Llety
Sicrwydd o ystafell i bob myfyriwr y flwyddyn gyntaf
Rydym yn gallu sicrhau ystafell mewn neuadd breswyl i bob myfyriwr y flwyddyn gyntaf sy’n cychwyn eu cwrs fis Medi, yn gwnued cais am lety o fewn yr amser penodedig ac yn nodi Bangor fel eu Dewis Cadarn. Mae gennym tua 3,000 o ystafelloedd ar gael.
Mae’r mwyafrif o’n neuaddau wedi eu lleoli ym Mhentref Ffriddoedd ac ym Mhentref y Santes Fair. Ffriddoedd yw cartref Neuadd John Morris-Jones (neu JMJ i’r rhai sy’n byw yno), sy’n cynnig cyfle gwych i fyfyrwyr gael byw mewn awyrgylch gwbl Gymraeg.
Mae JMJ wedi ei lleoli mewn adeilad fodern ar safle Ffriddoedd, gyda chyfleusterau en-suite. Hefyd yn Ffriddoedd ceir caffi-bar Bar Uno a chanolfan chwaraeon Brailsford.
Cyfleusterau cyffredinol
- Mae ein neuaddau wedi eu gosod y gorau ym Mhrydain am safon y neuaddau gan Gwobrau Myfyrwyr What Uni 2018.
- O fewn cyrraedd adeiladau’r Brifysgol a chanol y ddinas.
- Cefnogaeth yn cynnwys Uwch Wardeniaid, Tîm mawr o Wardeniaid a Staff Diogelwch.
- Cofiwch hefyd eu bod yn cynnwys yr holl filiau am fynediad i’r rhyngrwyd, gwres, trydan a dŵr.
- Byddwch yn cyfarfod â phobl newydd, yn gwneud ffrindiau newydd ac yn teimlo yn rhan o gymuned!
Am fwy o fanylion ar neuaddau preswyl, ac i wybod sut i wneud cais am ystafell, ewch i’n gwefan Llety.
Aelodaeth o'r gampfa a Campws Byw yn gynwysedig
Mae myfyrwyr sy'n byw yn ein neuaddau preswyl yn derbyn aelodaeth o'r gampfa a Campws Byw fel rhan o bris y neuadd.
Ble mae’r neuaddau?
Mae pob neuadd breswyl o fewn pellter cerdded i adeiladau’r Brifysgol a chanol y ddinas – mae ein neuaddau mor hwylys ni fydd angen i chi wario eich arian ar drafnidiaeth na phetrol i deithio i’ch darlithoedd.
Ein gwefan Llety
Ewch i’n gwefan Llety am fwy o fanylion...