TAR Uwchradd - Dylunio a Thechnoleg TAR Uwchradd yn arwain at ddyfarniad Statws Athro Cymwysedig (Cymru a thu hwnt drwy bartneriaeth CaBan)

Overview

Course facts

  • Name: TAR Uwchradd - Dylunio a Thechnoleg
  • Qualification: TAR Uwchradd yn arwain at ddyfarniad Statws Athro Cymwysedig (Cymru a thu hwnt drwy bartneriaeth CaBan)
  • Duration: Blwyddyn

caban

Ar ôl cwblhau'r TAR yn llwyddiannus, bydd AC Dylunio a Thechnoleg wedi datblygu athroniaeth addysgu a dysgu drwyadl yn y pwnc yn ogystal â dealltwriaeth o'i swyddogaeth ehangach a'i botensial i gyfrannu tuag at bedwar diben y cwricwlwm newydd.

Bydd AC llwyddiannus yn deall bod Dylunio a Thechnoleg yn bwnc trylwyr ac ymarferol. Yn greiddiol iddo, bydd egwyddorion sy'n canolbwyntio ar bobl a chynllun ailadroddol systematig yn galluogi dysgwyr i greu cynhyrchion a / neu wasanaethau sy'n datrys problemau real sy'n berthnasol, ac yn arwain dysgwyr i ystyried anghenion a gwerthoedd pobl eraill, yn ogystal â'u rhai eu hunain.

Bydd AC yn deall mai Dylunio a Thechnoleg fydd defnyddio gwybodaeth bynciol trwy bwyso ar egwyddorion a darganfyddiadau o bynciau eraill megis mathemateg, peirianneg, gwyddoniaeth a chelf.  Bydd AC yn mabwysiadu dull dysgu trwy brofiad, gan alluogi dysgwyr i ddysgu am Ddylunio a Thechnoleg a defnyddio gwybodaeth ddamcaniaethol mewn cyd-destun byd go iawn drwy sialensiau cyd-destunol.

Bydd AC llwyddiannus yn gallu rheoli'r cwricwlwm DaT yn fedrus, byddant yn ymarferwyr creadigol eu hunain, a chyda'r sgiliau i ddatblygu creadigrwydd eraill.

Bwriad y rhaglen TAR Uwchradd yw rhoi dealltwriaeth ddofn i chi o'r ffordd mae plant a phobl ifanc yn dysgu a rhoi i chi'r sgiliau a'r wybodaeth y bydd arnoch eu hangen i ddatblygu'n athro creadigol ac arloesol. Cewch gyfle i ddysgu am ddatblygiad plant trwy'r sector uwchradd a chael cefnogaeth i ddod yn athro rhagorol/athrawes ragorol.  Mae'r cwrs TAR gyda SAC hwn* yn cael ei gydnabod ar draws Cymru a Lloegr ac mae'n aml yn drosglwyddadwy* i fynd i'r proffesiwn dysgu mewn gwledydd eraill. 

*Dylai rhai sydd eisiau dysgu y tu allan i Gymru a Lloegr wirio bod Statws Athro Cymwysedig yn cael ei gydnabod gan gorff proffesiynol athrawon y wlad dan sylw ac y gellir ei drosglwyddo yno.

Bydd ysgolion ymroddedig gyda mentoriaid wedi eu hyfforddi'n dda yn cefnogi cynnydd athrawon cysylltiol tuag at ennill Statws Athro Cymwysedig yn unol â'r Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth yng Nghymru.

Bydd tiwtoriaid ac ymchwilwyr profiadol yn y brifysgol a staff yn yr ysgolion yn rhoi cefnogaeth ragorol a sesiynau ysgogol, a bydd y cymhwyster a geir yn galluogi myfyrwyr i ddysgu yng Nghymru a thu hwnt iddi.

Course content is for guidance purposes only and may be subject to change.

Course Content

Bydd AC yn gallu datblygu sgiliau eu dysgwyr i  wneud y canlynol:

  • defnyddio meddwl cydgyfeiriol a dargyfeiriol wrth arsylwi, ymchwilio, ymholi damcaniaethol, delweddu a/neu ddatrys problemau , a chynhyrchu safbwyntiau beirniadol creadigol hyddysg;
  • bod yn feddylwyr beirniadol sy'n defnyddio tystiolaeth i werthuso, cyfuno a ffurfio barn am effaith eu dewisiadau fel dylunwyr, gwneuthurwyr a defnyddwyr ar yr amgylchedd lleol a'r amgylchedd ehangach;
  • dangos empathi, gwerthuso a mynegi syniadau ac emosiynau trwy gyfryngau a deilliannau gwahanol.

Bydd gan AC hyder yn eu sgiliau gweithgynhyrchu eu hunain sy'n galluogi dysgwyr i ddeall pwysigrwydd modelau a modelu wrth gynhyrchu prototeipiau ar gyfer profi a gwerthuso. Bydd AC yn gallu mabwysiadu a gweithredu'r datblygiadau technolegol a deunyddiau diweddaraf yn eu pwnc yn effeithiol, sy'n cynnwys caledwedd a meddalwedd TGCh arbenigol sy'n gysylltiedig â dylunio cynnyrch, technoleg rheoli a gweithgynhyrchu (CAD / CAM).

