Modiwl LCF-1002:
Ffrangeg Uwch 2
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Arts, Culture and Language
20.000 Credyd neu 10.000 Credyd ECTS
Semester 2
Trefnydd: Mrs Sarah Goddard
Amcanion cyffredinol
- Gwella sgiliau cyfieithu a darllen a deall myfyrwyr drwy astudio testunau sy'n amrywio mewn arddull a chywair.
- Galluogi myfyrwyr i gynhyrchu darnau ysgrifennu ar lefel uwch mewn Ffrangeg.
- Gwella sgiliau llafar a gwrando uwch myfyrwyr trwy ymarferion sgwrsio a deunyddiau clyweledol dethol yn amrywio mewn cywair.
- Gwella geirfa a chynnwys ymadroddion sy'n gymhleth yn idiomatig mewn gwaith llafar ac ysgrifenedig.
- Datblygu dealltwriaeth fwy cymhleth o strwythurau gramadegol ar lefel uwch, a gallu defnyddio'r cyfryw gystrawennau gramadegol mewn gwaith ysgrifenedig a llafar.
- Trafod ac amddiffyn dadleuon a syniadau mewn trafodaethau grŵp ac un-i-un.
- Deall agweddau allweddol sy'n sail i hunaniaeth gyfoes pobl Ffrangeg eu hiaith.
Bydd myfyrwyr ar y modiwl hwn yn gweithio tuag at ennill B2 ar y Fframwaith Cyfeirio Ewropeaidd Cyffredin ar gyfer Ieithoedd (CEFR).
Cynnwys cwrs
Mae'r modiwl hwn yn darparu parhad o LCF-1001, a'i nod yw gwella sgiliau llafar, gwrando ac ysgrifenedig Ffrangeg myfyrwyr lefel uwch (ar ôl Lefel A). Mae'n cynnwys dosbarthiadau wedi'u seilio ar destun lle mae myfyrwyr yn cael y cyfle i wella'u sgiliau cyfieithu ac ysgrifennu, yn ogystal â dosbarthiadau llafar/gwrando, lle defnyddir ystod o gymhorthion clywedol a gweledol lefel uwch i ysgogi trafodaethau grŵp. Drwy gydol y modiwl, mae gan fyfyrwyr y cyfle hefyd i ymestyn eu gwybodaeth am feysydd gramadeg mwy cymhleth. Daw'r testunau a'r deunyddiau a ddefnyddir yn y modiwl hwn o amrywiaeth o ffynonellau yn cynnwys y cyfryngau a darnau llenyddol er mwyn i fyfyrwyr ymgyfarwyddo ag amrywiol gyweiriau, yn ogystal â gwella dealltwriaeth o wahanol acenion Ffrangeg. Trwy'r deunyddiau hyn, bydd myfyrwyr hefyd yn cael cipolwg ar themâu Ffrengig penodol a materion sy'n ymwneud â bywyd a chymdeithas gyfoes yn y gwledydd Ffrangeg eu hiaith. Cefnogir dysgu y tu allan i'r ystafell ddosbarth trwy Bortffolio Hunan-astudiaeth gyd-gwricwlaidd.
Meini Prawf
ardderchog
70+%: Bydd y myfyrwyr sy'n cael y graddau uchaf yn y cwrs hwn wedi deall y ffynonellau a astudir o ran geirfa anghyffredin a chystrawennau cymhleth. Byddant yn gallu eu mynegi eu hunain ar lafar ac yn ysgrifenedig mewn ffordd ddychmygus, gywir, hynod drefnus a rhwydd.
trothwy
40-49%: Dylai'r myfyrwyr ddangos dealltwriaeth sylfaenol o'r ffynonellau Ffrangeg a astudir, a gallu eu mynegi eu hunain ar lafar ac yn ysgrifenedig mewn ffordd ddealladwy.
da
50-69%: Bydd y myfyrwyr sy'n cael y graddau uwch ar y cwrs hwn nid yn unig wedi deall hanfodion y ffynonellau a astudir, ond byddant hefyd wedi dechrau ymglywed â manylion yr iaith. Byddant yn gallu eu mynegi eu hunain yn gywir ac yn strwythuredig ar lafar ac yn ysgrifenedig, ac yn dangos eu bod yn ymwybodol iawn o'r ffordd i ynganu Ffrangeg.
Canlyniad dysgu
-
Defnyddio strwythurau gramadegol ar lefel uwch mewn gwaith ysgrifenedig a llafar.
-
Cynhyrchu Ffrangeg cywir ac sy'n gywir yn idiomatig.
-
Archwilio a gwerthuso rhai o'r themâu a'r dadleuon allweddol sy'n cael lle blaenllaw mewn diwylliant gyfoes Ffrengig.
-
Deall a chyfieithu testunau ysgrifenedig mwy heriol, yn amrywio o ran arddull a chywair.
-
Dangos hyder wrth dynnu gwybodaeth a gyflwynir mewn ffynonellau Ffrangeg a'i defnyddio i ateb cwestiynau yn yr iaith darged.
