Holl Newyddion A–Y

2001 yn dod i Fangor

Bydd y Ganolfan Astudiaethau Ffilm, Teledu a Sgrin ym Mhrifysgol Bangor yn dathlu hanner canfed pen blwydd y ffilm chwedlonol, 2001: A Space Odyssey yn Pontio ddydd Sadwrn, 16 Mehefin 2018.  

“Mae 2001: Beyond 50” yn ddiwrnod o sgyrsiau, cerddoriaeth a chelf sy'n dathlu'r ffilm sy'n cynnwys amrywiaeth eang o arbenigwyr a phobl a weithiodd ar y ffilm.

Dyddiad cyhoeddi: 3 Mai 2018

Ad industry may gripe about adblockers, but they broke the contract – not us

Dyma erthygl yn Saesneg gan Andrew McStay o’r Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r 

Dyddiad cyhoeddi: 29 Medi 2015

Agoriad yr Arddangosfa ar Fywyd yr Iddewon – Gyda Derbyniad Cosher

Mae Goleufa Cymru wedi dyfarnu £19,000 i Dr Nathan Abrams o Ysgol Astudiaethau Creadigol Prifysgol Bangor a Dr Sally Baker o’r Ysgol Gwyddorau Cymdeithas, gan gydweithredu ag Esther Roberts o Amgueddfa ac Oriel Gwynedd, i gynnal arddangosfa deithiol ar fywyd yr Iddewon yng Ngogledd Cymru. Trwy’r arddangosfa hon, caiff pobl leol gyfle i ddysgu am hanes yr Iddewon yng Ngogledd Cymru. Mae Iddewon yn byw yng Ngogledd Cymru ers o leiaf ganrif a hanner, ac wedi chwarae rhan bwysig yn ei hanes. Er enghraifft, roedd Isidore Wartski yn faer ar Fangor, ac ef oedd y maer Iddewig cyntaf yng Nghymru.  Cynhelir yr arddangosfa mewn cyfuniad o leoliadau o fewn Prifysgolion ac adeiladau cyhoeddus ar draws Gogledd Cymru. Cynhelir hefyd gyfres o weithdai yn y Brifysgol, ac mewn lleoliadau ac ysgolion yn y cylch.
Mae Sally and Nathan wedi derbyn gwahoddiad gan Yr Adran Astudaiethau Crefyddol, Coleg Menai Bangor, i gyflwno eu hymchwil yn benodol i fyfyrwyr Lefel ‘A’ sydd ar hyn o bryd yn astudio Iddewiaeth ac hefyd i aelodau staff y Coleg.

Dyddiad cyhoeddi: 6 Hydref 2010

Ailgreu'r profiad o addoli yn y cyfnod canoloesol

Mae project sy’n ymchwilio profiad Canoloesol o addoli yn cael sylw mewn stori nodwedd ar safle we’r Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau. Yr Athro John Harper a Dr Sally Harper o Ysgol Cerddoriaeth y Brifysgol sy’n arwain project: ‘Y profiad o addoli mewn eglwys gadeiriol ac eglwys blwyf ganoloesol ddiweddar.’

Dyddiad cyhoeddi: 3 Ionawr 2013

Allwn ni stopio newyddion ffug yn y 10 mlynedd nesaf?

Mae Vian Bakir (Athro Cyfathrebu Gwleidyddol a Newyddiaduraeth yn Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau Prifysgol Bangor) yn besimistaidd, ond mae'n ein hannog i beidio â rhoi'r ffidil yn y to. Ar y llaw arall mae Andrew McStay (Athro mewn Bywyd Digidol ym Mhrifysgol Bangor) yn fwy gobeithiol.

Wrth siarad yn ddiweddar yn y gynhadledd CommsCymru ar ymddiriedaeth, rhoddodd Bakir olwg ar y gwahanol atebion i ddatrys newyddion ffug a gafwyd yn y 79 cyflwyniad a wnaed i ymchwiliad presennol llywodraeth y Deyrnas Unedig i newyddion ffug.  (Ysgrifennwyd yr arolwg hwn o atebion a gynigiwyd ar y cyd gydag Andrew McStay.)

Dyddiad cyhoeddi: 30 Hydref 2017

Arbenigwyr yn dod ynghyd i drafod y cyfryngau a hawliau dynol

Wrth i gyfreithwyr ac ymgyrchwyr hawliau dynol gadw golwg ar feysydd brwydr yn y Dwyrain Canol, bydd cynhadledd ym Mhrifysgol Bangor yn mynd i'r afael â llawer o'r materion sy'n codi yn sgil gwrthdaro o'r fath ar draws y byd.

Mae cynhadledd flynyddol Grŵp y Cyfryngau a Gwleidyddiaeth y Gymdeithas Astudiaethau Gwleidyddol ar y Cyfryngau, Perswâd a Hawliau Dynol yn cael ei chynnal ar Dachwedd 10 ac 11.


Dyddiad cyhoeddi: 10 Hydref 2014

Archesgob Caergrawnt yn anrhydeddu Athro o Fangor

Mae Archesgob Caergrawnt, Dr Rowan Williams, wedi cyhoeddi bod yr Athro John Harper, athro ymchwil mewn cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor, wedi ennill gradd Doethur mewn Cerddoriaeth. Mae’r Archesgob yn ysgrifennu bod y cymhwyster yn cydnabod cyfraniad clodwiw’r Athro Harper at ddatblygiad cerddoriaeth eglwysig a’i gwerthfawrogiad fel ysgolhaig, gweinyddwr, addysgwr a chyfansoddwr, ac at well dealltwriaeth o’r berthynas rhwng cerddoriaeth a litwrgi’r eglwys.

Dyddiad cyhoeddi: 9 Tachwedd 2010

Arloesi amlddisgyblaethol mewn twristiaeth antur ym Mhrifysgol Bangor yn dod â llesiant i ogledd Cymru.

Mae Menter trwy Ddylunio yn dychwelyd yn 2018 gyda'r seithfed gystadleuaeth flynyddol, ac mae'r tîm buddugol newydd ennill siec am £2,500. Mae'r her yn dod â myfyrwyr o feysydd Seicoleg, Peirianneg Electronig a Chyfrifiadureg, Busnes, Dylunio Cynnyrch ac Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau at ei gilydd i weithio mewn timau amlddisgyblaethol. Eu nod yw creu cynnyrch neu wasanaeth ar gyfer busnesau lleol dros gyfnod o 8 wythnos.

Dyddiad cyhoeddi: 23 Mawrth 2018

Arthurian Place Names in Wales: Lansio Llyfr

Dyddiad cyhoeddi: 16 Mai 2017

Arweinydd côr a chanwr talentog o Fôn yn graddio

Wedi tair blynedd o siwrnai gynhyrfus ac ar ôl teimlo allan o’i gynefin at y dechrau, graddio’n hyderus ym Mhrifysgol Bangor yr wythnos hon wnaeth myfyriwr dawnus a anwyd ym Môn. Enillodd y cyn-ddisgybl o Ysgol Syr Thomas Jones, Kiefer Jones, 22, o  Amlwch, radd BMus ddosbarth cyntaf mewn Cerddoriaeth

Dyddiad cyhoeddi: 15 Gorffennaf 2015

Ar Werth: Twr Sgaffald SGB Youngman Dau Lefel

The School of Creative Studies & Media have a SGB Youngman two stage scaffolding tower for sale, it is very good condition but sold as seen.

Dyddiad cyhoeddi: 3 Mehefin 2013

Athro o Brifysgol Bangor yn darganfod sgript ffilm ‘golledig’ Kubrick

Mae'r Athro Nathan Abrams o Brifysgol Bangor, sy’n arbenigwr ar Stanley Kubrick, wedi ailddarganfod sgript ffilm a luniwyd gan y cyfarwyddwr yn 1956 ac y credid oedd wedi mynd ar goll.

Ei theitl oedd Burning Secret, sef addasiad o nofel fer o’r un enw a gyhoeddwyd yn 1913 gan Stefan Zweig, y nofelydd o Fienna.

 

Dyddiad cyhoeddi: 16 Gorffennaf 2018

Athro yn ymuno â bwrdd adolygwyr cyfnodolyn rhyngwladol blaenllaw

Mae Athro ym Mhrifysgol Bangor wedi cael ei gwahodd i ymuno â Bwrdd Adolygwyr cyfnodolyn o fri byd-eang.

Mae'r Athro Astrid Ensslin yn Athro Diwylliant Digidol a Chyfathrebu yn yr Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau.

Dyddiad cyhoeddi: 8 Rhagfyr 2014

Bangor a Pontio: Llwyddiant Byd-eang Bloomsday

Yn gynharach yr wythnos hon, fel rhan o ddigwyddiad rhyngwladol Global Bloomsday, cydweithiodd Pontio ag Ysgol Saesneg ac Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Bangor i gynhyrchu perfformiad rhyfeddol o'r bennod 'Sirens' allan o'r nofel Ulysses gan yr awdur o Iwerddon, James Joyce.

Dyddiad cyhoeddi: 20 Mehefin 2013

Bangor i gynnal noson wobrwyo cystadleuaeth ffuglen ddigidol 'boblogaidd' gyntaf y DU

Bydd y gystadleuaeth gyntaf yn y DU i ddarganfod yr enghreifftiau gorau o ffuglen ddigidol boblogaidd newydd yn gwobrwyo ei henillwyr nos Iau, 25 Mai ym Mhrifysgol Bangor.

Dyddiad cyhoeddi: 15 Mai 2017

Bangor yn cynnal yr ail gystadleuaeth flynyddol ar ysgrifennu ffuglen ddigidol 'boblogaidd'

Bydd y gystadleuaeth gyntaf yn y DU i ddarganfod yr enghreifftiau gorau o ffuglen ddigidol boblogaidd newydd yn cael ei chynnal am yr eildro trwy bartneriaeth â Phrifysgol Bangor a'r cyhoeddwr lleol Wonderbox.

Mae'r Gystadleuaeth Ymestyn Ysgrifennu Ffuglen Ddigidol, a gynhelir gan Brifysgol Bangor a Wonderbox Publishing, yn cael ei hariannu gan Wobr Cyflymu Effaith yr ESRC ym Mangor. Gwahoddir ceisiadau gan bobl o bob rhan o'r byd mewn dwy iaith - Cymraeg neu Saesneg i wonderboxpublishing.com

Dyddiad cyhoeddi: 21 Tachwedd 2017

Bangor yn yr 20 uchaf ym Mhrydain am safon Profiad Myfyrwyr yno

Dyddiad cyhoeddi: 10 Mehefin 2014

Beyond Borders

Mewn cydweithrediad â Gogledd Creadigol, mae’r Ysgol Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau, Prifysgol Bangor yn cynnal digwyddiad rhwydweithio yn Pontio ar Ionawr 19eg o'r enw Tu Hwnt i’r Ffiniau.

Dyddiad cyhoeddi: 12 Ionawr 2018

'Blas o brosesau cyfoes y cyfarwyddwr theatr byd enwog o'r Almaen, Thomas Ostermeier'

Ar ôl cyfnod byr yng Nghaeredin yn ystod Awst eleni (2016) cafwyd 12 o gyfarwyddwyr theatr ledled Prydain ei ddewis i gymryd rhan mewn ymchwil gyda'r cyfarwyddwr byd enwog o'r Almaen, Thomas Ostermeier, Cyfarwyddwr Artistig y Theatr Schaubühne ym Merlin.

Dyddiad cyhoeddi: 4 Tachwedd 2016

Brasil ym Mangor

Bydd sylw pawb wedi ei hoelio ar Frasil eleni yn ystod cystadleuaeth Cwpan y Byd, ond ymddengys nad pêl-droed yw'r unig beth sy'n ennyn diddordeb pobl yn y wlad. Mae cerddoriaeth a dawns o Frasil wedi dod yn fwyfwy poblogaidd yn y degawdau diwethaf, ac mae academydd o Fangor yn gwneud ymchwil i'r 'ffasiwn' am gerddoriaeth a dawns 'Affro-Frasilaidd'.

Dyddiad cyhoeddi: 28 Mai 2014

Brexit and Britpop: Europeans have stronger cultural links to the UK thanks to English language music

Dyma erthygl yn Saesneg gan Jochen Eisentraut o’r Ysgol Cerddoriaeth sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol

Dyddiad cyhoeddi: 13 Mehefin 2016

Cadair Bersonol i Ddarlithydd

Mae'r Ysgol Astudiaethau Creadigol a Cyfryngau yn falch o gyhoeddi Cadair Bersonol i Astrid Ensslin. Llongyfarchiadau mawr i Astrid gan bawb yn yr Ysgol.

Dyddiad cyhoeddi: 8 Ionawr 2013

Can environmental documentaries make waves?

Dyma erthygl yn Saesneg gan Michela Cortese o’r Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 5 Mai 2017

Can Kiefer Sutherland be US president, please?

