Modiwl WXC-2269:
Lleoliad Cymunedol Celfyddydol
Lleoliad Cymunedol Celfyddydol 2022-23
WXC-2269
2022-23
School Of Arts, Culture And Language
Module - Semester 1
20 credits
Module Organiser:
Gwawr Ifan
Overview
Mae’r modiwl hwn yn cynnig y cyfle i fyfyrwyr i gael rhywfaint o wybodaeth weithredol - yn theoretig ac yn ymarferol - ym maes gweinyddiaeth y celfyddydau. Yn ystod y flwyddyn, bydd myfyrwyr yn cynllunio ac yn ymgymryd â lleoliad annibynnol estynedig o o leiaf 40 awr yn y gymuned, gan anelu at gyflawni gôl benodol. Gall hwn fod yn ardal Bangor neu leoliad arall: mae lleoliadau posibl yn cynnwys canolfannau celf neu leoliadau eraill (e.e. Gwyliau, canolfannau cerdd, cerddorfa). Bydd briff penodol i’r prosiect, gyda tharged(au) clir a chyraeddadwy: gallai olygu gwneud ymchwil o’r farchnad ar ran canolfan gelfyddydol, gyda’r bwriad o greu cyfres o argymhellion ar bolisi, neu gallai olygu trefnu cyfres o weithdai addysgiadol ar thema benodol ar gyfer ysgol neu ysgolion lleol. Gall myfyrwyr rannu'r un lleoliad (e.e. Gwyl Gerdd Bangor) os ydy eu cyfrifoldebau penodol wedi eu nodi yn amlwg yn eu briff personol hwy.
Assessment Strategy
-Derbyniol -Gwaith sy’n ddangos gwybodaeth gyfyngedig o’r pwnc, gyda gallu syml i feddwl yn gysyniadol, ychydig dystiolaeth o ymdriniaeth ddeallusol wirioneddol, ond a fynegir yn ddealladwy serch hynny.
-Da -Gwaith sy’n dangos gafael gadarn ar y pwnc, meddwl cysyniadol da, tystiolaeth o graffter deallusol, ac wedi ei fynegi’n glir a diddorol.
-Gwych -Gwaith sy’n dangos gafael drwyadl ar y pwnc, gyda thystiolaeth o astudio pellach a meddwl cysyniadol dyfnach, gyda pheth gwreiddioldeb mewn dull ymdrin, ac wedi ei fynegi’n drefnus ac argyhoeddiadol
Learning Outcomes
- Ar ôl cwblhau’r modiwl, bydd myfyrwyr yn gallu cyflawni astudiaeth benodol o agwedd nodedig o weithgaredd cymunedol.
- Ar ôl cwblhau’r modiwl, bydd myfyrwyr yn gallu dadansoddi sylfaen ddamcaniaethol sy’n sail i hyrwyddo’r celfyddydau yn y gymuned yn
effeithiol.
- Ar ôl cwblhau’r modiwl, bydd myfyrwyr yn gallu dadansoddi’r gwahanol ffactorau sy’n rhan o reoli’r celfyddydau
- Ar ôl cwblhau’r modiwl, bydd myfyrwyr yn gallu defnyddio ystod o fedrau cyfathrebu, fel sy’n briodol i’r lefel hon o astudio.
- Ar ôl cwblhau’r modiwl, bydd myfyrwyr yn gallu ymgymryd â chyfrifoldebau gweinyddol, personol a chymdeithasol penodol o fewn i gyddestun cymunedol penodol, sy’n cynnwys cyflawni gwaith annibynnol sylweddol.
Assessment method
Individual Presentation
Assessment type
Crynodol
Description
Cyflwyniad Dylech siarad am hyd at 10 munud am eich prosiect neu leoliad. Gan fod eich prosiect ar y pwynt hwn yn debygol o fod yn waith ar y gweill, bydd yr arholw(y)r yn deall nad ydych mewn sefyllfa i rannu eich casgliadau terfynol. Yn hytrach, dylech siarad am rai neu'r cyfan o'r canlynol: • Trosolwg byr o'ch lleoliad • Beth yw eich brîff ar gyfer y prosiect? • Sut ydych chi'n mynd ati i wneud y gwaith? • Enghraifft o waith (ac o bosibl canfyddiadau) rydych chi wedi'i gwblhau hyd yn hyn. • Unrhyw broblemau y gallech fod wedi'u profi ar hyd y ffordd a sut rydych wedi delio â nhw • Gwerthusiad beirniadol o'ch cynnydd hyd yn hyn. • Rhagdybiaethau am yr hyn y gallwch chi ddisgwyl i'ch casgliadau yn y pen draw fod. Dylai'r cyflwyniad fod yn fywiog a diddorol, a dylai gyflwyno'ch pwnc i eraill yn y dosbarth. Bydd angen i chi gyflwyno'ch sgript, sleidiau ac unrhyw daflenni ar Blackboard erbyn 5pm y diwrnod ar ôl eich cyflwyniad.
Weighting
25%
Due date
23/11/2022
Assessment method
Logbook Or Portfolio
Assessment type
Crynodol
Description
Log Dylai'ch log gofnodi 40 awr o waith ar leoliad, ac amlinellu'ch cynnydd yn ystod y semester. Dylai’ch log gynnwys: - Natur y weithgaredd - Hyd y weithgaredd (a chyfanswm oriau ar y prosiect hyd yn hyn) - Sgiliau a ddefnyddiwyd ac a ddatblygwyd (Yma, dylech gynnwys adlewyrchiadau a dadansoddiad beirniadol o’ch mewnbwn a’ch datblygiad) - Allbwn / pwyntiau gweithredu / nodiadau. Gallwch ddefnyddio’r pro fformat sydd ar gael ar Blackboard ar gyfer y logiau, os ydyw’n berthnasol.b
Weighting
25%
Due date
09/01/2023
Assessment method
Report
Assessment type
Crynodol
Description
Adroddiad am y lleoliad Fel rheol, defnyddir is-benawdau er mwyn rhannu’r adroddiad i adrannau addas, e.e: - Cyflwyniad (gan gynnwys nodau ac amcanion prosiect / lleoliad), - Disgrifiad o'ch rôl, - Canfyddiadau (os yw'n berthnasol), - Dadansoddi a Gwerthuso'ch cyfraniad (dylai'r adran hon gynnwys cyfeiriadau at ddeunydd ysgolheigaidd), - Casgliad. Dylech hefyd gynnwys: - Tudalen deitl - Tudalen gynnwys (gyda rhif tudalen). - Llyfryddiaeth (dylech gynnwys deunydd ysgolheigaidd cynradd a / neu eilaidd i gefnogi'ch gwaith). Efallai y byddai'n briodol cynnwys deunyddiau perthnasol mewn Atodiad (e.e. e-byst, cynlluniau gwersi, deunydd marchnata ac ati). Dylid cynnwys hwn cyn y Llyfryddiaeth. Mae'r cyfanswm geiriau yn cynnwys pob dyfyniad ond nid yw'n cynnwys troednodiadau, llyfryddiaeth nac atodiadau. Mae'r gofynion cyflwyno ar gyfer yr adroddiadau yr un fath ag ar gyfer traethodau (gweler adrannau perthnasol Llawlyfr yr Ysgol ar Blackboard)
Weighting
50%
Due date
09/01/2023