Gan ddefnyddio syniadau o eneteg, niwrowyddoniaeth, ffisioleg synhwyraidd a microbioleg, mae'r sesiwn hon yn archwilio a allai galluoedd rhyfeddol fel adweithiau cyflym, ymwybyddiaeth uwch a sensitifrwydd etifeddol i'r Llu fod yn wyddonol gredadwy.
Bydd myfyrwyr yn archwilio a allai'r Llu gael ei esbonio drwy dreigladau, hyfforddiant, midichloriaid symbiotig neu brosesu gwell yn yr ymennydd, wrth ystyried ble mae bioleg go iawn yn dod i ben a ffuglen wyddonol yn dechrau.
Cyflwynir y weminar hon drwy gyfrwng y Saesneg.
Siaradwr
Dr Dylan Jones
Darlithydd mewn Gwyddorau Biofeddygol (Haematoleg / Ffisioleg Ddynol)