Dyma erthygl yn Saesneg gan Gregory Frame  o’r Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 24 Hydref 2016

CD myfyriwr yn ddewis CD Roc a Phop yr wythnos yn The Sunday Times

Mae myfyriwr trydedd flwyddyn ym Mhrifysgol Bangor wedi dechrau’r flwyddyn ar nodyn uchel- gan fod CD newydd ei fand Y Niwl o’r un enw, wedi derbyn y clod o’i ddethol yn CD yr wythnos gan bapur newydd y Sunday Times yn eu hatodiad diwylliant.

Dyddiad cyhoeddi: 13 Awst 2012

CD myfyriwr yn ddewis CD Roc a Phop yr wythnos yn The Sunday Times

Mae myfyriwr trydedd flwyddyn ym Mhrifysgol Bangor wedi dechrau’r flwyddyn ar nodyn uchel- gan fod CD newydd ei fand Y Niwl o’r un enw, wedi derbyn y clod o’i ddethol yn CD yr wythnos gan bapur newydd y Sunday Times yn eu hatodiad diwylliant.

Dyddiad cyhoeddi: 6 Ionawr 2011

Cerddoriaeth ffermydd gwynt

Bydd y ffermydd gwynt ar y môr ger Llandudno yn ysbrydoli ac yn darparu’r sain i gyfansoddiad cerddorol ar gyfer Gŵyl LLAWN Llandudno gan Ed Wright, sy’n ddarlithydd cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor ac yn gyfansoddwr ac artist sonig. Bydd yn perfformio  fel y ‘Labordy Tonnau Sonig’ gyda Charles Gersholm.

Dyddiad cyhoeddi: 9 Medi 2015

Cerddoriaeth yn mynd â hi yn Seremoni’r Gwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr

Enillodd staff yr Ysgol Cerddoriaeth anferth o bleidlais o hyder gan eu myfyrwyr yn seremoni’r Gwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr eleni, a gynhaliwyd mewn cinio arbennig yn Neuadd Prichard-Jones ar 24 Ebrill, a mwy na 200 o bobl yn bresennol. Y myfyrwyr eu hunain sy’n enwebu ar gyfer y gwobrau hyn, a phwyllgor arbennig o blith y myfyrwyr, dan oruchwyliaeth Undeb y Myfyrwyr, yn dewis yr enillwyr. Eleni, cafodd staff yr Ysgol Cerddoriaeth dair gwobr a phum enwebiad – mwy na’r un Ysgol arall yn y Brifysgol.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Mehefin 2013

Cerddorion yn paratoi i losgi piano!

Bydd aelodau o Ysgol Cerdd Prifysgol Bangor yn ymuno gydag Annea Lockwood, artist sain o Seland Newydd / UDA  mewn perfformiad o 'Piano Burning’ yn Hen Iard Nwyddau Treborth, Bangor. Cynhelir y digwyddiad ddydd Sadwrn 29 Mehefin am 6.15pm, a bydd yn rhan o lansiad tymor newydd Dinas Sain Bangor.

Dyddiad cyhoeddi: 25 Mehefin 2013

Chris Coleman i’w anrhydeddu gan Brifysgol Bangor

Uchafbwyntiau Wythnos Seremonïau Graddio Prifysgol Bangor 17-21 Gorffennaf

Bydd Chris Coleman, Rheolwr Tîm Pêl-droed Cenedlaethol Cymru yn ymuno â myfyrwyr sy’n graddio o Ysgol Fusnes Prifysgol Bangor wrth iddo dderbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd gan y Brifysgol, gan nodi llwyddiant y tîm cenedlaethol wrth gyrraedd rowndiau cyn-derfynol cystadleuaeth Ewro 2016 yn dilyn ymgyrch hanesyddol fythgofiadwy.

Dyddiad cyhoeddi: 17 Gorffennaf 2017

Click here for art

Dyma erthygl yn Saesneg ganLyle Skains  o’r Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 28 Ionawr 2016

Cofrestrwch rwan! Corau a Cherddorfeydd 2012-13

Sut i gofrestru am y Corws, Cerddorfa Symffoni, Côr Siambr a mwy.

Dyddiad cyhoeddi: 13 Awst 2012

Cofrestrwch rwan! Corau a Cherddorfeydd 2013-14

Corws Prifysgol Bangor

Mae Corws y Brifysgol yn gôr cymysg mawr o fyfyrwyr a staff o bob rhan o’r Brifysgol, a hefyd yn cynnwys cantorion o’r gymuned leol. Yn nhymor 2013-14, byddwn yn perfformio cyngerdd tymhorol yn Rhagfyr, ac ymuno â Cherddorfa Symffoni’r Brifysgol yn Ebrill i berfformio Offeren Nelson Haydn a Hymnus Paradisi Herbert Howells.

Dyddiad cyhoeddi: 2 Medi 2013

‘Coroni’r Wythnos’

Daeth llwyddiant ysgubol i ran yr opera Wythnos yng Nghymru Fydd (Gareth Glyn a Mererid Hopwood) a chynhyrchiad arbennig OPRA Cymru ohoni yn seremoni Gwobrau Theatr Cymru (2018) a gynhaliwyd yng Nghasnewydd  yn ddiweddar ( 27.1.18). Yn dilyn taith lwyddiannus led led y wlad ym mis Tachwedd y llynedd a chydnabyddiaeth ragorol drwy gyfrwng theatrau llawn ac adolygiadau clodwiw yn y wasg, dyfarnwyd gwobr ‘Y Cynhyrchiad Gorau yn yr iaith Gymraeg’ (2018) i’r cwmni fu mor ddyfal a chydwybodol yn sicrhau fod y fenter arloesol hon yn cyrraedd cynulleidfaoedd y genedl.

Dyddiad cyhoeddi: 2 Chwefror 2018

‘Cwffio achos’ y Celfyddydau

Mae gwaith Sioned Young yn dalcen caled ond yn un sy’n dod â “phleser mawr” iddi hefyd. Mae’r ferch o Benygroes, Dyffryn Nantlle, ynghanol interniaeth deng mis gyda chwmni Celfyddydau a Busnes Cymru yng Nghanolfan y Celfyddydau ac Arloesi Pontio, ym Mhrifysgol Bangor, yn chwilio am ffyrdd newydd o godi arian i’r celfyddydau.

Dyddiad cyhoeddi: 17 Ionawr 2018

Cyfansoddiad o bwys yn ymddangos ar CD

Mae darn cerddorfaol o bwys a gyfansoddwyd gan Guto Pryderi Puw wedi'i gynnwys ar CD diweddaraf y fiolinydd enwog Madeleine Mitchell.

Caiff Guto ei gydnabod yn un o gyfansoddwyr mwyaf blaenllaw Cymru ac mae'n Bennaeth Cyfansoddi ac yn Uwch Ddarlithydd yn Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Bangor. Cafodd ei gomisiynu gan Madeleine Mitchell i ysgrifennu concerto i'w berfformio am y tro cyntaf yng Ngŵyl Gerddoriaeth Bangor yn 2014. Ysbrydolwyd y gwaith, Violin Concerto - Soft Stillness, gan ddyfyniadau o ddrama Shakespeare The Merchant of Venice i nodi 450 mlynedd ers geni'r dramodydd.  

Dyddiad cyhoeddi: 23 Hydref 2017

Cyfansoddiad sy’n ymdrin â dyslecsia’n cael sylw ar Radio 4

Bydd gwaith cerdd a fideo newydd a ysgogwyd gan ddyslecsia, a'r wyddoniaeth y tu ôl i’r cyflwr yn derbyn sylw ar raglen ‘All in the Mind Radio 4, sy’n ymchwilio’r rhwystredigaethau a’r potensial o fewn ein hymennydd. Bydd y rhaglen yn cael ei ddarlledu nos Fawrth 18 Rhagfyr am 9.00 yn ac eto am 3.30 brynhawn Mercher 19 Rhagfyr. Bydd hefyd ar gael ar lein wedi’r darllediad gyntaf.

Dyddiad cyhoeddi: 14 Rhagfyr 2012

Cyfansoddwr o Fangor yng nghanol ffrae am gorachod gardd...

Mae un o gomisiynau diweddaraf Dr Owain Llwyd - trefnu cerddoriaeth hysbyseb teledu i'r cwmni dodrefn o Sweden, IKEA - wedi bod yn destun nifer fawr o gwynion gan y Gymdeithas Ryngwladol er Atal Creulondeb i Gorachod Gardd. Mae Dr Llwyd wedi'n sicrhau na niweidiwyd unrhyw gorrach wrth gynhyrchu'r fideo.

Dyddiad cyhoeddi: 9 Gorffennaf 2013

Cyfansoddwr o staff yr Ysgol Gerddoriaeth yn derbyn perfformiad cyntaf o ddarn wedi ei ysbrydoli gan Dylan Thomas gan Gerddorfa Siambr yr Undeb Ewropeaidd

Mae nifer o gyfansoddwyr wedi nodi can mlynedd geni bardd enwocaf Cymru, Dylan Thomas, drwy gyfansoddi darn newydd er cof amdano, ond bu man cychwyn Pwyll ap Siôn ychydig yn anarferol.

Dyddiad cyhoeddi: 22 Hydref 2014

Cyfarwyddwr yn dathlu llwyddiant drama

Mae un o ddarlithwyr theatr Ysgol Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau ym Mhrifysgol Bangor yn dathlu taith lwyddiannus o amgylch Cymru gyda drama newydd boblogaidd.

Dyddiad cyhoeddi: 7 Mehefin 2016

Cyfres o berfformiadau gwych yng Ngŵyl Gerdd Bangor

Fe fydd un o brif wyliau cerddol Cymru, Gwyl Gerdd Bangor yn agor eleni ar Fawrth 1af gyda chyngerdd arbennig gan Gôr Glanaethwy, sêr y gyfres deledu ‘Britain’s Got Talent.’ Ac am y tro cyntaf erioed, bydd cantorion y  ‘Swingles’ yn serennu mewn cyngerdd unigryw.

Dyddiad cyhoeddi: 22 Chwefror 2016

Cyfres Radio i Goffhau'r Marw o Irac ac Affganistan

Yn sgil ymchwil i ohebu rhyfel gan ddarlithydd o Fangor, mae cyfres ffeithiol yn cael ei darlledu ar BBC Radio Wales y mis yma.

Dyddiad cyhoeddi: 10 Tachwedd 2011

Cyhoeddi Swyddi Darlithio Cyntaf y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Yn dilyn sefydlu’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ym mis Mawrth eleni, mae Prifysgol Bangor wedi cyhoeddi dau benodiad allweddol yn yr Ysgol Cerddoriaeth o dan nawdd cynllun staffio academaidd y Coleg. Y rhain yw’r penodiadau cyntaf a noddwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Bydd y darlithwyr newydd yn cychwyn ym mis Medi 2011 am gyfnod o 5 mlynedd.

Dyddiad cyhoeddi: 13 Awst 2012

Cyn bo hir bydd oriorau clyfar yn gwrando ar eich corf i weithio allan sut yr ydych yn teimlo

 

Dyma erthygl yn Saesneg gan Andrew McStay, o'r Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 10 Mawrth 2015

Cyn-fyfyriwr yn ennill gwobr ‘newyddiadurwr y flwyddyn’

Mae cyn-fyfyriwr yn yr Ysgol Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau wedi ennill gwobr newyddiaduraeth fawreddog.

Fe enillodd Noellin Imoh, a raddiodd o Brifysgol Bangor yn 2010, y wobr BEFFTA am ei gwaith yn golygu cylchgrawn African Dazzle.

Dyddiad cyhoeddi: 4 Tachwedd 2013

Cynhadledd - Boddi Mewn Celfyddyd

Wedi blynyddoedd o ddymchwel a phrotestio, yn 1965, daeth y dŵr i foddi Cwm Celyn, gan foddi diwylliant, hanes bro a thraddodiad yn ei sgil.

Ond esgorodd dicter a thor calon y genedl nid yn unig ar ddeffroad gwleidyddol, ond hefyd deffroad celfyddydol wrth i genhedlaeth o Gymry ganfod dull o fynegi eu dirmyg trwy gerddoriaeth, barddoniaeth, drama a chelf.

Dyddiad cyhoeddi: 29 Ebrill 2015

Cynhadledd ym Mangor yn trafod heriau’r cyfryngau

Fe fydd cadeirydd awdurdod S4C, Huw Jones, yn trafod yr heriau sy’n wynebu’r sianel mewn araith yng nghynhadledd Cyfrwng ym Mhrifysgol Bangor ar 24-25 Gorffenaf.

Dyddiad cyhoeddi: 22 Gorffennaf 2014

Cynhyrchydd Ffilmiau Preswyl

Dyddiad cyhoeddi: 8 Ionawr 2013

Darlithoedd difyr ym Methesda

O zombies y Mabinogi i’r Gymraeg ar Facebook; o faes seicoleg plant i lên Cymry Llundain ac o sinema’r Eidal i ddyfnderoedd y Titanic, bydd rhai o darlithwyr mwyaf dawnus Prifysgol Bangor yn ymweld â Neuadd Ogwen, Bethesda, yn ystod y chwech wythnos nesaf i drafod ystod eang o bynciau.

