Newyddion: Hydref 2019

Gŵyl yn arddangos ffilmiau byrion newydd

Bydd gŵyl ffilmiau mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor yn cynnal prynhawn yn arddangos ffilmiau byrion Ewropeaidd newydd gan wneuthurwyr ffilmiau ifanc.

Bydd y dangosiadau gan Ŵyl Ffilm Wicked Wales a British Film Institute Future Shorts yn cael eu cynnal ym Mhontio ddydd Mercher nesaf 23ain, 1 pm-5pm.

Bydd y dangosiadau yn cynnwys ffilmiau byrion rhyngwladol gan gynnwys rhaglenni dogfen, ffuglen ac animeiddio. Mae'r digwyddiad yn agored i fyfyrwyr a'r cyhoedd ac mae tocynnau am ddim ar gael yma.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Hydref 2019

Athro o Fangor yn cael ei benodi’n Ddarpar Lywydd Cymdeithas Gorfforedig y Cerddorion

Mae'r Athro Chris Collins, Pennaeth Ysgol Cerddoriaeth a'r Cyfryngau Prifysgol Bangor, wedi'i ethol yn Ddarpar Lywydd Cymdeithas Gorfforedig y Cerddorion.  Bydd yn gweithredu fel aelod o driawd arlywyddol y Gymdeithas tan fis Ebrill 2020, pan fydd yn camu i rôl yr Arlywydd.

Mae'r Athro Collins yn dilyn yn ôl troed cerddor blaenllaw arall a Phennaeth Ysgol. Bu'r cyfansoddwr, yr Athro William Mathias yn yr un rôl ym 1989-90.

Dyddiad cyhoeddi: 10 Hydref 2019

Myfyrwraig greadigol yn rhyddhau record elusennol

Mae Aly Shields, sy'n ofalwraig ac yn fyfyrwraig hŷn o Landudno, wedi rhyddhau record er budd PANS PANDAS UK, elusen sy'n codi ymwybyddiaeth am gyflyrau anghyffredin sy'n aml yn arwain at gamddiagnosis i'r bobl dan sylw, ac sy'n cefnogi'r bobl hynny a'u teuluoedd.

Mae'r gân Warriors gan Aly ar gael ar iTunes a Google Play am $1.29 neu oddeutu £1 o dan label PANS PANDAS UK.

Dyddiad cyhoeddi: 9 Hydref 2019