Newyddion
- Newyddion diweddaraf
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014
- Awst 2014
- Gorffennaf 2014
- Mehefin 2014
- Mai 2014
- Ebrill 2014
- Mawrth 2014
- Chwefror 2014
- Ionawr 2014
- Rhagfyr 2013
- Tachwedd 2013
- Hydref 2013
- Medi 2013
- Awst 2013
- Gorffennaf 2013
- Mehefin 2013
- Mai 2013
- Ebrill 2013
- Mawrth 2013
- Chwefror 2013
- Ionawr 2013
- Rhagfyr 2012
- Tachwedd 2012
- Hydref 2012
- Medi 2012
- Awst 2012
- Gorffennaf 2012
- Mehefin 2012
- Mai 2012
- Ebrill 2012
- Mawrth 2012
- Chwefror 2012
- Ionawr 2012
- Rhagfyr 2011
- Tachwedd 2011
- Hydref 2011
- Medi 2011
- Awst 2011
- Gorffennaf 2011
- Mehefin 2011
- Mai 2011
- Ebrill 2011
- Mawrth 2011
- Chwefror 2011
- Ionawr 2011
- Rhagfyr 2010
- Tachwedd 2010
- Hydref 2010
- Medi 2010
- Holl Newyddion A–Y
Newyddion: Ebrill 2017
Ôl-ddoethur Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer yn rhoi prif anerchiad yng Nghymdeithas Ryngwladol Diogelwch Sgïo
Yn ddiweddar, cyflwynodd Dr Matt Barlow brif anerchiad yng Nghymdeithas Ryngwladol Diogelwch Sgïo, y 22ain Gyngres a gynhaliwyd rhwng 17 – 22 Ebrill yn Innsbruck, Awstria. Enw sgwrs Matt oedd "Motives for participation in high risk sport."
Dyddiad cyhoeddi: 28 Ebrill 2017
Prifysgolion Cymru yn cyhoeddi cyfleuster ymchwil cenedlaethol newydd ar gyfer uwch-gyfrifiadura
Bydd Uwch-gyfrifiadura Cymru yn galluogi ymchwil wyddonol o'r radd flaenaf ledled y wlad
Mae prifysgolion yng Nghymru wedi cyhoeddi rhaglen uwch-gyfrifiadura newydd gwerth £15m.
Ariennir y rhaglen yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. Bydd 'Uwch-gyfrifiadura Cymru' yn galluogi'r wlad i gystadlu'n fyd-eang am waith ymchwil ac arloesedd sy'n gofyn am gyfleusterau cyfrifiadura o'r radd flaenaf er mwyn efelychu a datrys problemau gwyddonol cymhleth
Dyddiad cyhoeddi: 28 Ebrill 2017
Darlithydd yn ennill gwobr genedlaethol am ymchwil i ffug lysoedd barn
Yng nghynhadledd flynyddol yr Association of Law Teachers, a gynhaliwyd yn gynharach y mis hwn ym Mhrifysgol Portsmouth, fe wnaeth Stephen Clear, Darlithydd yn y Gyfraith a Chydlynydd Ffug Lysoedd Barn Ysgol y Gyfraith Bangor, ennill gwobr bwysig Stan Marsh. Cipiodd Stephen y wobr am ei gyflwyniad poster gyda'r teitl: "Is This the Real Life, Is This Just Fantasy? Mooting, Employability and Expectations."
Dyddiad cyhoeddi: 27 Ebrill 2017
Fact Check: Do six million people earn less than the living wage?
Dyma erthygl yn Saesneg gan Tony Dobbins o’r Ysgol Funses sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Ebrill 2017
Rhinos should be conserved in Africa, not moved to Australia
Dyma erthygl yn Saesneg gan Matt Hayward o’r Ysgol Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Ebrill 2017
First investigation of eye-tracking in Electronic Gaming Machine play
Gan mai datganiad gan gorff allanol (GambleAware) yw hwn, nid yw ar gael yn Gymraeg.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Ebrill 2017
Ymchwil arloesol i fuddion gemau cyfrifiadurol i drin Clefyd Parkinson
Mae niwrowyddonwyr yng ngogledd Cymru yn ymchwilio i fuddion posibl gemau cyfrifiadurol sy'n ysgogi'r ymennydd i drin Clefyd Parkinson.