Dyddiad cyhoeddi: 28 Hydref 2014

Darlithydd ym Mangor yn cyfeilio ar ymgyrch hysbysebu Cwpan y Byd McDonald’s

Gellir clywed darlithydd cyfansoddi ym Mhrifysgol Bangor yn canu’r piano ar ymgyrch hysbysebu Cwpan y Byd McDonald’s ar y we, ac mae wedi cael ei wylio dros bum miliwn o  weithiau ar YouTube yn barod.

 

Dyddiad cyhoeddi: 7 Gorffennaf 2014

Darlithydd yn ennill comisiwn

Mae Jo Wright wedi ennill comisiwn i wneud fideo newydd ar gyfer gŵyl Blinc i'r celfyddydau digidol, yng Nghonwy : http://blincdigital.com/

Dyddiad cyhoeddi: 6 Awst 2012

Darlithydd yn lansio cyfnodolyn Dwyrain Asia newydd

Mae uwch ddarlithydd mewn diwylliant gweledol ym Mhrifysgol Bangor yn dathlu cyhoeddi cyfnodolyn newydd.

Dyddiad cyhoeddi: 28 Tachwedd 2014

Darlithydd yn mynd i'r afael â 'diffyg democrataidd' Cymru

Mae darlithydd o Brifysgol Bangor wedi cael ei benodi'n aelod o dasglu a sefydlwyd er mwyn edrych ar ffyrdd o gau'r 'diffyg democrataidd' yng Nghymru.

Dyddiad cyhoeddi: 9 Ionawr 2017

Datblygu'r rhwydwaith ymchwil: Cyfryngau, Darbwyllo a Chyfathrebu (CDC) symposiwm

Datblygu'r rhwydwaith ymchwil:
Cyfryngau, Darbwyllo a Chyfathrebu (CDC) symposiwm

Dyddiad cyhoeddi: 13 Chwefror 2013

Dathliad creadigol o Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched

Bydd Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Bangor a Gŵyl Gerdd Bangor yn cyfrannu at ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched ar 8 Mawrth trwy ddarlledu cyngerdd o gerddoriaeth gerddorfaol gan bum cyfansoddwraig o Gymru ar BBC Radio 3.

Mared Emlyn o Eglwysbach yn Nyffryn Conwy yw un o’r cyfansoddwyr, a gwblhaodd ei PhD mewn Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor ddwy flynedd yn ôl. Daeth ysbrydolaeth ei darn newydd, Porthor, o’r traeth o’r un enw ym Mhenrhyn Llŷn, sy’n enwog am y sŵn arbennig a grëir drwy gerdded ar y tywod; o hyn daw ei enw Saesneg, ‘Whistling Sands’.

Dyddiad cyhoeddi: 7 Mawrth 2016

Dathlu Gwaith Merched mewn Cerddoriaeth

Bydd dau gyngerdd clasurol yng Nghanolfan Pontio Prifysgol Bangor yn uchafbwynt i'r Gynhadledd Ryngwladol Gyntaf ar Waith Merched mewn Cerddoriaeth (4 – 7 Medi) sy'n dathlu cyraeddiadau cerddorion benywaidd. Amserwyd y Gynhadledd i gyd-daro â chofio 40 mlynedd ers marwolaeth y gyfansoddwraig Grace Williams (1906-77), un o gyfansoddwyr proffesiynol cyntaf Cymreig yr ugeinfed ganrif i ennill cydnabyddiaeth ryngwladol.

Bydd y ddau gyngerdd ar ddydd Llun 4 Medi yn Neuadd Powis am 5.45pm a nos Fercher 6 Medi yn Theatr Bryn Terfel Pontio am 7.30pm yn cynnwys cerddoriaeth Grace Williams, yn ogystal â pherfformiadau cyntaf o ddarnau gan y cyfansoddwyr blaenllaw o Brydain, Nicola LeFanu ac Eleanor Alberga.

Dyddiad cyhoeddi: 21 Awst 2017

Dathlu rhagoriaeth ymysg myfyrwyr y flwyddyn gyntaf

Mae rhai o fyfyrwyr disgleiriaf y flwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Bangor wedi derbyn ysgoloriaeth am eu llwyddiant academaidd yn eu Lefel A.

Mae Ysgoloriaethau Rhagoriaeth Prifysgol Bangor yn cael eu dyfarnu i'r myfyrwyr newydd sydd â'r cyrhaeddiad academaidd uchaf yn eu pynciau penodol.

Dyddiad cyhoeddi: 27 Tachwedd 2014

David Evans (1943-2013)

Bu farw Dr David Evans, cyn Uwch Ddarlithydd mewn Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor, yn 69 oed. Yn gyfaill da i bawb, fe'i cofir gydag anwyldeb gan ei gydweithwyr a channoedd o gyn-fyfyrwyr.

Dyddiad cyhoeddi: 10 Ebrill 2013

Dechrau gyrfa gyda’r BBC yn gwireddu breuddwyd Jack

Mae un o raddedigion Prifysgol Bangor sydd wedi ennill lle ar gynllun hyfforddiant cynhyrchu'r BBC yn ei ddisgrifio fel y ‘dechrau perffaith i’w yrfa’.

Dyddiad cyhoeddi: 17 Tachwedd 2010

Dethol myfyrwyr mentergarwch i gynrychioli’r Brifysgol yng Nghystadleuaeth Prifysgolion Santander

Bu myfyrwyr yn cystadlu yn erbyn ei gilydd i gynrychioli’r Brifysgol yng Nghystadleuaeth Entrepreneuriaeth Prifysgolion Santander.

Wedi iddynt gyflwyno’u syniadau busnes neu eu cwmnïau newydd i banel beirniaid ac ymateb i holi manwl ganddynt,  bydd y myfyrwyr llwyddiannus yn awr yn cael eu hystyried ar gyfer rhestr fer i ennill y gwobrau drwy Brydain. Cynigir gwobrau o hyd at £15,000, mentora a chefnogaeth i gwmni cychwynnol.

Dyddiad cyhoeddi: 3 Mai 2016

Diwrnod Agored yn Amgueddfa Hanes Natur Brambell, Prifysgol Bangor hefo sesiynnau tynnu llun galw i mewn

Bydd Casgliadau Hanes Natur y Brifysgol ar agor i’r cyhoedd ar Ddydd Sadwrn 14 o Fai rhwng 11yb i 3yp.

Dyddiad cyhoeddi: 4 Mai 2016

Dod â bwrlwm Bangor i Brifwyl y Bae

Unwaith eto eleni, bydd staff Prifysgol Bangor yn cyfrannu â’u harbenigeddau at nifer o weithgareddau craidd ac ymylol yn yr Eisteddfod Genedlaethol, sy’n cael ei chynnal yn ardal Caerdydd rhwng 3 - 11 Awst.

Dyddiad cyhoeddi: 3 Awst 2018

Dotio at Dot!

Mae fideo cerddoriaeth gan fyfyriwr ym Mhrifysgol Bangor yn prysur ddod i sylw’r byd; wrth ysgrifennu’r datganiad hwn mae dros 43,953 o bobl wedi gwylio 'Everybody Dances to Techno' gan Dot ar YouTube, ac mae'r sylwadau a'r negeseuon o gefnogaeth yn dod o bob cwr o'r byd.

Dyddiad cyhoeddi: 13 Mehefin 2017

Drama myfyriwr yn derbyn croeso ar ei thaith

Myfyriwr yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor sy’n gyfrifol am ysgrifennu drama sydd ar daith o amgylch Cymru ar hyn o bryd, ac yn denu adolygiadau ac ymateb ffafriol tu hwnt.

Disgrifir Llŷr Titus fel ‘un o ddramodwyr mwyaf cyffrous Cymru’, ac mae ei ddrama diweddaraf, ‘Drych’, yn gynhyrchiad Cwmni’r Frân Wen o dan gyfarwyddiaeth Ffion Haf, hithau’n ddarlithydd Theatr a Pherfformio yn Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau’r Brifysgol yn ogystal â bod yn Gyfarwyddwr Cyswllt Cwmni'r Fran Wen.

Dyddiad cyhoeddi: 6 Hydref 2015

Dr Xenia Pestova yn recordio 3 CD

Cwblhaodd Dr Xenia Pestova recordio ei thrydedd CD ar John Cage: darnau ar gyfer dwy biano yn Lwcsembwrg ym Mehefin. Bydd y tair disg yn cael eu rhyddhau ar label bwysig Naxos Records label.

Dyddiad cyhoeddi: 1 Gorffennaf 2013

Dyddiad cyflwyno papurau wedi ei ymestyn hyd Mai 31ain

Mae'r dyddiad cyflwyno papurau wedi ei ymestyn hyd Mai 31ain ar gyfer Cyfieithu Diwylliannol a Dwyrain Asia: Ffilm, Llenyddiaeth a Chelf. Mwy o wybodaeth yma: https://sites.google.com/site/culturaltranslationbangorwales/

Dyddiad cyhoeddi: 28 Mai 2012

Dyddiaduron yn Archifau’r Brifysgol yn ysbrydoli sioe

Mae Cwmni Pendraw yn dod a’i sioe llwyddiannus Mr Bulkeley o’r Brynddu i Ganolfan Celfyddydau ac Arloesi Pontio nos Fawrth 26 Ebrill. 


Dyddiad cyhoeddi: 9 Ebrill 2016

Dyfarnu Aur i Fangor

Mae safon Aur wedi ei dyfarnu i Brifysgol Bangor yn Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu (TEF) Llywodraeth y Deyrnas Unedig, a hi yw’r unig brifysgol yng Nghymru i gyrraedd y safon hon.

Mae’r fframwaith yn asesu prifysgolion yn erbyn amrediad o feini prawf ac mae’n rhan o  gynlluniau Llywodraeth y DU i godi safonau mewn addysg uwch. Mae hefyd yn rhoi mwy o wybodaeth i fyfyrwyr sydd yn penderfynu pa brifysgol i fynd iddi, fel y gallant wneud penderfyniadau gwybodus.

Dyddiad cyhoeddi: 22 Mehefin 2017

Dyfarnu grant Partneriaeth Ryngwladol a Symudedd yr Academi Brydeinig i'r Dr Jochen Eisentrau

Mae'r Dr Jochen Eisentraut, darlithydd rhan-amser mewn Cerddoriaeth, wedi derbyn grant Partneriaeth Ryngwladol a Symudedd yr Academi Brydeinig ar gyfer taith cyfnewid addysgu, ac ymchwilio ar y cyd, gyda'r Universidade Federal da Bahia, Brasil.

Dyddiad cyhoeddi: 23 Awst 2013

Dyfarnu Medal Cwmni’r Brethynwyr i fyfyrwraig o Fangor

Medal Cwmni’r Brethynwyr (Efydd): Mae Un o Chwe Medal i’w Dyfarnu Erioed yn mynd at Elina Hamilton, Ysgol Cerddoriaeth, Prifysgol Bangor.

Dyddiad cyhoeddi: 5 Medi 2012

Dyfarnu Ysgoloriaethau Chwaraeon i Athletwyr elit Bangor

Bob blwyddyn, bydd Prifysgol Bangor yn cefnogi myfyrwyr sydd yn ddawnus mewn chwaraeon trwy gynnig nifer o Ysgoloriaethau Chwaraeon i fyfyrwyr sy'n astudio ar gyfer gradd mewn unrhyw bwnc.

Dyddiad cyhoeddi: 9 Rhagfyr 2016

“Dyma be ‘di bywyd ym Mangor!”

Mae myfyriwr Astudiaethau Ffilm o Fangor wedi derbyn anrheg Nadolig cynnar, wedi iddo ennill Camera HD GoPro mewn cystadleuaeth fideo a oedd yn cael ei gynnal gan adran Cysylltiadau Corfforaethol a Marchnata'r Brifysgol.

Dyddiad cyhoeddi: 20 Rhagfyr 2012

Efrydiaeth Ddoethurol AHRC mewn Cerddoriaeth

Mae’n bleser gan yr Ysgol Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor gynnig Efrydiaeth dan nawdd AHRC ar gyfer astudiaeth PhD mewn cerddoriaeth, yn cychwyn ym Medi 2013. Mae’r efrydiaeth yn cynnwys ffioedd Cartref/UE yn ogystal â grant cynnal di-dreth ar gyfradd gyfredol Cynghorau Ymchwil y DU, sef £13,590).

Dyddiad cyhoeddi: 4 Ebrill 2013

Efrydiaeth MA Prifysgol Bangor

Dyddiad cyhoeddi: 16 Awst 2014

Ei gerddoriaeth yn creu awyrgylch ‘epig’ ar y sgrin

Rhaglen llawn drama a chynnwrf fel yr X Factor oedd yn nychymyg y cyfansoddwr  Owain Llwyd, wrth gyfansoddi cerddoriaeth epig ar gyfer y cyfryngau- ac roedd yn llygaid ei le i wneud hyn, gan fod y rhaglen wedi dewis a defnyddio’i gerddoriaeth.

