
Modiwl LCS-2032:
Project 3 Iaith Sbaeneg (pb)
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Languages, Literatures, Linguistics and Media
20.000 Credyd neu 10.000 Credyd ECTS
Semester 2
Trefnydd: Dr David Miranda-Barreiro
Amcanion cyffredinol
Nod y modiwl hwn yw rhoi cyfle i fyfyrwyr ysgrifennu darn estynedig o waith yn ystod eu semester mewn gwlad Sbaeneg ei hiaith. Mae'r project yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ddatblygu gwybodaeth drylwyr am elfen benodol o fywyd, llenyddiaeth neu ddiwylliant Sbaeneg, Catalaneg neu Aliseg a gwella eu Sbaeneg ysgrifenedig a llafar yr un pryd. Dylid dewis pwnc nad yw eisoes yn elfen benodol o'r maes llafur, pwrpas hynny yw annog myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau astudio annibynnol a'u sgiliau ymchwil.
Cynnwys cwrs
Ar yr amod y caiff ei gymeradwyo gan aelodau perthnasol staff yr Ysgol Ieithoedd Modern, gall y dewis bwnc neu'r darn i'w gyfieithu ymwneud ag unrhyw agwedd ar fywyd, llenyddiaeth, hanes neu ddiwylliant Sbaeneg, Catalaneg neu Aliseg. Dylid dewis pwnc/darn i'w gyfieithu nad yw eisoes yn elfen benodol o'r maes llafur. Ni ddylid dewis darn i'w gyfieithu sydd eisoes wedi ei gyfieithu i'r Gymraeg/Saesneg. Bydd y traethawd/cyflwyniad yn yr iaith darged.
Meini Prawf
trothwy
D- - D+: Trothwy Dealltwriaeth foddhaol o'r pwnc a ddewiswyd; tystiolaeth gyfyngedig o sgiliau ymchwil annibynnol a gafael gyfyngedig ar eirfa a gramadeg.
da
C- - B+: Da Dealltwriaeth gadarn o'r pwnc a ddewiswyd; tystiolaeth ddigonol o sgiliau ymchwil annibynnol a gafael dda ar eirfa a gramadeg.
ardderchog
A- - A*: Rhagorol Dealltwriaeth drylwyr o'r pwnc a ddewiswyd; tystiolaeth helaeth o sgiliau ymchwil annibynnol a gafael ragorol ar eirfa a gramadeg.
Canlyniad dysgu
-
Dangos y gallu i wneud ymchwil annibynnol NEU gyfieithu darn estynedig yn annibynnol.
-
Dangos y gallu i gasglu gwybodaeth a'i chrynhoi mewn dadl glir a rhesymegol yn yr iaith darged ar lafar neu'n ysgrifenedig NEU wneud penderfyniadau gwybodus wrth gyfieithu, gan ystyried cyd-destun cymdeithasol-wleidyddol a hanesyddol y testun gwreiddiol.
-
Dangos rhywfaint o dystiolaeth o feddwl gwreiddiol dadansoddol.
-
Dangos eu bod yn gyfarwydd â thechnegau cyfeirio (yn cynnwys llunio llyfryddiaeth) NEU uwch dechnegau cyfieithu.
-
Dangos cymhwysedd wrth ddefnyddio'r iaith Sbaeneg a'i gramadeg.
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
Cynnwys | 47.50 | ||
Iaith | 47.50 | ||
Sgiliau traethawd hir | 5.00 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Individual Project | 200 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Defnyddio cyfrifiaduron - Medrusrwydd wrth ddefnyddio ystod o feddalwedd cyfrifiadurol
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
Rhagofynion a Chydofynion
Rhagofynion
Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Gorfodol mewn cyrsiau:
- R912: BA French, German & Spanish year 2 (BA/FGS4#)
- R91F: BA French, German & Spanish [with Foundation Year] year 2 (BA/FGS4#F)
- R917: BA French, Italian & Spanish year 2 (BA/FIS4#)
- R925: BA German, Italian & Spanish year 2 (BA/GIS4#)