Arweinir yr astudiaeth gan ymchwilwyr yn Ysgol Seicoleg, Prifysgol Bangor, gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) ac arbenigwyr niwrolegol yng Nghanolfan Walton, Lerpwl.
Maen nhw'n astudio effeithiau sgrin gyffwrdd gyda gemau rhesymu gofodol ar ran o'r ymennydd a ddefnyddir i reoli symudiadau mewn cleifion Parkinson.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Ebrill 2017
Ymuno i gael ynni rhatach o lanw'r môr
Mae eigionegwyr yn Ysgol Gwyddorau'r Eigion Prifysgol Bangor yn lansio project mawr i astudio cynnwrf y llanw yn y Fenai. Sut gall y project hwn helpu i leihau costau datblygu, gan arwain at ynni rhatach o'r llanw?
Mae egni'r môr yn cynrychioli adnodd ynni helaeth a heb ei ddefnyddio gan fwyaf. Amcangyfrifwyd bod y farchnad fyd-eang am ynni morol werth tua £76 biliwn rhwng 2016 ac 2050, yn ôl y ffigurau a ryddhawyd gan yr Ymddiriedolaeth Garbon.
Er mwyn cael mynediad i'r ffynhonnell hon o ynni, mae eigionegwyr yn Ysgol Gwyddorau'r Eigion Prifysgol Bangor wedi ennill dau grant mawr gwerth £230k i astudio'r cynnwrf yn y cefnfor. Yr amcan yw helpu i wella dyluniad a gweithrediad dyfeisiau i ddal ynni'r llanw.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Ebrill 2017
Myfyrwyr PhD yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer yn helpu i drefnu'r gynhadledd ôl-radd Cymru gyfan gyntaf
Roedd y gynhadledd ôl-radd Cymru gyfan gyntaf mewn Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer a gynhaliwyd ddydd Gwener, 21 Ebrill ym Mhrifysgol Abertawe yn y campws ar y bae yn llwyddiant ysgubol.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Ebrill 2017
Ydych chi eisiau aros yn iach yn feddyliol pan fyddwch yn hŷn? Ysgogwch eich ymennydd pan fyddwch yn fengach
Yn ôl ymchwil newydd mae ysgogi'r ymennydd drwy gyflawni swyddogaethau arwain yn y gwaith, neu aros ymlaen mewn addysg, yn helpu pobl i aros yn iach yn feddyliol yn ddiweddarach mewn bywyd.
Arweiniwyd yr ymchwiliad sylweddol gan Yr Athro Linda Clare o Brifysgol Exeter, ac a fu'n aelod o Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor hyd yn ddiweddar, a chyhoeddwyd y canlyniadau yn y cyfnodolyn PLOS Medicine. Defnyddiwyd data a gasglwyd o dros 2,000 o bobl dros 65 oed a oedd yn ffit yn feddyliol, gan archwilio'r ddamcaniaeth bod profiadau sy'n rhoi her i'r ymennydd mewn ieuenctid a chanol oed yn gwneud pobl yn fwy gwydn i ddelio â newidiadau'n deillio o henaint neu salwch - mae ganddynt 'gryfder gwybyddol' uwch.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Ebrill 2017
Astudiaeth ASPIRE: Gweithredu rhaglen effeithiol therapi wybyddol seiliedig ar ymwybyddiaeth ofalgar (MBCT) mewn gwasanaethau GIG yn y Deyrnas Unedig
Roedd ASPIRE yn astudiaeth ansoddol, archwiliadol ac eglurhaol mewn dau gam a gynhaliwyd i ddisgrifio darpariaeth bresennol MBCT yn y GIG yn y DU, datblygu dealltwriaeth o gostau a manteision tybiedig gweithredu MBCT, ac archwilio ffactorau rhwystrau a llwyddiant o ran gwell hygyrchedd.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Ebrill 2017
Bloomageddon: seven clever ways bluebells win the woodland turf war
Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr vera Thoss o’r Ysgol Gemeg sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol
Dyddiad cyhoeddi: 10 Ebrill 2017
Celebrated 'English' poet Edward Thomas was one of Wales' finest writers
Shortly after 7am on April 9 1917, 39-year-old writer Edward Thomas was killed by a shell during the Battle of Arras in northern France. He left a body of mostly unpublished work that has since cemented his place as one of Britain’s greatest poets.