Dyddiad cyhoeddi: 8 Tachwedd 2010

Eisteddfod Genedlaethol- Gweithgareddau Dydd Mercher: Hanes, Aduniad a Cherddoriaeth

Y Brifysgol Ddoe a Heddiw; Aduniad; Cerddoriaeth: Trydedd Iaith ein Cenedl?

Dyddiad cyhoeddi: 2 Awst 2013

Entrepreneuriaid Santander Bangor

Bydd Carley Williams, myfyrwraig sy’n astudio Dylunio Cynnyrch, gyda statws Athro cymwysedig yn cynrychioli Prifysgol Bangor yn rownd y DU gwobrau Entrepreneuriaeth Santander, wedi iddi ennill cystadleuaeth yn y Brifysgol. Yn ymuno a hi hefyd fydd Hernan Diazgranados, myfyriwr ôl-radd, yng nghystadleuaeth y DU yn ddiweddarach eleni.

Dyddiad cyhoeddi: 19 Mawrth 2015

Enwau'n datgelu diwylliant dringo'r 20fed ganrif yng Ngogledd Cymru

Yn ôl ymchwil newydd a gyflwynwyd i gynhadledd ryngwladol y Royal Geographical Society (gydag IBG) yn Llundain gall enw dringfa ddatgelu llawer iawn am yr adeg pryd y cafodd ei dringo gyntaf.

Dyddiad cyhoeddi: 28 Awst 2014

Enwebiad Ffresh i fyfyriwr

Mae “Not” sydd wedi ei gyfarwyddo gan John Evans wedi cael ei enwebu am y Ffilm Ffuglen Orau a’r Ffilm Iaith Gymraeg orau yng Ngwobrau Ffresh 2013.

Dyddiad cyhoeddi: 17 Ionawr 2013

Enwebu Prifysgol Bangor am dair wobr yn dilyn cydweithio â busnesau

Mae Prifysgol Bangor wedi ei henwebu ar gyfer tair gwobr yng ngwobrau Business and Education Awards y cwmni cyhoeddi Wales Business Insider a gynhelir yng Nghaerdydd ar 3 Tachwedd. Nod y gwobrau hyn yw tynnu sylw at y cydweithio llwyddiannus sy’n digwydd rhwng sefydliadau addysg Cymru ac economi’r wlad.

Dyddiad cyhoeddi: 31 Hydref 2016

Ffilm ddogfen un o raddedigion Bangor yn derbyn enwebiad ar gyfer gwobr gan y Royal Television Society

Mae un o raddedigion diweddar rhaglen MA Prifysgol Bangor ym maes cynhyrchu ffilm wedi derbyn enwebiad am ei gwaith gan y Royal Televison Society, a hynny yn dilyn cyfnod ffwythlon yn arddangos ei ffilm mewn gwyliau cenedlaethol a rhyngwladol. Mae Charlotte Wells, o Fanceinion, wedi derbyn yr enwebiad ar gyfer y wobr uchel ei pharch am ei ffilm ddogfen fer, ‘Cabbie’, sy’n dilyn ei llys-dad wrth iddo yrru ei dacsi un gyda’r nos. Mae’r cynhyrchiad yn rhannu cyswllt pellach â Bangor, a hynny gan mai un arall o raddedigion diweddar y Brifysgol, Chiron Farrimond o’r Ysgol Gerddoriaeth, sydd wedi llunio’r gerddoriaeth sydd i'w chlywed yn y ffilm.

Dyddiad cyhoeddi: 22 Mai 2018

Ffilm gan fyfyriwr yn cael ei derbyn i Arddangosfa Gelf Weledol 'Lle Celf' yr Eisteddfod

Bydd Jenni Steele o Ddeganwy, sy’n fyfyrwraig ym Mhrifysgol Bangor, yn cael arddangos ffilm fer yn Y Lle Celf, sef yr Arddangosfa Gelf Weledol uchel ei pharch yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Ninbych (6-13 Awst).

Dyddiad cyhoeddi: 2 Awst 2013

Ffilm gan fyfyrwyr Prifysgol Bangor wedi ei henwebu am Wobr Teledu Myfyrwyr RTS

Mae ffilm fer a grëwyd gan gyn-fyfyriwr a myfyriwr presennol yn yr Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau ym Mhrifysgol Bangor wedi cael ei henwebu am Wobr Teledu Myfyrwyr 2014 y Gymdeithas Deledu Frenhinol yn y categori Drama Ôl-raddedig.

Dyddiad cyhoeddi: 12 Mai 2015

Ffilmiau Myfyriwr yn Helpu Milwyr yn America

Cafodd cyfres o ffilmiau byr am fywyd gwyllt gan fyfyriwr o'r ail  flwyddyn, Osian Williams, eu defnyddio i helpu milwyr mewn ysbyty yn America.

Dyddiad cyhoeddi: 14 Tachwedd 2011

Ffilm MA am awyr-filwr yn ennill gwobr

Mae ffilm gan gyn-fyfyriwr a gafodd radd MA ym Mhrifysgol Bangor wedi ennill y wobr am y ffilm orau mewn gŵyl ffilmiau yng Nghaerdydd.

Dyddiad cyhoeddi: 10 Mehefin 2014

Ffilm o Brifysgol Bangor ar restr fer Gwobrwyon RTS Television Awards

Pob lwc i Andy Pritchard, sydd wedi graddio o Ysgol Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau! Heddiw (18.3.16) bydd Andy o’r Groeslon yn cael gwybod os yw ei ffilm sydd ar y rhestr fer Snowdonia: open all yearyn llwyddo yn rownd Cymru RTS Student Television Awards.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Mawrth 2016

Ffrydio – yr ateb i'r cwymp yng ngwerthiant cerddoriaeth Gymraeg

Yn ôl ymchwil a wnaed  ar y cyd yn yr Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau ac Ysgol Busnes Bangor, ffrydio yw'r ateb os yw cwmnïau recordiau'n mynd i atal a gwrthdroi'r gostyngiad a welir yng ngwerthiant cerddoriaeth Gymraeg.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Awst 2014

Fideo feiral gan fyfyrwyr o Fangor

Cael shafio’u pennau ar gyfer achos da oedd y sbardun i ddau fyfyriwr Cerddoriaeth o Brifysgol Bangor greu fideo cerddoriaeth sydd bellach yn feiral ar y rhyngrwyd.

Erbyn hyn, mae fideo ‘The Changing Man’ gan Colonel Dax wedi ei wylio dros 160,000 o weithiau ar YouTube, ac wedi ennyn ymatebion a chefnogaeth gan bobl o bellafoedd Awstralia, America, Sbaen a nifer o wledydd eraill.

Dyddiad cyhoeddi: 8 Chwefror 2017

First Class achievement for Hannah

Hannah Mundy, 22, from Leek, Staffordshire, is graduating from Bangor University with a first class degree in English Language and Creative Studies this week.

Dyddiad cyhoeddi: 12 Gorffennaf 2013

From avatars to apps: why we still love to go down the rabbit hole with Alice

Dyma erthygl yn Saesneg gan Lyle Skains o’r Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 7 Gorffennaf 2015

Fy Ffrind Dylan Thomas

Mae’r Ysgol Cerddoriaeth mewn cydweithrediad â Pontio, yn falch o gyflwyno My Friend Dylan Thomas, gŵyl sy’n dathlu ymateb cerddorol i waith un o awduron amlycaf Cymru

Dyddiad cyhoeddi: 24 Hydref 2014

Galwad am Bapurau - Adopting the Cultural Other: Western Participatory Borrowings

Mae gennym ddiddordeb mewn papurau sy'n adrodd am ymchwil neu'n damcaniaethu am ymchwil i ffenomenau o'r fath o feysydd cerddoriaeth, dawns, iaith, crefydd, celf a ffurfiau diwylliannol eraill. Bydd y gynhadledd yn un amlddisgyblaethol a chroesawir cyfraniadau o feysydd ethnogerddoleg, anthropoleg, cymdeithaseg, daearyddiaeth ddiwylliannol a disgyblaethau eraill.
Saesneg fydd iaith y gynhadledd.

Dyddiad cyhoeddi: 22 Hydref 2013

Golygathon cyntaf erioed ar Gerddoriaeth i’w gynnal yn Adran Gerdd Prifysgol Bangor

Fe fydd y ‘Golygathon’ cyntaf o’i fath erioed ym maes Cerddoriaeth yn cael ei gynnal yn Adran Gerdd Prifysgol Bangor ddydd Gwener, 24 Chwefror, 2017.

Dyddiad cyhoeddi: 23 Chwefror 2017

Graddedigion Bangor yn mynd i'r Fringe

Bydd pedwar o raddedigion Prifysgol Bangor yn mynd â sioe sgets wreiddiol i ŵyl gomedi'r "fringe" yng Nghaeredin eleni!

Dyddiad cyhoeddi: 31 Gorffennaf 2013

Grant hael i adfer pianos

Derbyniodd yr Ysgol Cerddoriaeth grant hael o £26,000 gan Bangor Alumni / Grŵp Rhoddion Prifysgol Bangor tuag at adfer pianos. 

Dyddiad cyhoeddi: 18 Ebrill 2013

Grant o Bwys gan AHRC wedi’i ddyfarnu i PRoMS – ‘Cynhyrchu a Darllen Ffynonellau Cerddoriaeth / The Production and Reading of Music Sources, 1480-1530’

Bydd llawysgrifau cerddoriaeth ac argraffiadau o ‘Oes Aur’ polyffoni yn dod o dan y chwyddwydr mewn project ymchwil tair-blynedd.

Dyddiad cyhoeddi: 13 Awst 2012

Gwaith myfyriwr Bangor i ymddangos yng Ngwyl BEAM

Mae gŵyl sy’n hyrwyddo technoleg greadigol o fewn Cerddoriaeth yn cynnwys arddangosfa o waith cyn fyfyriwr Prifysgol Bangor.

Dyddiad cyhoeddi: 15 Mehefin 2011

Gweithgareddau Eisteddfod Dydd Gwener - Diwrnod o Farddoniaeth, Cerddoriaeth a Ffilm

Diwrnod o Farddoniaeth, Cerddoriaeth a Ffilm

Dyddiad cyhoeddi: 2 Awst 2013

Gweithgareddau Eisteddfod Dydd Iau - Ychwaneg o gerddoriaeth ar Stondin Prifysgol Bangor ar Faes yr Eisteddfod

Ysgol Cerddoriaeth  Prifysgol Bangor sy’n trefnu’r arlwy ar gyfer dydd Iau pob blwyddyn ar ‘stondin’ Prifysgol Bangor ar faes yr Eisteddfod.  Eleni eto mae diwrnod llawn o weithgareddau at ddant pawb.

Dyddiad cyhoeddi: 2 Awst 2013

Gwobrau Dysgu Dan Arweiniad Myfyrwyr 2015

Cynhaliwyd y seremoni flynyddol yn dyfarnu Gwobrau Addysgu Dan Arweiniad Myfyrwyr ynghyd â gwobrwyo Cynrychiolwyr Cwrs am y bedwaredd tro yn ddiweddar.

Dyddiad cyhoeddi: 21 Mai 2015

Gwobrau Rhagoriaeth Ymchwil Prifysgol Bangor 2016

Mae Prifysgol Bangor am ddathlu rhagoriaeth yr ymchwil a gynhyrchir gan y Brifysgol mewn noson Wobrwyo newydd i’w chynnal yn y Brifysgol fis Rhagfyr, a newydd gyhoeddi’r rhestr fer ar gyfer y Gwobrau.

Bydd y Gwobrau newydd yn rhoi sylw haeddiannol i ymchwilwyr unigol a thimau ymchwil neilltuol y Brifysgol.

Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi yn ystod Noson Wobrwyo sydd i’w chynnal yn Pontio, nos Lun Rhagfyr 5 2016.

Dyddiad cyhoeddi: 26 Hydref 2016

Gwobr Syr Geraint Evans yn cydnabod cyfraniad darlithydd a chyfansoddwr

Cyflwynwyd Gwobr Syr Geraint Evans 2013 Cymdeithas Cerddoriaeth Cymru i Dr Guto Pryderi Puw, o Brifysgol Bangor, i gydnabod ei gyfraniad i gerddoriaeth yng Nghymru, fel cyfansoddwr, darlithydd a Chyfarwyddwr Artistig Gŵyl Gerdd Newydd Bangor yn ddiweddar (30 Tachwedd 2014) yng Nghlwb Caerdydd a’r Sir.

Dyddiad cyhoeddi: 3 Rhagfyr 2014

Gwyl Ffilm Myfyrwyr Prydain

Mae project ar y cyd rhwng israddedigion ac ol-raddedigion yn yr Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau wedi ei ddewis ar gyfer yr Ŵyl Ffilm Myfyrwyr Prydain ac yn cael ei darlledu yn Llundain, Bryste, Newcastle a Lerpwl yn ystod mis Ebrill. Llongyfarchiadau i'r tîm cynhyrchu ar y ffilm "31st May"

Dyddiad cyhoeddi: 27 Ebrill 2012

Gŵyl INTER/actions ar gyfer Cerddoriaeth Electronig Ryngweithiol yn ennill grant o fri, ‘Beyond Borders’, gan Sefydliad Cerddoriaeth y Gymdeithas Hawliau Perfformio

Mae Gŵyl INTER/actions, wedi’i lleoli ym Mhrifysgol Bangor, wedi cael ei dewis ar gyfer cynllun ‘Beyond Borders’ y Gymdeithas Hawliau Perfformio.  Mae'r ŵyl wedi derbyn £12,000 o grant i gomisiynu darn newydd ar raddfa fawr gan y cyfansoddwr o fri o Ogledd Iwerddon, Ed Bennett, i’w berfformio gan Dr Xenia Pestova o’r Ysgol Cerddoriaeth.

