Newyddion: Tachwedd 2019
Did human hunting activities alone drive great auks’ extinction?
Datganiad i'r Wasg gan eLife. Nid yw ar gael yn y Gymraeg.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Tachwedd 2019
Scientists complete largest global assessment of ocean warming impacts
Datganiad i'r wasg gan y Scottish Association for Marine Science. Nid yw ar gael yn y Gymraeg.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Tachwedd 2019
Cynllun trydan dŵr bach yn amddiffyn y Beibl Cymraeg hynaf
Bydd Beibl Cymraeg 431 oed yn cadw’n gynnes dros y gaeaf ar ôl i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol osod tyrbin trydan dŵr bychan yn Nhŷ Mawr Wybrnant yn Eryri, gan helpu i reoli lefelau lleithder yn y ffermdy o’r 16egganrif. Trwy gydweithio â Phrifysgol Bangor a Choleg y Drindod, Dulyn, mae’r cynllun ynni adnewyddadwy yn helpu’r elusen i sicrhau bod un o’r llyfrau pwysicaf i ddiwylliant Cymru’n cael ei amddiffyn mewn ffordd fwy cynaliadwy.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Tachwedd 2019
Gleiderau tanddwr yn helpu gwella rhagolygon y tywydd
Bydd dulliau newydd o fesur y modd mae dyfroedd yn cymysgu o dan wyneb Cefnfor yr Iwerydd yn cael eu defnyddio i wella rhagolygon y tywydd. Mesurwyd tyrfedd y dŵr gan 'gleider' tanddwr a chyhoeddir canlyniadau'r ymchwil, dan arweiniad Natasha Lucas, ymchwilydd ym Mhrifysgol Bangor, mewn erthygl cyfnodolyn .
Dyddiad cyhoeddi: 18 Tachwedd 2019
Effaith Newid Hinsawdd ar Fwncïod
Mae grŵp o ymchwilwyr Prifysgol Bangor newydd ddarfod astudiaeth yn ymchwilio effaith newid hinsawdd ar fwncïod.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Tachwedd 2019
Pecynnu ein bwydydd heb blastig
Mae pobl ledled y byd yn poeni fwyfwy am faint o blastig untro a ddefnyddir i becynnu'r pethau rydym yn eu prynu, yn enwedig bwyd. Er bod deunydd lapio o'r fath yn ymddangos yn ddiangen, byddai llawer o gynhyrchwyr ffrwythau a llysiau yn dadlau bod pecynnu nwyddau darfodus yn sicrhau bod defnyddwyr yn gallu cario eu bwyd yn hawdd. Hefyd, mae mwy o fwyd yn cyrraedd y farchnad heb ei ddifrodi, gan gynyddu'r cyflenwad bwyd a lleihau gwastraff bwyd. Yr ateb yw datblygu dulliau eraill cynaliadwy o becynnu bwyd.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Tachwedd 2019
Magwrfeydd larfau pysgod yn llawn plastigau yr un maint â'u bwyd
Mae ymchwil newydd wedi dangos am y tro cyntaf, bod larfau pysgod o amryw o rywogaethau pysgod o wahanol gynefinoedd yn y môr yn cael eu hamgylchynu gan blastigau yn eu hoff gynefinoedd magu ac yn llyncu'r plastigau. Mae llawer o bysgod môr y byd yn treulio eu dyddiau neu wythnosau cyntaf yn bwydo ac yn datblygu ar wyneb y môr, ond nid ydym yn gwybod llawer am brosesau'r môr sy'n effeithio ar oroesiad larfau pysgod. Larfau pysgod yw'r genhedlaeth nesaf o bysgod aeddfed a fydd yn cyflenwi protein a maetholion hanfodol i bobl ledled y byd. Cynhaliodd Canolfan Gwyddoniaeth Pysgodfeydd Ynysoedd y Môr Tawel NOAA a thîm rhyngwladol o wyddonwyr, gan gynnwys Prifysgol Bangor, un o'r astudiaethau mwyaf uchelgeisiol hyd yma, i daflu goleuni ar y bwlch hanfodol bwysig hwn yn ein gwybodaeth. Cyhoeddwyd yr astudiaeth heddiw yn y cyfnodolyn Proceedings of the National Academy of Sciences . Roedd yr astudiaeth wedi cyfuno arolygon towio plancton yn y maes ac uwch dechnegau synhwyro o bell i nodi cynefin magwrfeydd larfau pysgod yn y môr ar arfordir Hawai'i.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Tachwedd 2019
Dyfarnu Ysgoloriaethau Cydraddoldeb rhwng y Rhywiau 19/20
Dyfarnwyd tair 'Ysgoloriaeth Cydraddoldeb rhwng y Rhywiau' i fyfyrwyr rhagorol o Brifysgol Bangor - Ally Jackson, Claire Carrington a Victoria Chinery. Roedd y tair yn fyfyrwyr israddedig ym Mangor ac wedi graddio gyda gradd Anrhydedd Dosbarth Gyntaf. Bydd yr ysgoloriaethau, sy'n talu ffioedd llawn y cyrsiau, yn galluogi'r myfyrwyr dawnus a brwdfrydig hyn i barhau â'u hastudiaethau ac maent bellach wedi cofrestru ar gyrsiau ymchwil ôl-radd ym Mangor.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Tachwedd 2019