-
Sgwrsio a gwrando ar Ffrangeg (yn cynnwys gwahanol acenion), ei deall, ac ymateb iddi mewn cyd-destun rhyngweithiol.
-
Defnyddio meysydd geirfa newydd a mynegiant idiomatig mwy cymhleth mewn gwaith ysgrifenedig a llafar.
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
Gwrando ar fideo a'i ddeall | 25.00 | ||
Arholiad llafar | 25.00 | ||
Arholiad 2 awr | 50.00 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Private study | 145 | |
Seminar | 4 seminar (1 awr) pob wythnos am 11 wythnos. 1 awr ychwanegol (trwy gyfrwng y Gymraeg) pob wythnos. |
55 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
- Cyflwyniad - Gallu cyflwyno gwybodaeth ac esboniadau yn glir i gynulleidfa. Trwy gyfryngau ysgrifenedig neu ar lafar yn glir a hyderus.
- Dadl - Gallu cyflwyno, trafod a chyfiawnhau barn neu lwybr gweithredu, naill ai gydag unigolyn neu mewn grwˆp ehangach
Sgiliau pwnc penodol
- 1. The ability to use the target language creatively and precisely in short written assignments in the target language. (Benchmark statement 5.14)
- 2. The ability to translate short passages into and out of the target language. (Benchmark statement 5.3, 5.4)
- 3. Engaging with, interpreting and critically evaluating short and longer contemporary texts (short stories, films, novels) in the target language (Benchmark statement 5. 8, and 5.9)
- 4. Effective oral communication and presentation skills (including delivery and argument development, discussion and defence) in the target language through individual and/or group discussions. (Benchmark statement 5.3, 5.4)
- 5. The ability to use the target language creatively and precisely in oral assignments, showing familiarity with a range of topics and registers in formal and informal situations. (Benchmark statement 5.3, 5.4)
- 6. Develop aural comprehension skills in the target language, supported by a wide range of appropriate materials in different media. (Benchmark statement 5.3, 5.4)
- 7. The ability to read, understand and summarise written texts in the target language. (Benchmark statement 5.3, 5.4)
Adnoddau
Rhestr ddarllen
Casgliad gramadeg (a ddarperir gan y darlithydd)
Casgliad wedi'i seilio ar destunau (a ddarperir gan y darlithydd)
Casgliad sgyrsiau llafar (a ddarperir gan y darlithydd)
Adnoddau Dysgu Eraill: Disgwylir i fyfyrwyr sydd wedi cofrestru ar gyfer y modiwl hwn gwblhau Portffolio Hunan-astudiaeth cyd-gwricwlaidd yr Ysgol. Mae'r portffolio hwn yn annog myfyrwyr i ddarllen papurau newydd Ffrangeg a gwylio teledu Ffrangeg a ffilmiau Ffrangeg yn rheolaidd; dylent hefyd ddarllen un nofel Ffrangeg bob semester. Dylai myfyrwyr gwblhau un portffolio ar gyfer Ffrangeg bob semester.
Rhagofynion a Chydofynion
Rhagofynnol ar gyfer:
Cydofynion
Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Gorfodol mewn cyrsiau:
- N1R1: BA Bus Stud with French year 1 (BA/BSFR)
- NR1C: BA Business Studies/French year 1 (BA/BUSSF)
- W8R8: BA Creative Writing and Modern Languages year 1 (BA/CWML)
- R181: BA French with Psychology (with International Experience) year 1 (BA/FPIE)
- R1R5: BA French with Spanish (with International Experience) year 1 (BA/FSPIE)
- R12R: BA German and French with International Experience year 1 (BA/GFIE)
- Q3R8: BA Linguistics and Modern Languages year 1 (BA/LML)
- N5R6: Marketing with French with International Experience year 1 (BA/MKTFRIE)
- R800: BA Modern Languages year 1 (BA/ML)
- R807: BA Modern Languages & Criminology & Criminal Justice year 1 (BA/MLCCJ)
- R805: BA Modern Languages & Cymraeg year 1 (BA/MLCYM)
- R801: BA Modern Languages and English Literature year 1 (BA/MLEL)
- R803: BA Modern Languages & Film Studies year 1 (BA/MLFS)
- R804: BA Modern Languages & History year 1 (BA/MLH)
- R802: BA Modern Languages & Media Studies year 1 (BA/MLMS)
- R806: BA Modern Languages & Philosophy, Ethics & Religion year 1 (BA/MLPRE)
- W3R8: BA Music and Modern Languages year 1 (BA/MUSML)
Opsiynol mewn cyrsiau:
- M100: LLB Law year 1 (LLB/L)
- M11B: LLB Law (4 year with Incorporated Foundation) year 1 (LLB/L1)
- M102: LLB Law (International Experience) year 1 (LLB/LI)
- M10P: LLB Law with Placement Year year 1 (LLB/LP)