Dyddiad cyhoeddi: 26 Medi 2014

Gŵyl INTER/actions yr Ysgol Cerddoriaeth yn ennill grant sylweddol gan sefydliad New Music Biennial y PRS

Dewiswyd yr INTER/actions Festival of Interactive Electronic Music gan y Sefydliad PRS New Music Biennial i gomisiynu gwaith newydd gan Arlene Sierra. Dyfarnwyd £20,000 i’r Ŵyl.

Dyddiad cyhoeddi: 29 Ebrill 2013

Gŵyl R.S. Thomas, Aberdaron a Bangor

Mae gŵyl flynyddol sydd yn dathlu gwaith y bardd, R.S. Thomas a’i wraig, yr artist Mildred ‘Elsi’ Eldridge, i’w chynnal yn ei blwyf olaf, Aberdaron, ym mhen-draw penrhyn Llŷn, ar Fehefin 29 - 1 Gorffennaf.

Mae’r Athro Tony Brown, cyd-gyfarwyddwr Canolfan Ymchwil R.S. Thomas Prifysgol Bangor wedi bod yn ymwneud â’r ŵyl ers sawl blwyddyn.

Dyddiad cyhoeddi: 11 Mehefin 2018

Haf o berfformiadau byd-eang

Bydd darlithydd o Brifysgol Bangor wrthi’n brysur yn perfformio ym mhedwar ban byd yr haf hwn. Bydd Dr Ed Wright, sy’n dysgu cyfansoddi a thechnoleg cerddoriaeth yn yr Ysgol Cerddoriaeth, yn perfformio ei gyfansoddiadau electroacwstig ei hun mewn amryw o leoliadau.

Dyddiad cyhoeddi: 20 Mehefin 2012

Hanner canrif ers Sgt Pepper ac ymweliad y Beatles â Bangor

Mae’n hanner canrif ers i Sgt Pepper ddysgu ei fand i chwarae, gyda rhyddhad albwm, Sgt Pepper’s Lonely Hearts Club Band; sydd yn aml wedi ei ddisgrifio fel yr ‘albwm cysyniadol’ o bwys cyntaf, ac a ystyrir yn gyffredinol fel un a dorrodd gŵys newydd. Gellir dadlau iddo hefyd cael ei ystyried yn un o’r ‘adegau’ yna a newidiodd ffurf newydd ar gelfyddyd (ac efallai a esgorodd ar hynny).  

Mae hefyd yn hanner canrif (25-27 Awst 1967) ers i’r Beatles ymweld â Bangor, ymweliad a brofodd i fod yn drobwynt yn hanes y grŵp.

Dyddiad cyhoeddi: 16 Awst 2017

Happy 100th birthday, Mr President: how JFK's image and legacy have endured

Dyma erthygl yn Saesneg gan Gregory Frame o’r Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 26 Mai 2017

Hatric i Fangor yn yr Eisteddfod Ryng-golegol 2018

Yn dilyn penwythnos o gystadlu, Prifysgol Bangor ddaeth i'r brig yn Eisteddfod Ryng-golegol 2018, camp am y drydedd flwyddyn yn olynol.

Dyddiad cyhoeddi: 12 Mawrth 2018

Hear this: it's no longer enough to just look at paintings

Dyma erthygl yn Saesneg gan Andrew Lewis, Athro Cerddoriaeth yn yr Ysgol Cerddoriaeth sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol. 

Dyddiad cyhoeddi: 9 Gorffennaf 2015

Iddewiaeth a'r Holocost yn Full Metal Jacket Stanley Kubrick

Mae’r Athro Nathan Abrams o’r Ysgol Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau wedi derbyn gwahoddiad i draddodi darlith ar ffilm Stanley Kubrick, Full Metal Jacket, yn JW3: Jewish Community Centre London fory (Ionawr 18).

Dyddiad cyhoeddi: 17 Ionawr 2017

Independence Day: what alien invasions tell us about current global politics

Dyma erthygl yn Saesneg gan Gregory Frame o'r Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 27 Mehefin 2016

Independent music labels are creating their own streaming services to give artists a fair deal

Dyma erthygl yn Saesneg gan Steffan THomas o’r Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Awst 2017

INTER/actions: Symposiwm ar Gerddoriaeth Electronig Ryngweithiol

Mae INTER/actions yn symposiwm a gwyl fach yn canolbwyntio ar berfformio a rhyngweithio ym maes cerddoriaeth electronig.

Dyddiad cyhoeddi: 10 Hydref 2013

'Jack to a King' yn cael y carped coch ym Mangor

Bydd ffilm am ddyrchafiad rhyfeddol clwb pêl-droed Cymreig i uchelfannau'r Uwch Gynghrair yn cael ei dangos am y tro cyntaf yng Ngogledd Cymru'r wythnos yma ym Mangor.

Dyddiad cyhoeddi: 13 Hydref 2014

Kafka is the real ghost of Kubrick’s The Shining

Dyma erthygl yn Saesneg gan Yr Athro Nathan Abrams, Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 28 Mai 2015

Lansio Canolfan Astudiaethau Arthuraidd Bangor

Bydd Prifysgol Bangor yn dechrau'r flwyddyn newydd gyda lansiad Canolfan Astudiaethau Arthuraidd newydd ddydd Gwener, 20 Ionawr, wrth i Gymru ddechrau dathlu Blwyddyn Chwedloniaeth. Trwy gydol 2017 cynhelir digwyddiadau mewn safleoedd hanesyddol ar hyd a lled Cymru i ddathlu diwylliant a threftadaeth gyfoethog y wlad. 

Dyddiad cyhoeddi: 11 Ionawr 2017

Lansio cystadleuaeth ysgrifennu ffuglen ddigidol 'boblogaidd' gyntaf y Deyrnas Unedig

Mae’r gystadleuaeth gyntaf yn y DU i chwilio am yr enghreifftiau gorau o ffuglen ddigidol boblogaidd wedi ei lansio gan brifysgolion Bangor a Sheffield Hallam.

Dyddiad cyhoeddi: 26 Awst 2016

Llwyddiant Americanaidd arall i Osian

Mae ‘Fy chwaer a fi’ yn ffilm ddogfen a grëwyd yn sgil y gyfres deledu Beautiful Lives am hosbis blant Tŷ Hafan. Mae’r ffilm gan yr efeilliaid Catherine a Kirstie Fields, 18, o Lanelli sy'n dioddef o salwch unigryw sydd wedi' eu gwneud yn fud ac yn gaeth i gadeiriau olwyn. Ar ôl blynyddoedd heb lais, daeth dyfodiad peiriannau siarad electroneg a chyfle i'r merched siarad am eu bywydau a rhannu eu hofnau a'u gobeithion gyda'r byd.

Dyddiad cyhoeddi: 12 Ebrill 2013

Llwyddiant cerddorol ‘Bodedern’

Yng nghymanfa ganu Eisteddfod Genedlaethol Cymru ym Modedern eleni, daeth llwyddiant i ran un o gyn-ymchwilwyr yr Ysgol Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor.

Dyfarnwyd y wobr gyntaf am gyfansoddi emyn-dôn i’r Dr Godfrey Wyn Williams o Bontcysyllte ger Llangollen, cyn-fyfyriwr doethurol o’r Ysgol Cerddoriaeth, Prifysgol Bangor. Brodor o Bentre Broughton, ger Brymbo ydyw, yn un o saith o blant a dreuliodd flynyddoedd lawer yn mireinio’i grefft fel cyfansoddwr tonau cynulleidfaol. Yn dilyn llwyddiant yn Eisteddfodau Llandefgan, Llanrwst, Bancffosfelen, Mynytho, Y Tymbl Treuddyn a Llanbedr Pont Steffan daeth ei osodiad hyfryd o eiriau’r Prifardd Cen Williams, cyn-gyfarwyddwr Canolfan Bedwyr y Brifysgol, i’r brig yn ystod y gwasanaeth a ddarlledwyd nos Sul, Awst 6ed eleni. Enw’r dôn oedd ‘Bodedern’ a’r gobaith yw y caiff ei mabwysiadu’n ddiymdroi gan gynulleidfaoedd led led Cymru.

Dyddiad cyhoeddi: 7 Awst 2017

Llwyddiant cerddorol i Cara

Mae merch o Gricieth yn dathlu ar ôl llwyddo i orffen ei gradd yn ogystal â datblygu ar ei gyrfa gerddorol.

Cafodd y fyfyrwraig Astudiaethau Cyfryngau, Cara Braia, 22, flas ar fyd cerddoriaeth  wedi iddi ennill cystadleuaeth ar-lein am ail ddehongli cân glasurol grŵp poblogaidd o’r 60au The Kinks. O ganlyniad, mae hi wedi cydweithio gyda gwahanol artistiaid a chynhyrchwyr o bob cwr o'r byd. Mae Cara newydd ddychwelyd yn ôl o LA ble aeth  i hyrwyddo ei gyrfa.

Dyddiad cyhoeddi: 9 Gorffennaf 2014

Llwyddiant cerddorol i fyfyrwraig Astudiaethau Creadigol

Taith i Los Angeles ac ymddangosiadau mewn amryw o wyliau ar y gweill ar gyfer cantores/cyfansoddwraig ifanc, sydd eisoes wedi denu nifer fawr o ddilynwyr ar-lein.

Mae Myfyrwraig Astudiaethau Cyfryngau Prifysgol Bangor, Cara Braia , 21 , o Griccieth wedi ennill cystadleuaeth ar-lein am ail ddehongli cân glasurol grŵp poblogaidd o’r 60au The Kinks. O ganlyniad, mae hi wedi mynd i gydweithio gyda gwahanol artistiaid a chynhyrchwyr o bob cwr o'r byd, ac yn fuan bydd yn hedfan i ffwrdd i LA i hyrwyddo ei gyrfa.

Dyddiad cyhoeddi: 27 Mawrth 2014

Llwyddiant Cyfryngau a Newyddiaduraeth Prifysgol Bangor yn yr Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr yn parhau

Unwaith eto mae Ysgol Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau Prifysgol Bangor wedi cael canlyniadau gwych yn Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr (NSS) 2016 a gyhoeddwyd heddiw.   

Dyddiad cyhoeddi: 12 Awst 2016

Llwyddiant i broject darlithydd

Mae project a sefydlwyd gan wneuthurwr ffilmiau Joanna Wright darlithydd yn yr Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau, mewn partneriaeth ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ac Ysgol Bro Hedd Wyn yn Nhrawsfynydd, wedi ennill gwobr ym Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig.

Dyddiad cyhoeddi: 23 Gorffennaf 2012

Llwyddiant i ddoniau Ensemble Cymru

Mae wedi bod yn wythnos nodedig ar gyfer un o sêr ifainc Ensemble Cymru, Collette Astley-Jones cyn myfyrwraig Prifysgol Bangor, wrth iddi ddathlu cael swydd newydd!

Mae Collette yn aelod o deulu Ensemble Cymru a wnaeth waith eithriadol, yn fwyaf diweddar fel rheolwr cerddorfaol ar gyfer taith genedlaethol Pedr a’r Blaidd. A hithau ond newydd orffen ei gradd Meistr mewn Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor fis Hydref diwethaf, nid yw wedi cymryd llawer o amser i ddawn Collette gael ei hadnabod o fewn y diwydiant, am iddi gael ei phenodi’n ddiweddar gan Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol Lerpwl yn Cynorthwy-ydd Cynllunio Artistig ac Ensemble.

Dyddiad cyhoeddi: 29 Ebrill 2014

Llwyddiant myfyriwr mewn gwobrau ffilm

Mae gwaith y fyfyrwraig PhD Jenni Steele, "1.1 miles of daffodils" wedi ei ddewis ar gyfer gwobrau Hansel of Film 2012.  Mae'r adolygwr ffilm Mark Kermode yn trafod arwyddocâd y gwobrau mewn erthygl yn y Guardian.

 

Dyddiad cyhoeddi: 18 Mehefin 2012

Llyfr arloesol sy'n edrych ar gemau fideo llenyddol

Mae llyfr diweddaraf Yr Athro Astrid Ensslin o'r Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau, Literary Gaming, newydd gael ei gyhoeddi gan MIT Press.  

Dyddiad cyhoeddi: 2 Mai 2014

Llyfr newydd gan Andrew McStay

Andrew McStay, SCSM lecturer, has a new book out with Routledge titled "Creativity and Advertising: Affect, Events and Process”.

