Mae’r astudiaeth, a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn, Science, ac a arweiniwyd gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Bangor, Prifysgol Latfia a Phrifysgol Oldenburg, yn yr Almaen, wedi datgelu effeithiau annisgwyl dod i gysylltiad â sŵn electromagnetig sy'n nodwedd hollbresennol o amgylcheddau trefol.
Gwnaeth yr ymchwilwyr i ystlumod lleiaf (pipistrellus pipistrellus) wrando ar sŵn radioamledd band eang gwan (0-300MHz) am tua hanner awr tra roeddent yn arsylwi'r machlud, ac wedyn profi eu cyfeiriadedd hedfan yn ddiweddarach yn y nos. Mae astudiaethau blaenorol wedi dangos y gall sŵn o'r fath amharu ar allu anifeiliaid i synhwyro'r maes magnetig.
Er y gwyddys bod ystlumod lleiaf sy'n mudo tuag at eu tiroedd gaeafu yn graddnodi arwyddion amgylcheddol ar fachlud haul er mwyn llywio yn hwyrach yn y nos, roedd yr ymchwilwyr yn rhagweld y byddai hyn yn tarfu ar allu'r ystlumod i synhwyro'r maes magnetig a graddnodi eu system cwmpawd mewnol, ond dim ond os oeddent yn clywed y sŵn yn ystod y cyfnod graddnodi hollbwysig hwnnw y byddai'n effeithio ar ystlumod.
Canfu’r ymchwilwyr bod yr ystlumod a glywodd y sŵn hwn yn cychwyn mewn cyfeiriadau ar hap, yn wahanol i ystlumod eraill, a oedd yn cychwyn yn y cyfeiriad mudo disgwyliedig. Fodd bynnag, er mawr syndod i'r ymchwilwyr, dangosodd astudiaethau pellach fod cyfeiriadedd ystlumod yn cael ei amharu p'un a oeddent yn clywed y sŵn yn ystod y cyfnod graddnodi hollbwysig hwn neu wedi hynny, pan oedd yr haul wedi machlud.
Yn fwyaf annisgwyl, parhaodd y sŵn electromagnetig hwn i effeithio ar yr ystlumod am sawl awr ar ôl iddynt glywed y sŵn, gan awgrymu "effaith cario drosodd" o'r cyfnod byr o glywed y sŵn. Ni ragwelwyd hyn gan effeithiau hysbys y sŵn electromagnetig hwn ar y synnwyr magnetig, y disgwylir iddo ddod i ben pan nad yw'r sŵn yn bresennol mwyach.
Mae eu canfyddiadau'n awgrymu bod gan lygredd sŵn electromagnetig y potensial i gael mwy o effaith ar ymddygiad anifeiliaid nag a dybiwyd yn flaenorol. Felly mae'r ymchwil yn codi cwestiynau am ganlyniadau ecolegol sŵn electromagnetig i fywyd gwyllt sy'n symud trwy dirweddau sy'n cael eu dominyddu gan bobl, fel anifeiliaid sy'n mudo'n dymhorol, hyd yn oed os mai dim ond am gyfnod byr y maent yn clywed y sŵn.
Meddai Richard Holland, Athro Ymddygiad Anifeiliaid ym Mhrifysgol Bangor, “Roedd y canfyddiad hwn yn eithaf syndod. Ein bwriad oedd gweld sut y byddai'r sŵn yn effeithio ar system synhwyro magnetig ystlumod, ond mae'r canlyniadau'n awgrymu bod effaith y sŵn electromagnetig hwn yn fwy cymhleth na hynny. Er ein bod yn gwybod bod sŵn electromagnetig yn yr ystod hon yn tarfu ar y synnwyr magnetig, ni thybiwyd ei fod yn cael effaith sylweddol ar anifeiliaid sy'n mudo, oherwydd ei fod yn fwy cyffredin mewn dinasoedd nag ardaloedd gwledig. Oherwydd y byddai anifeiliaid yn symud yn gyflym drwy’r sŵn, tybiwyd na fyddent yn cael eu heffeithio am amser hir iawn, os o gwbl. Fodd bynnag, mae ein canfyddiadau'n dangos y gall clywed y sŵn am gyfnod byr hyd yn oed gael effeithiau sy'n para y tu hwnt i'r cyfnod hwnnw, ac yn annibynnol ar arwyddion eraill."
Meddai Will Schneider, Cymrawd Ymchwil ym Mangor a chydawdur yr astudiaeth, “Mae'r rheswm dros yr effeithiau hyn yn ansicr. Efallai mai'r effaith yw eu dehongliad o'r maes magnetig, er enghraifft, oherwydd bod y sŵn electromagnetig yn gwneud iddo edrych yn anarferol, mae'r ystlumod yn penderfynu ei anwybyddu. Ar y llaw arall, efallai ei fod yn cyflwyno rhyw fath o straenachoswr, sy'n gwneud i'r ystlumod benderfynu peidio â mudo'r noson honno, a dyna pam eu bod yn cychwyn i gyfeiriad ar hap, yn lle i gyfeiriad mudo, fel yr ystlumod rheolydd. Beth bynnag, mae gan yr effaith cario drosodd annisgwyl hwn y potensial i arwain at ganlyniadau ecolegol sylweddol na ragwelwyd gan ein dealltwriaeth bresennol o effeithiau sŵn electromagnetig. Mae hefyd yn destun pryder bod y lefelau sŵn presennol wedi eu cynllunio'n gyfan gwbl ar gyfer bodau dynol, gan adael bywyd gwyllt yn agored i niwed hyd yn oed o fewn cyfyngiadau'r canllawiau hyn."