
Diploma Lefel 7 mewn Rheolaeth Strategol ac Rheoli ac Arwain
I Uwch Reolwyr, Uwch Swyddogion a Pherchnogion Busnes
Cynigir Arweinyddiaeth a Rheolaeth yn y Ganolfan Reolaeth, sydd wedi'i hachredu gan CMI, trwy ddull modiwlaidd. Mae hyn yn golygu y gallwch chi ymuno ar unrhyw adeg yn y siwrnai a chwblhau dysgu ar eich cyflymder eich hun. Mae pob modiwl yn brofiad dysgu hunangynhwysol ynddo'i hun.
Trwy gwblhau aseiniad cais byr am eich dysgu, fe allech chi gwblhau eich modiwl cyntaf, a thrwy hynny ennill Gwobr. Byddai modiwl arall ar ben hyn yn rhoi’r opsiwn ichi droi eich dysgu yn Dystysgrif CMI a, thrwy gymryd 4 modiwl arall ar ben hyn dros y 6-12 mis nesaf gallwch gerdded i ffwrdd gyda’r Diploma mawreddog.
Ffioedd
Cysylltwch gyda'r Tim Hyfforddi am fwy o wybodaeth am ffioedd a rhaglenni
Ffynonellau Cyllid
Opsiynau cylliad ar gael drwy SEE (Sgiliau i Gyflogwyr a Gweithwyr) ar gyfer y cwrs yma. Cysylltwch gyda ni am ragor o wybodaeth training@themanagementcentre.co.uk
Dyddiadau i ddod
Cyfeirnod yr Uned |
Disgrifiad yr Uned |
CMI Trosolwg yr Uned |
---|---|---|
607 | Caffael, Pwrcasu a Chytundebu | Mae'r gallu i gaffael, pwrcasu a chontractio nwyddau, gwasanaethau ac eitemau cyfalaf yn effeithiol o'r pwysigrwydd pennaf os yw sefydliad i lwyddo. Ar gyfer y rheolwr a'r arweinydd proffesiynol mae'r wybodaeth a'r ddealltwriaeth hon yn amhrisiadwy. Mae ganddo'r pŵer i wella'r broses gwneud penderfyniadau, cynllunio strategol a gweithredol a chyflawni canlyniadau yn effeithiol o fewn cyfyngiadau cyllidebol. |
701 | Arweinyddiaeth Strategol | Nod yr uned ydy arfogi arweinwyr gyda dealltwriaeth mewn dyfnder o arweinyddiaeth strategol o fewn cyd-destun sefydliadol. Bydd arweinwyr yn archwilio cymhlethdodau'r rôl a phersbectifau theori, dulliau ymddygiad a sgiliau a all ychwanegu at eu hymarfer proffesiynol. Mae’r uned hon yn canolbwyntio ar allu'r arweinydd i ymateb yn greadigol i heriau sefydliadol cymhleth a deall sut i osod a chyflawni nodau strategol cynaliadwy. |
703 | Cydweithredu a Phartneriaethau |
Nod yr uned yw i arweinwyr i ddeall trefniadau cydweithredol a phartneriaeth. Bydd arweinwyr yn asesu yn feirniadol cwmpas a gwerth y rhain, yn ogystal â gwerthuso effaith fframweithiau sefydliadol a chyfreithiol ar sut mae'r trefniadau hyn yn cael eu darparu. Mae'r uned yn gorffen gyda'r gofyniad i'r arweinydd gyflwyno rhesymwaith ar gyfer cydweithredu neu bartneriaethau i hyrwyddo llwyddiant sefydliad. |
705 |
Arwain Newid Strategol | Nod yr uned yw i arweinwyr i ddeall cwmpas, cyd-destun a chymhlethdod arwain newid strategol. Bydd arweinwyr yn deall sut y gellir defnyddio cymhwyso technegau dadansoddol, theorïau a modelau newid, a datrys problemau creadigol i arwain newid strategol gyda hyder. Mae'r uned yn gorffen gyda rhoi cyfle i arweinwyr ddatblygu cynnig i arwain newid strategol. |
712 (a) | Prosiect Rheoli Strategol | Nod yr uned ydy arfogi arweinwyr i ymgymryd gyda phrosiect rheoli strategol o'u dewis eu hun. I gyflawni'r canlyniadau hyn bydd arweinwyr yn datblygu achos busnes, yn cynnig cynllun ymchwil fel sail ar gyfer cyfeiriad y prosiect. Bydd Rhan (A) yn canolbwyntio ar ddatblygu'r achos busnes a'r ymchwil sydd ei angen |
712 (b) | Prosiect Rheoli Strategol | Nod yr uned ydy arfogi arweinwyr i ymgymryd gyda phrosiect rheoli strategol o'u dewis eu hun. I gyflawni'r canlyniadau hyn bydd arweinwyr yn datblygu achos busnes, yn cynnig cynllun ymchwil. Rhan (B) yn canolbwyntio ar argymell dulliau ac offer rheoli prosiect i strwythuro cyflwyniad y prosiect. Bydd arweinwyr yn adrodd ar ganlyniadau prosiect ac yn myfyrio ar y sgiliau a'r ymddygiad sydd yn y pen draw yn dylanwadu ar lwyddiant y prosiect rheoli strategol.Rhoddir ystyriaeth hefyd i arferion entrepreneuraidd ac arloesol. |
Beth nesaf?
I archebu lle ar unrhyw un o'r cyrsiau uched e-bostiwch training@themanagementcentre.co.uk os gwelwch yn dda, neu rhowch alwad ar 01248 365 981 i ni.