Dyddiad cyhoeddi: 22 Ebrill 2013

Llyfr newydd gan Dr Pwyll ap Siôn wedi ei chyhoeddi

Mae cyfrol The Collected Writings of Michael Nyman a olygwyd gan Dr Pwyll ad Siôn (Uwch-Ddarlithydd mewn Cerddoriaeth) wedi cael ei chyhoeddi gan Ashgate Press.

Dyddiad cyhoeddi: 16 Awst 2013

Llyfr newydd yn mynd i’r afael â phreifatrwydd ar-lein

Mewn byd lle mae’r Asiantaeth Ddiogelwch Genedlaethol (NSA) a Facebook yn goruchafu, ni fu erioed fater mor bwysig â hwn i lywodraethau a dinasyddion fel ei gilydd.

Mae llyfr amserol newydd gan Dr. Andrew McStay o Brifysgol Bangor yn mynd i’r afael â rhai o’r cwestiynau mwyaf yn y maes.

Dyddiad cyhoeddi: 9 Gorffennaf 2014

Llyfr newydd yn mynd i’r afael â phreifatrwydd ar-lein

Mewn byd lle mae’r Asiantaeth Ddiogelwch Genedlaethol (NSA) a Facebook yn goruchafu, ni fu erioed fater mor bwysig â hwn i lywodraethau a dinasyddion fel ei gilydd.

Mae llyfr amserol newydd gan Dr. Andrew McStay o Brifysgol Bangor yn mynd i’r afael â rhai o’r cwestiynau mwyaf yn y maes.

Dyddiad cyhoeddi: 10 Mehefin 2014

Llyfrwerthwyr Cymru yn troi at rwydweithio cymdeithasol

Bydd ymchwil newydd yn Ysgol Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau Prifysgol Bangor yn ceisio annog llyfrwerthwyr o Gymru i wneud gwell defnydd o rwydweithio cymdeithasol.

Mae Dr. Eben Muse, Dirpwry Bennaeth yr ysgol, wedi derbyn grant gan y Rhaglen Cyd-ddealltwriaeth Strategol i gydweithio â Chyngor Llyfrau Cymru dros y misoedd nesaf.

Dyddiad cyhoeddi: 16 Ionawr 2014

Louis yn dathlu ei 'radd dosbarth cyntaf!

Louis Rhys Waters, 21, from Pencoed, Bridgend, is graduating from Bangor University with a first class degree in Journalism and Media Studies this week.

Dyddiad cyhoeddi: 12 Gorffennaf 2013

Mad Moses: beneath Max’s desert rampage is a classic Jewish odyssey

Dyma erthygl yn Saesneg gan Yr Athro Nathan Abrams, Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol

Dyddiad cyhoeddi: 29 Mai 2015

Mae darlithydd o Brifysgol Bangor yn rhyddhau dau CD

Mae Dr Xenia Pestova, o’r Ysgol Cerddoriaeth, yn rhyddhau dau CD ym mis Hydref a mis Tachwedd. Bydd “John Cage: works for two keyboards, volume 1” ar gael ar Naxos Records a “Shadow Piano”, ei halbwm unawdol cyntaf, i’w ryddhau ar Innova Records.

Dyddiad cyhoeddi: 10 Hydref 2013

Mae myfyriwr ôl-radd ym Mhrifysgol Bangor wedi cael ei enwebu am wobr yng Ngŵyl Ffilmiau Bae Caerfyrddin.

Mae Lester Hughes, o Bwllheli, sy'n fyfyriwr hŷn ac yn dad i ddau o blant, newydd ddechrau astudio am ddoethuriaeth mewn ffilm. Mae ei ffilm fer 12 munud, "Waves, Taid & Time", wedi cael ei henwebu am wobr yn y categori arbrofol.  Cyhoeddir enwau’r enillwyr yn ystod yr ŵyl yn Llanelli rhwng 8 a 9 Ebrill.

Dyddiad cyhoeddi: 21 Mawrth 2013

Mae myfyrwyr bodlon i’w cael ym Mhrifysgol Bangor

Mae Prifysgol Bangor yn parhau i gynyddu ei phoblogrwydd ymysg myfyrwyr. Mae’r Brifysgol wedi llwyddo i aros yn safle 14 ym Mhrydain, ac mae’r Brifysgol yn ail yng Nghymru mewn arolwg newydd ar brofiad myfyrwyr (Times Higher Education Student Experience Survey 2015).

Dyddiad cyhoeddi: 17 Mawrth 2016

Mae myfyrwyr Menter trwy Ddylunio Bangor yn dangos eu sgiliau entrepreneuriaeth a’u cynnyrch arloesol yn ‘Ffau’r Ddraig’

Mae deugain o fyfyrwyr Prifysgol Bangor wedi cymryd rhan mewn cystadleuaeth i ennill hyd at £10,000 o wobrau ariannol er mwyn datblygu eu cynnyrch arloesol eu hunain yn barod i'r farchnad.

Heriwyd myfyrwyr 'Menter trwy Ddylunio’ i ddylunio nwydd o’r syniad gwreiddiol i’r prototeip ac i roi cyflwyniad yn hyrwyddo’r cynnyrch i banel o feirniaid.

Dyddiad cyhoeddi: 29 Mawrth 2012

Mae rhaglen ddogfen gan fyfyrwyr wedi ei rhoi ar restr fer categori ffeithiol gwobrau Ffresh, Gŵyl Ddelwedd Symudol Myfyrwyr Cymru.

Mae rhaglen ddogfen gan fyfyrwyr ail flwyddyn yn Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau wedi ei rhoi ar restr fer categori ffeithiol gwobrau Ffresh, Gŵyl Ddelwedd Symudol Myfyrwyr Cymru.

Dyddiad cyhoeddi: 11 Ionawr 2012

Merch o Borthmadog yn graddio

Ar ôl tair blynedd o waith caled, bydd myfyrwraig o Brifysgol Bangor yn derbyn gradd dosbarth cyntaf yr wythnos hon.

Dyddiad cyhoeddi: 10 Gorffennaf 2014

Merch o Lŷn yn graddio

Fe wnaeth profiad gwaith arwain at swydd i  fyfyrwraig sy’n graddio ym Mhrifysgol Bangor yr wythnos hon.

Dyddiad cyhoeddi: 12 Gorffennaf 2013

"Modern Maritime Battlefield Archaeology: Case Studies from the Battle of Jutland and the U-boat Wars".

Dyddiad cyhoeddi: 15 Chwefror 2017

Mwy o lwyddiant i'r Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau

Enillodd y ffilm ‘Not’ y wobr am y ffilm Gymraeg orau ac enillodd 'Long I Stood There' y wobr am y ffilm naratif orau yng ngŵyl ffilmiau byr Caerdydd, ddydd Sul, 23 Mehefin.

Dyddiad cyhoeddi: 28 Mehefin 2013

Myfyriwr a enillodd wobr BAFTA Cymru yn cynnal dosbarth meistr

Cynhaliodd myfyriwr ôl-radd Ysgol Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau ym Mhrifysgol Bangor, a enillodd wobr BAFTA Cymru am y ffilm fer orau yn 2013, ei ddosbarth meistr ei hun i fyfyrwyr a darlithwyr ym Mhrifysgol De Cymru yn ddiweddar.

Dyddiad cyhoeddi: 17 Mawrth 2014

Myfyriwr Gwneud Ffilmiau yn graddio

Yr wythnos hon, mae myfyriwr o Brifysgol Bangor a’i fryd ar fusnes yn graddio ar ôl tair blynedd o waith caled a dechrau disglair i’w yrfa fel gwneuthurwr ffilmiau.

Dyddiad cyhoeddi: 12 Gorffennaf 2013

Myfyriwr MA yn ennill cystadleuaeth celfyddyd sain ryngwladol

Mae darn o gerddoriaeth gan Richard Garret, myfyriwr MA rhan-amser mewn Cyfansoddi Electroacwstig ym Mangor, wedi ennill gwobr ryngwladol am ddarnau bychain o sain yn gysylltiedig â thestun newid hinsawdd.

Dyddiad cyhoeddi: 27 Awst 2013

Myfyriwr MA yn ennill gwobr PICS

Mae myfyriwr ym Mhrifysgol Bangor wedi ennill gwobr am ffilm fer a gynhyrchwyd fel rhan o'i chwrs MA Gwneud Ffilmiau.

Dyddiad cyhoeddi: 12 Mawrth 2015

Myfyriwr MA yn fuddugol mewn seremoni gwobrau ffugwyddonol

Mae ffilm a roddwyd at ei gilydd fel rhan o gwrs MA creu ffilmiau ym Mhrifysgol Bangor wedi ennill 'Best Sci-Fi Short' yn yr ŵyl ffilmiau Philip K. Dick yn Efrog Newydd.

Dyddiad cyhoeddi: 23 Ionawr 2015

Myfyriwr o Brifysgol Bangor yn troi’n diwtor

Bydd myfyriwr entrepreneuraidd o Brifysgol Bangor yn dod yn diwtor yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd yr haf hwn.

Bydd Osian Williams, sy'n wreiddiol o Bont-y-pridd,  ac a raddiodd yn ddiweddar gyda BA mewn Cyfathrebu a'r Cyfryngau, yn trosglwyddo ei sgiliau i bobl ifanc sydd â diddordeb mewn gwneud ffilmiau.

Dyddiad cyhoeddi: 23 Gorffennaf 2013

Myfyriwr o Fangor yn dilyn hynt Tîm Cymru ar ei daith i Ewrop

Mae myfyriwr yn yr Ysgol Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau wedi llofnodi cytundeb gyda chwmni cyhoeddi’r Lolfa i ysgrifennu hanes ymgyrch Tîm Pêl Droed Cymru i gael lle yng nghystadleuaeth Ewro 2016.

Mae Jamie Thomas, sydd yn dychwelyd i Brifysgol Bangor fel myfyriwr MA eleni, newydd fod efo’r Tîm yn y ddwy gêm olaf, wrth iddynt geisio ennill lle yn y twrnamaint pêl droed y flwyddyn nesaf.

Dyddiad cyhoeddi: 2 Medi 2015

Myfyriwr o Fangor yn edrych ymlaen at wobrau RTS

Bydd gan fyfyriwr o Brifysgol Bangor ddiddordeb arbennig yn noson wobrwyo’r Gymdeithas Deledu Frenhinol (RTS) a gynhelir ar 19 Fawrth.

Dyddiad cyhoeddi: 15 Mawrth 2013

Myfyriwr Prifysgol Bangor i weithio ar broject gydag un o awduron amlyca’r byd

Mae Ashwin Sanghi, myfyriwr PhD mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Bangor – sydd eisoes wedi dod i fri mawr fel awdur yn ei wlad enedigol, India – yn mynd i lunio nofel ar y cyd gydag awdur a ddisgrifir fel ysgrifennwr llyfrau ffuglen droseddol mwyaf poblogaidd y byd:  James Patterson.

 

Dyddiad cyhoeddi: 24 Ionawr 2013

Myfyriwr Prifysgol Bangor yn ennill gwobr BAFTA Cymru

Mae myfyriwr o Brifysgol Bangor, Osian Williams, wedi ennill Gwobr BAFTA Cymru.

Dyddiad cyhoeddi: 30 Medi 2013

Myfyriwr Prifysgol Bangor yn ennill Ysgoloriaeth Bryn Terfel

Mae myfyriwr Cerddoriaeth o Brifysgol Bangor i’w longyfarch ar ennill Ysgoloriaeth Bryn Terfel eleni.

Mewn cystadleuaeth o safon ardderchog a gynhaliwyd ac a ddarlledwyd yn fyw ar S4C nos Sul 14 Hydref 2012, bu Huw Ynyr, canwr yn cystadlu yn erbyn Lois Eifion, sy’n astudio gradd uwch MA mewn cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor, a phedair arall. Prif enillwyr cystadlaethau perfformio Eisteddfod yr Urdd sy’n cael gwahoddiad i gystadlu ar gyfer Ysgoloriaeth Bryn Terfel.  Cyflwynwyd yr Ysgoloriaeth, sef medal a’r Ysgoloriaeth o £4,000, i Huw gan Bryn Terfel.

Dyddiad cyhoeddi: 15 Hydref 2012

Myfyriwr ym Mangor yn ennill gwobr gêm fideo

Mae'r gêm yn bos antur isometrig 3D  i ddyfeisiau symudol/llaw ac mae'n ymwneud â merch fach yn y system gofal maeth sy'n ceisio canfod ei ffordd adref.

Dyddiad cyhoeddi: 11 Medi 2015

Myfyriwr yn cyfrannu at gynhyrchu ffilm ar gyfer teledu ac ar gyfer y Brifysgol

Mae myfyriwr trydedd flwyddyn sy’n astudio BA mewn Cyfathrebu a’r Cyfryngau ym Mhrifysgol Bangor ac sydd wedi cychwyn cwmni cyfryngau ei hun, eisoes wedi gweithio ar ffilm i’r BBC, cael ffilm ganddo wedi’i darlledu ar S4C ac wedi’i gomisiynu i gynhyrchu fideos byr i’r Brifysgol.