This article by Andrew Webb, Senior Lecturer in English Literature, was originally published on The Conversation. Read the original article.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Ebrill 2017
There are no two ways about it, grey squirrels are bad for the British countryside
Dyma erthygl yn Saesneg gan Craig Shuttleworth Cymrawd Ymchwil Arhydeddus o’r Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol
Dyddiad cyhoeddi: 6 Ebrill 2017
Gwaith ymchwil Prifysgol Bangor o gymorth wrth warchod rhywogaeth newydd i’r rhestr gwarchod
Rydym yn ymwybodol bod masnachu a chludo ifori yn cael ei reoli’n dyn er mwyn gwarchod eliffantod, a bod cynnyrch a ddaw o anifeiliaid eraill fel corn y rhinoseros hefyd yn cael ei reoli’n llym mewn ymgais i roi stop ar y fasnach anghyfreithlon a potsio neu herwhela, sydd yn fygythiad i oroesiad rhai rhywogaethau.
Mae’r rhestr y rhai a geir eu gwarchod yn ymestyn y tu hwnt i’r anifeiliaid mwyaf adnabyddus yr ydym mor hoff ohonynt.
Y corff sy’n gyfrifol am reoleiddio a monitro’r fasnach mewn cynnyrch bywyd gwyllt yw CITES (neu Convention on the International Trade in Endangered Species), ac mae 183 gwlad yn ardystion iddo.
Mae grŵp rhywogaeth arall bellach wedi ymuno â’r rhestr yn dilyn cyfarfod CITES diweddar, sef cath fôr y diafol, ac o heddiw ( 4 Ebrill) ymlaen, bydd y rheoliadau newydd yn cael eu gweithredu.
Mae un fyfyrwraig o Brifysgol Bangor yn chwarae rhan mewn gwarchod cath fôr y diafol (devil ray) a’r gath fôr manta, sydd eisoes yn cael ei gwarchod.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Ebrill 2017
Datblygiadau diweddaraf ynni solar yn cael eu hamlygu ym Mhrifysgol Bangor
Y mis hwn bydd Ysgol Peirianneg Electronig Prifysgol Bangor yn cynnal Cynhadledd PVSAT 13 (Gwyddoniaeth, Cymhwysiad a Thechnoleg Ffotofoltaidd, 5-7 Ebrill), gan ddwyn ynghyd wyddonwyr gorau a mwyaf disglair y maes solar ar gyfer y gynhadledd bwysicaf ar ymchwil ynni solar yn y Deyrnas Unedig.
Caiff tua 5% o'n trydan ei gynhyrchu ag ynni solar yn y Deyrnas Unedig, ac oherwydd cynnydd o 25% mewn cynhyrchu ynni solar yn y blynyddoedd diwethaf a chostau cynhyrchu sy'n gostwng yn gynyddol, solar yw un o'r dulliau rhataf o gynhyrchu ynni ac mae'r dyfodol yn edrych yn llewyrchus i ynni solar. Mae'n parhau'n faes ymchwil poblogaidd yn sectorau gwyddoniaeth a pheirianneg prifysgolion y Deyrnas Unedig.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Ebrill 2017