniongyrchol â Phrifysgol Bangor. Mae rhai cyrsiau’n cael eu llenwi ar sail y cyntaf i’r felin, felly anogwch nhw i weithredu’n brydlon.
- Ar ôl i’ch Person Ifanc dderbyn cynnig llafar gan y Brifysgol, gallant ychwanegu’r dewis hwnnw ar eu cyfrif UCAS Hub o 1yp (14 Awst, dyddiad canlyniadau JCQ) neu 10yb (5 Awst, dyddiad canlyniadau SQA).
Beth Allwch Chi Ei Wneud Nawr?
Fel Rhiant neu Warcheidwad, mae eich cefnogaeth a’ch sicrwydd yn hollbwysig. Efallai eich bod eisoes yn gwybod sut mae’ch Person Ifanc yn teimlo am eu canlyniadau a’u dewisiadau.
- Siaradwch â’ch Person Ifanc am beth sy’n bwysig iddyn nhw mewn prifysgol - lleoliad, ansawdd addysgu, cefnogaeth i fyfyrwyr, cynnwys y cwrs, ac ati.
- Archwiliwch y meysydd pwnc a’r cyrsiau sydd ar gael ym Mhrifysgol Bangor.
- Anogwch nhw i gofrestru eu diddordeb yn y drefn Glirio’n gynnar, fel eu bod yn barod i weithredu ar Ddiwrnod y Canlyniadau.
Ar Ddiwrnod Canlyniadau Lefel A, os bydd eich Person Ifanc yn penderfynu mynd i mewn i’r drefn Glirio:
- Bydd angen iddyn nhw fewngofnodi i’w cyfrif UCAS i weld os ydynt wedi derbyn unrhyw gynnig. Os nad ydynt, cânt eu rhoi’n awtomatig i’r drefn Glirio. Os ydynt am newid eu meddwl, gallant wrthod eu lle a mynd i mewn i’r drefn Glirio.
- Unwaith maen nhw yn y drefn Glirio, gallant ffonio Prifysgol Bangor i drafod yr opsiynau sydd ar gael.
- Bydd angen iddyn nhw gael y manylion canlynol wrth law:
- Rhif adnabod UCAS
- Enw llawn, dyddiad geni a chyfeiriad
- Canlyniadau Lefel A (neu gyfwerth)
- Canlyniadau TGAU (mewn rhai achosion)
Mae’r alwad yn fyr a chefnogol - bydd y rhan fwyaf o bobl ifanc yn derbyn cynnig o fewn 5-10 munud.
- Sicrwydd o Lety: Os ydych yn ymgeisio drwy’r drefn Glirio am gwrs sydd wedi ei lleoli ar ein campws ym Mangor, rydym yn sicrhau y cewch chi ystafell yn ein neuaddau preswyl cyn belled â'ch bod chi'n dewis Prifysgol Bangor ar UCAS erbyn Dydd Iau, 28 Awst ac yn archebu eich ystafell erbyn Dydd Llun, 1 Medi.
- Cyfle i Ymweld â’r Campws: Byddwn yn cynnal Diwrnod Agored ar ddydd Sadwrn, 17 Awst. Mae croeso cynnes i chi ac i’ch Person Ifanc ddod i archwilio ein campws prydferth yng Ngogledd Cymru. Os ydych yn gwneud cais ar ôl y dyddiad hwn, gofynnwch am gyfleoedd ymweld eraill yn ystod y drefn Glirio.
Nid cam yn ôl yw'r drefn Glirio - mae’n gam ymlaen. Gall eich anogaeth bwyllog a’ch cefnogaeth ymarferol wneud gwahaniaeth mawr. P’un a yw’ch Person Ifanc yn teimlo’n ansicr neu’n gyffrous, bydd gwybod eich bod yn gefn iddynt hwy yn rhoi’r hyder sydd ei angen i wneud penderfyniadau gwybodus.
Ym Mhrifysgol Bangor, rydym yma i’ch cefnogi bob cam o’r ffordd.