Entry Requirements

  • O leiaf 2:2 mewn gradd anrhydedd neu gyfwerth mewn maes sy'n gysylltiedig â pwnc astudio.
  • Gradd B/Gradd 5 yn yr arholiadau TGAU mewn unrhyw un o’r pynciau canlynol: Saesneg Iaith, Llenyddiaeth Saesneg, Cymraeg (Iaith gyntaf), Llenyddiaeth Gymraeg. Lle bo myfyrwyr wedi cael yr hyn sy’n gyfatebol i radd B/radd 5 mewn naill ai Llenyddiaeth Saesneg neu Lenyddiaeth Gymraeg, rhaid cael lleiafswm o radd C yn yr arholiad TGAU cyfatebol mewn Saesneg Iaith neu Gymraeg (Iaith Gyntaf).
  • Gradd B/Gradd 5 yn yr arholiad TGAU mewn Mathemateg neu Fathemateg-Rhifedd.
  • Mae profion cyfwerth â TGAU Gradd B mewn Saeseng a mathemateg ar gael i ymgeiswyr gael eu derbyn i'r cyrsiau addysg athrawon ar gyfer y sesiwn academaidd nesaf ym Mhrifysgol Bangor. Mae'n rhaid i'r ymgeiswyr sy'n dymuno sefyll y prawf cyfwerth fod â gradd C safon TGAU.
  • Parodrwydd ac agwedd gadarnhaol tuag at wella eu defnydd personol o'r iaith Gymraeg.

International Students

For information and further detailed guidance on entry requirements for International Students, including the minimum English Language entry requirement, please visit the Entry Requirements by Country pages on the International Education Centre section of our website.

Ask the IEC for assistance...

If you want advice or a general chat about what’s available contact the International Education Centre on +44 (0) 1248 382028 or email international@bangor.ac.uk

Apply

Noder bod ymgeisio ar gyfer cwrs TAR yn wahanol i'r drefn ymgeisio am gyrsiau Ôl-radd eraill Prifysgol Bangor.

Dylid ymgeisio am gwrs TAR trwy wefan UCAS Teacher Training (UCAS TT).

Careers and Employability

Mae'r cwrs TAR Uwchradd gyda SAC hwn yn cael ei gydnabod ar draws Cymru a Lloegr ac mae'n aml yn drosglwyddadwy* i fynd i'r proffesiwn dysgu mewn gwledydd eraill.  Mae'n eich paratoi'n llawn i weithio fel athro/athrawes yng Nghymru a thu hwnt.

*Dylai rhai sydd eisiau dysgu y tu allan i Gymru a Lloegr wirio bod Statws Athro Cymwysedig yn cael ei gydnabod gan gorff proffesiynol athrawon y wlad dan sylw ac y gellir ei drosglwyddo yno.

Mae rhaglenni CaBan yn eich paratoi at ystod eang o swyddogaethau ym maes addysg ac yn datblygu sgiliau arweinyddiaeth hanfodol.  Mae corff cynyddol o dystiolaeth bod arweinyddiaeth ysgol yn cael effaith ar ganlyniadau myfyrwyr sy'n ail yn unig i ddylanwad athrawon yn y dosbarth.  O fewn partneriaeth CaBan mae gennym arbenigedd a phrofiad rhyngwladol o'r theori a'r ymchwil diweddaraf ym maes arweinyddiaeth.  Mae'r arbenigedd hwn yn effeithio ar gynnwys y rhaglen hon ac ar y datblygiadau pwysig a welir ar draws y rhanbarth ac ar lefel genedlaethol o ran datblygu timau arwain cryf ac effeithiol yn ein hysgolion.

Mae'r rhaglen yn cynnig lleoliadau byr/llawn mewn ysgolion cynradd ac ysgolion arbennig, canolfannau awyr agored a lleoliadau eraill sy'n gysylltiedig ag addysg, er mwyn sicrhau eich bod yn cael profiad rhagorol sy'n cyd-fynd â'ch diddordebau.

Cysylltiadau â diwydiant:

Mae'r rhaglen wedi ei llunio ar y cyd â rhwydwaith o ysgolion partneriaeth rhagorol ar draws y rhanbarth, ac yn cael ei chyflwyno a'i hasesu mewn cydweithrediad â hwy.

Funding

Cymhellion Hyfforddi i Athrawon

Gallai graddedigion sydd â graddau penodol fod yn gymwys am gymhellion o hyd at £20,000 os ydynt am i hyfforddi i fod yn athro yng Nghymru.

Y pynciau blaenoriaeth yw:

  • Ffiseg
  • Cemeg
  • Mathemateg
  • Cymraeg
  • Cyfrifiadureg
  • Ieithoedd Tramor Modern

Manylion llawn yma.

Gweler hefyd:

Cyllid Myfyrwyr Cymru

Further information

Contact us

Ysgol Addysg a Datblygiad Dynol

Ffôn : +44 (0) 1248 382408

Ebost: addysg@bangor.ac.uk

Other Courses

(leading to the award of Qualified Teacher Status (Wales & beyond through the CaBan partnership)

PGCE Secondary leading to the award of Qualified Teacher Status (Wales & beyond through the CaBan partnership)

TAR Uwchradd yn arwain at ddyfarniad Statws Athro Cymwysedig (Cymru a thu hwnt drwy bartneriaeth CaBan)

yn arwain at ddyfarniad Statws Athro Cymwysedig (Cymru a thu hwnt drwy bartneriaeth CaBan)

Next steps