 

Dyddiad cyhoeddi: 14 Rhagfyr 2012

Myfyriwr yn Gohebu o bencampwriaeth Snwcer

Bydd Danny Griffith, myfyriwr yr ail flwyddyn yn treulio'r wythnos ddarllen yn gohebu ar snwcer.

Dyddiad cyhoeddi: 14 Tachwedd 2011

Myfyriwr ysbrydoledig yn graddio ar ôl brwydro yn erbyn canser

Bydd myfyriwr technolegau creadigol yn graddio eleni gyda gradd ddosbarth gyntaf, er iddo orfod brwydro yn erbyn canser yn ystod ail flwyddyn ei gwrs. Yn goron ar y cyfan mae Ronald Rodriguez Winter (Ronnie) hefyd wedi ennill Gwobr Jane Rudall mewn cydnabyddiaeth o’i benderfyniad a’i waith caled yn ystod ei astudiaethau.

Dyddiad cyhoeddi: 17 Gorffennaf 2015

Myfyrwraig Cerddoriaeth yn cipio Medal Prif Gyfansoddwr yr Urdd

Llongyfarchiadau i Lois Eifion Jones, myfyrwraig ôl-radd cerddoriaeth o Benisarwaun, ger Caernarfon, ar ennill Medal y Prif Gyfansoddwr yn Eisteddfod yr Urdd eleni.

 

Dyddiad cyhoeddi: 30 Mai 2013

Myfyrwraig Prifysgol Bangor i berfformio gyda mab Frank Zappa

Mae myfyrwraig o Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Bangor yn edrych ymlaen at berfformio darn o waith Frank Zappa ar daith o amgylch y DU yn hwyrach y mis hwn.

Bydd Sioned Eleri Jones, 30, o Fangor, yn perfformio un o ganeuon y gitarydd chwedlonol ar y clarinét gyda'i fab, Dweezil, sydd yn teithio gyda'i fand Zappa Plays Zappa.

Dyddiad cyhoeddi: 7 Tachwedd 2012

Myfyrwyr arwain yn dysgu gan feistr

Roedd yn bleser gan yr Ysgol Cerddoriaeth groesawu’r arweinydd byd-enwog (sydd hefyd yn Gymrawd Er Anrhydedd ym Mhrifysgol Bangor), Owain Arwel Hughes, i Fangor yn ddiweddar, i arwain dosbarth meistr i fyfyrwyr. Cafodd pum myfyriwr lwcus, o fyfyriwr israddedig ym mlwyddyn 1 hyd at fyfyriwr ôl-raddedig blwyddyn olaf, gyfle i arwain tair Dawns Slafonig gan Dvořák, a hynny dan lygaid barcud Dr Hughes.

Dyddiad cyhoeddi: 16 Mai 2013

Myfyrwyr Bangor yn Cyhoeddi Llyfrau Newydd

Mae'n bleser gan Ysgol Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau ym Mhrifysgol Bangor gyhoeddi dyddiad cyhoeddi dau ddetholiad, Blue Pencils a SCSM’s Media Medley. Mae pedwar myfyriwr yn yr Ysgol Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau wedi bod yn gweithio gyda'i gilydd ers pedwar mis i gynhyrchu a chyhoeddi detholiad o weithiau ffuglen byr, gwreiddiol. 

Dyddiad cyhoeddi: 12 Mai 2017

Myfyrwyr Bangor yn cystadlu yng Nghân i Gymru eto eleni

Yn dilyn llwyddiant Rhys Gwynfor ac Osian Huw Williams, myfyrwyr Prifysgol Bangor, yng nghystadleuaeth Cân i Gymru y llynedd, a llwyddiant Nia Davies Williams, myfyrwraig MA cerddoriaeth, a ddaeth yn drydydd yn 2012, mae dau o fyfyrwyr Ysgol Cerddoriaeth y brifysgol wedi cael eu cynnwys ar restr fer y gystadleuaeth boblogaidd. Mae’r gystadleuaeth yn cael ei ddarlledu am 7.45 efo’r canlyniadau’n cael eu cyhoeddi mewn rhaglen arbennig am 9.30 nos Wener 28.2.14.

 

Dyddiad cyhoeddi: 24 Chwefror 2014

Myfyrwyr Bangor yn ennill Cân i Gymru

Mae dau gyfaill sy’n cyd-chwarae mewn band ac yn astudio yn yr un brifysgol yn cystadlu yn y rownd derfynol ar y rhaglen Cân i Gymru  gyda chân a gyfansoddwyd wrth iddynt deithio adref o Brifysgol Bangor.

Dyddiad cyhoeddi: 28 Chwefror 2013

Myfyrwyr bodlon yn gosod Prifysgol Bangor ymysg prifysgolion gorau'r DU

Mae myfyrwyr Prifysgol Bangor wedi dangos eu cefnogaeth i'r brifysgol unwaith eto yn yr Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr, ac wedi gosod y brifysgol yn wythfed ymysg prifysgolion anarbenigol y DU ac yn ail ymysg prifysgolion Cymru.

Daw'r newyddion yn fuan ar ôl i'r brifysgol ennill safon aur yn Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu newydd llywodraeth y DU, yr unig brifysgol yng Nghymru i gyrraedd y safon hon.

Dyddiad cyhoeddi: 9 Awst 2017

Myfyrwyr Mentrus yn llwyddo gyda’r Weiren Wib

Mae'r tîm Menter trwy Ddylunio yn falch iawn o gael y cwmni arloesol hwn fel y partner masnachol eleni i roi her ystyrlon i fyfyrwyr sydd eisiau cyfrannu at lwyddiant y cwmni yn y dyfodol.

Bu deuddeg o dimau amlddisgyblaethol yn cystadlu am y wobr ariannol o £5,000 ar ôl gweithio ochr yn ochr â hwyluswyr ôl-raddedig ac arbenigwyr academaidd am ddeg wythnos mewn proses oedd â phwyslais ar gynllunio i ddatrys y briff dylunio hwn yn y byd go iawn.

Dyddiad cyhoeddi: 24 Ebrill 2017

Myfyrwyr Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau Prifysgol Bangor yn hynod fodlon eu byd

Mae myfyrwyr yn Ysgol Astudiaethau Creadigol a Chyfryngau Prifysgol Bangor unwaith eto ymysg y mwyaf bodlon eu byd yn y Deyrnas Unedig, gyda sgôr boddhad cyffredinol o 98%.

Daeth rhaglen newyddiaduraeth yr ysgol i'r brig yn y DU o ran boddhad myfyrwyr, allan o 51 o gyrsiau, gyda sgôr perffaith o 100%. Cafodd y cwrs Ysgrifennu Proffesiynol sgôr perffaith hefyd.

Dyddiad cyhoeddi: 14 Awst 2015

Need for speed finally trumps demands of ad trackers to offer a sleeker mobile web

Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Andrew MacStay o’r Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol

Dyddiad cyhoeddi: 14 Hydref 2015

Now advertising billboards can read your emotions … and that’s just the start

Dyddiad cyhoeddi: 4 Awst 2015

Oes Aur Canu Pop Cymraeg

Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe yn arddangos dros 300 mlwyddyn o ddiwydiant ac arloesi, a bydd arddangosfa’r flwyddyn nesaf (2013) yn rhoi sylw i ddiwydiant o bwys, er efallai un nad yw mor amlwg i bawb ar yr olwg gyntaf.  Mae Hannah Way, sy’n byw ar hyn o bryd yn Nhalysarn, yn ymchwilio ‘Oes Aur’ pop Cymraeg  ar ran yr Amgueddfa. Mae hi’n ymchwilio i effaith labeli annibynnol ar y sin bop Gymraeg ac effaith y cyfryngau newydd ar y rhai hynny sydd wedi goroesi.

Dyddiad cyhoeddi: 21 Rhagfyr 2012

O ffilmio'r Gymdeithas Ddawns Myfyrwyr i weithio gyda Dr Who ....

Mae enillydd gwobr BAFTA sydd erbyn hyn yn rhedeg ei gwmni ffilm ei hun yn llawn canmoliaeth i Brifysgol Bangor am y gefnogaeth a'r anogaeth a gafodd wrth astudio yma.

Mae Osian Williams, 22 oed o Bontypridd, eisoes yn gwneud enw iddo’i hun fel gwneuthurwr ffilm annibynnol, wedi iddo ennill gwobr BAFTA Cymru* wrth astudio yn yr Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau.

Dyddiad cyhoeddi: 17 Ebrill 2015

Opera Prifysgol Bangor - Dido a Aeneas

Ym Mis Mai bydd Cerddoriaeth Gynnar Bangor, ag arweinwyd gan Chris Collins ac Opera Prifysgol Bangor a chyfarwyddwyd gan Marian Bryfdir yn uno i berfformio opera adnabyddus Purcell. 

Dyddiad cyhoeddi: 25 Ebrill 2016

Osian Huw Williams yn ennill Tlws y Cerddor yn yr Eisteddfod Genedlaethol

Myfyriwr Prifysgol Bangor, Osian Huw Williams yw enillydd Tlws y Cerddor yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, ac fe’i anrhydeddwyd mewn seremoni arbennig ar lwyfan y Pafiliwn nos Fercher.

Dyddiad cyhoeddi: 6 Awst 2015

Paratoi i lansio rhwydwaith dogfennol Cymraeg

Bydd rhwydwaith newydd i gynhyrchwyr rhaglenni dogfen yng Nghymru yn cael ei lansio’r mis yma.

Mae wedi’i gyd-sefydlu gan ddarlithydd ffilm yn Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau ym Mhrifysgol Bangor.

Dyddiad cyhoeddi: 4 Mehefin 2014

Penodi Pedwar Darlithydd Newydd i Brifysgol Bangor

Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi helpu penodi nifer o unigolion newydd i weithio mewn gwahanol feysydd ym Mhrifysgol Bangor er mwyn cynyddu’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg, a hynny am y bedwaredd flwyddyn yn olynol.

Dyddiad cyhoeddi: 26 Medi 2014

Perfformiadau agraffiadau gan ymchwiliwr yn y Weriniaeth Tsiec

Roedd gweithiau prin gan Jacobus de Kerle (1531/2-1591), i’w clywed mewn cyngherddau yn Brno (St Leopold, 4 Ebrill) ac ym Mynachdy Rajhrad (6 Ebrill), a’r cyngherddau hynny wedi’u neilltuo i weithiau gan gyfansoddwyr o’r Capel Imperial. Dan arweiniad arbenigol Vladimír Maňas (Prifysgol Masaryk, Brno), bu Ensemble Versus (gyda’r gwesteion Martina Komínková (ffliwt), Richard Šeda (cornetto a ffliwtiau) a Tomáš Lajtkep (tenor a thrombôn bas) yn perfformio motetau Kerle, sef Media vita ac Adoramus te Christe, a’r ddau wedi'u golygu gan Christian Leitmeir, y prif awdurdod ar y cyfansoddwr Ffleminaidd.

Dyddiad cyhoeddi: 24 Mehefin 2014

Perfformiodd Dr Xenia Pestova yn y 'Southbank Centre' a 'Glasgow Concert Halls'

Perfformiodd Dr Xenia Pestova yn y 'Southbank Centre' a 'Glasgow Concert Halls' ar gyfer y 'PRS New Music Biennial' / Gemau'r Gymanwlad.

Dyddiad cyhoeddi: 7 Awst 2014

Perfformio, Pontio a PhD

Mae Cymru’n enwog am ei mynyddoedd, chwedlau a cherddoriaeth, sef yr union resymau a ddenwyd myfyriwr PhD o Halifax, Swydd Efrog i astudio ym Mhrifysgol Bangor.

Dyddiad cyhoeddi: 19 Awst 2015

Planet Earth's adventure into cities cements its position as a pioneer of environmental film

Dyma erthygl yn Saesneg gan Michela Cortese, Darlithydd Cysylltol gyda'r Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 9 Rhagfyr 2016

Premiere o waith newydd gan un o gyfansoddwyr ffilm a theledu mwyaf talentog Cymru

Bydd gwaith newydd gan gyfansoddwr talentog a drefnodd y gerddoriaeth ar gyfer rhaglun newydd yr Hobbit yn cael ei berfformio yn un o brif ŵyliau cerddoriaeth Cymru.

Mae Owain Llwyd, 30, sydd hefyd wedi cyfansoddi ar gyfer yr X-Factor, Top Gear a Big Brother, yn edrych ymlaen yn arw at y premiere fel rhan o Ŵyl Gerdd Bangor, sy’n dechrau ar Fawrth 4.

Dyddiad cyhoeddi: 19 Chwefror 2015

Prifysgol Bangor yn cael ei gwobrwyo am ei chydweithio â busnes ac am ymgyrch gynaliadwyedd

Mae Prifysgol Bangor wedi derbyn gwobr Prifysgol y Flwyddyn a dwy wobr arall yng Ngwobrau Business Insider yng Nghaerdydd neithiwr (3 Tachwedd), a hynny am ei gwaith â’r sector busnes. Yr un noson, derbyniodd y Brifysgol wobr am ei hymgyrch gynaliadwyedd gan gorff y Chartered Institution of Wastes Management (CIWM) mewn digwyddiad yn Llundain.

Dyddiad cyhoeddi: 4 Tachwedd 2016

Prifysgol Bangor yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn

Fel prif ddarparwr addysg uwch cyfrwng Cymraeg, mae Prifysgol Bangor yn chwarae rhan weithgar yr Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn eleni.Mae manylion a newyddion ynghylch holl weithgareddau Prifysgol Bangor yn yr Eisteddfod i’w gael ar safle gwe: www.bangor.ac.uk/eisteddfod

Dyddiad cyhoeddi: 2 Awst 2017

Prifysgol Bangor yng Ngŵyl Rhif 6

Mae Prifysgol Bangor yn falch o gyhoeddi y bydd staff academaidd a myfyrwyr o'r Coleg Celfyddydau a'r Dyniaethau yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau fel rhan o ddathliadau pen-blwydd Gŵyl Rhif 6 yn 6 oed eleni. Mae’r ŵyl yn wledd o gerddoriaeth, celfyddydau, diwylliant a gastronomeg a gynhelir dros benwythnos 7-10 Medi ym mhentref hudolus Portmeirion ym Mhenrhyndeudraeth, cartref y gyfres deledu gwlt The Prisoner. Rhai o'r prif berfformwyr yn yr ŵyl eleni fydd Bloc Party, The Flaming Lips, a Mogwai, ynghyd â sgyrsiau arbennig gan Irvine Welsh a Maxine Peake.

Dyddiad cyhoeddi: 22 Awst 2017

Prifysgol Bangor yn Nhablau Pynciau 10 Uchaf y DU

Mae Prifysgol Bangor yn ymddangos ymhlith y deg prifysgol orau yn y DU am chwe phwnc a gaiff eu dysgu yma, yn ôl The Complete University Guide ar gyfer 2019.

Mae'r Brifysgol ymysg y prifysgolion ym Mhrydain sydd â sgor uchel wedi ei nodi ar gyfer Boddhad Myfyrwyr, ac yn ymddangos yn drydydd yn nhabl Prifysgolion Cymru sy’n ymddangos, gan sicrhau safle cyfartal 62 yn y gynghrair gyntaf o’i bath sydd ar gael yn rhad ac am ddim ac sy’n cynnwys pob prifysgol yn y DU.

Dyddiad cyhoeddi: 25 Ebrill 2018

Prifysgol Bangor yn parhau ar y brig o ran boddhad myfyrwyr

Unwaith eto, Prifysgol Bangor yw’r uchaf o brifysgolion Cymru yn y mesur diweddaraf o foddhad myfyrwyr, ac mae hi ymhlith y 10 uchaf o brifysgolion anarbenigol gorau’r DU, sef y sefydliadau traddodiadol sy’n cynnig amrywiaeth eang o bynciau. 

Dyddiad cyhoeddi: 12 Awst 2015

Prifysgol Bangor yn uchel yng ngraddau’r Times Higher Education ym mhynciau’r celfyddydau a’r dyniaethau

Mae’r tabl celfyddydau a'r dyniaethau 2018 yn rhestru prifysgolion gorau’r byd ar draws eu cenhadaeth - addysgu, ymchwil, trosglwyddo gwybodaeth ac agweddau rhyngwladol.

Dyddiad cyhoeddi: 13 Medi 2017

Recordio Cerddoriaeth Gŵyl Gerdd Dandwr Mewn Pwll Nofio!

Mae  grwp o blant ysgol  cerddorol o Fôn wedi creu symffoni  unigryw dandwr yn eu pwll nofio lleol.

Dyddiad cyhoeddi: 4 Mawrth 2014

REF 2014: cadarnhau ansawdd gyda'r orau yn y byd.

Mae Pennaeth yr Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau wedi croesawu canlyniadau Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014.

Dyddiad cyhoeddi: 23 Rhagfyr 2014

REF 2014: Ymchwil Cerddoriaeth yn yr 20 Uchaf

Mae canlyniadau REF 2014 wedi sicrhau safle Prifysgol Bangor fel un o'r 20 uchaf ymhlith sefydliadau Prydain ar gyfer ymchwil gerddorol.

 

Dyddiad cyhoeddi: 19 Rhagfyr 2014

Rhaglen The One Show yn cofio ymweliad The Beatles â Bangor

Cofiwch wylio rhaglen The One Show ar BBC 1 am 7.00 nos Fawrth 23 Tachwedd i glywed am ymweliad y Beatles â Bangor.

Dyddiad cyhoeddi: 22 Tachwedd 2010

Rhagor o lwc dda i fyfyriwr PhD ysgrifennu creadigol

Mae un o awduron mwyaf poblogaidd yr India, sydd hefyd yn fyfyriwr PhD ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Bangor, wedi rhyddhau ei lyfr ffeithiol cyntaf.

Mae 13 Steps to Bloody Good Luck yn dilyn ymgais Ashwin Sanghi i ganfod a yw lwc yn rhywbeth y mae rhai pobl wedi cael eu bendithio gydag ef, neu'n ddawn y gellir ei ddysgu.

Trwy straeon difyr llawn gwybodaeth, hanesion am brofiadau personol a doethineb syml, mae Ashwin yn cynnig golwg newydd ar sut y gall pobl weithio tuag at fod yn lwcus.

Dyddiad cyhoeddi: 8 Rhagfyr 2014

Rhestr Fer Gwyl Cyfryngau Celtaidd

Cafodd ffilm ddogfen gan ddarlithydd o Brifysgol Bangor ei dewis ar restr fer yr Wyl Gyfryngau Geltaidd. Darlledwyd 'Dic Jones, yn ei eiriau ei hun' ar S4C yn dilyn marwolaeth y prifardd ac Archdderwydd, Dic Jones. Cafodd ei chyfarwyddo gan Dr Llion Iwan o Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau.

 

Dyddiad cyhoeddi: 14 Mawrth 2011

Rhwydwaith Bangor ar gyfer Cyfryngau, Perswâd a Chyfathrebu (MPC) wedi cynnal cynhadledd lwyddiannus

Ar 10-11 Tachwedd 2014, cynhaliodd Rhwydwaith Bangor ar gyfer Cyfryngau, Perswâd a Chyfathrebu gynhadledd flynyddol y Gymdeithas Astudiaethau Gwleidyddol ar gyfer y Grŵp Cyfryngau a Gwleidyddiaeth. Y Cyfryngau, Perswâd a Hawliau Dynol oedd y thema.  

Dyddiad cyhoeddi: 19 Tachwedd 2014

Rhyddhaodd Dr Xenia Pestova 3 CD ar Naxos Records

Rhyddhaodd Dr Xenia Pestova 3 CD ar Naxos Records. Daeth "John Cage: works for 2 keyboards, volume 3" allan ym mis Gorffennaf 2014 yn cynnwys y ddeuawd biano Pestova / Meyer.

Dyddiad cyhoeddi: 7 Awst 2014

Richard Craig, the recently appointed Head of Performance, has had a productive start to his first Semester

Richard Craig, the recently appointed Head of Performance, has had a productive start to his first Semester. As a specialist in contemporary music, he collaborates with composers integrating cutting-edge technology with his own research into contemporary performance practice.

Dyddiad cyhoeddi: 15 Ionawr 2016

Sain a delweddau’n mynegi profiad o ddyslecsia

Mae darn o farddoniaeth gan fachgen 12 oed, sy’n disgrifio’i deimladau a’i rwystredigaethau wrth ymdopi â dyslecsia, wedi ysbrydoli gwaith cerdd a fideo newydd gan gyfansoddwr electroacwstig, yr Athro Andrew Lewis o Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Bangor.

Ysgrifennwyd y darn gan Tom Barbor-Might pan oedd yn blentyn, wrth dderbyn cefnogaeth gan Ganolfan Dyslecsia Miles, ym Mhrifysgol Bangor. Roedd barddoniaeth Tom wedi ei osod ar hysbysfwrdd yn y Ganolfan am sawl blwyddyn.

Mae Tom bellach yn gynhyrchydd rhaglenni dogfen teledu. Nid yw Tom wedi clywed y darn sy’n seiliedig ar ei eiriau eto. Bydd yn mynychu ail berfformiad y darn, Lexicon, yn BEAST at 30 yn Birmingham nos Sadwrn, 1 Rhagfyr.

Dyddiad cyhoeddi: 29 Tachwedd 2012

Sam yn paratoi at gystadleuaeth quidditch yng Nghanada

Bydd myfyriwr o Fangor yn teithio i Ganada yn ystod yr haf er mwyn cymryd rhan mewn cystadleuaeth quidditch fyd-eang.

Mae Sam Davies, sydd yn fyfyriwr Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau ym Mhrifysgol Bangor, yn edrych ymlaen yn fawr at gael bod yn rhan o gamp sy’n gysylltiedig â nofelau a ffilmiau Harry Potter.

Dyddiad cyhoeddi: 2 Mai 2014

School Swap: Korea Style

Mae Rory Farmer, sy’n astudio am MA mewn cynhyrchu ffilmiau yn yr Ysgol Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau, wedi dychwelyd yn ddiweddar o broject ffilmio yn Ne Korea.

Mae cwmni teledu Darlun TV, o’r Felinheli, wedi cynhyrchu rhaglen ddogfen mewn dwy ran i BBC Cymru Wales, School Swap Korea Style. Yn y rhaglen, mae tri disgybl yn eu harddegau o Sir Benfro yn cael blas ar gyfundrefn addysg sy’n cael ei hystyried yn un o’r rhai gorau yn y byd.

Dyddiad cyhoeddi: 28 Tachwedd 2016

Sioe Arddangos 2013 yr Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau

Cynhelir Sioe Arddangos yr Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau ar 3 Mai o 7pm ym Mhrif Ddarlithfa'r Celfyddydau. Hon fydd ail flwyddyn cynnal y sioe arbennig hon. Mae'n ddigwyddiad am ddim sy'n agored i'r cyhoedd ond mae angen tocyn i ddod i mewn, a gall unrhyw un a hoffai archebu tocyn gysylltu â Mikey Murray (m.murray@bangor.ac.uk).

Dyddiad cyhoeddi: 23 Ebrill 2013

Sioned yn ennill Tlws y Cerddor

Llongyfarchiadau mawr i’r cerddor Sioned Eleri Roberts, un o gyn-fyfyrwyr yr Ysgol Cerddoriaeth ar ennill cystadleuaeth Tlws y Cerddor yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr.

Dyddiad cyhoeddi: 7 Awst 2014

Sion Griffiths wedi ei ddewis ar gyfer Doc/Future,

Mae Sion Griffiths wedi ei ddewis ar gyfer Doc/Future, cynllun datblygiad proffesiynol gan y BFI a Skillset sydd wedi ei greu i ddatblygu cenhedlaeth newydd o gyfarwyddwyr a chynhyrchwyr yn niwydiannau ffilm, cyfryngau digidol a rhaglenni dogfen Prydain.  http://sheffdocfest.com/view/doc_future

Dyddiad cyhoeddi: 27 Ebrill 2012

Staff a myfyrwyr Bangor yn ymddangos yn y Royal Academy of Music

Perfformiwyd gwaith yr Athro Andrew Lewis mewn cyngerdd yn yr academi ar 1 Gorffennaf, ynghyd â gwaith myfyiwr Bangor, Kimon Grigoriadis. Perfformiwyd y gwaith hwn gan fyfyriwr arall, Katherine Betteridge.

Dyddiad cyhoeddi: 1 Gorffennaf 2013

Stanley Kubrick’s films all had one thing in common: Jewishness

Dyma erthygl yn Saesneg gan yr Athro Nathan Abrams o’r Ysgol Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 12 Mawrth 2018

Stori’r dudalen flaen i Nicholas

Mae Nicholas Whitmore, myfyriwr Newyddiaduraeth a’r Cyfryngau yn ei drydedd flwyddyn, wedi cael erthygl wedi ei gyhoeddi ar dudalen flaen y Daily Post, Iau 11 Tachwedd 2010.

Dyddiad cyhoeddi: 11 Tachwedd 2010

Student work shorlisted for the Ffresh Award: Student Moving Image Festival Of Wales.

Second year SCSM documentary project has been shortlisted in the factual category at Ffresh, the Student Moving Image Festival Of  Wales. 

Dyddiad cyhoeddi: 11 Ionawr 2012

Swyddi: Cadair mewn Cerddoriaeth

Mae’r Ysgol Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor yn chwilio am unigolyn eithriadol ac egnïol i lenwi swydd Cadair mewn Cerddoriaeth.

Dyddiad cyhoeddi: 22 Ionawr 2013

Syniadau gwych gan Fyfyrwyr Bangor angen eich pleidlais

Mae myfyrwyr arloesol ym Mhrifysgol Bangor angen eich pleidlais er mwyn i’w syniadau ddwyn ffrwyth. Fel rhan o Myfyrwyr Arloesol Haf 2016 Jisc, mae'r gystadleuaeth syniadau myfyriwr yn chwilio am y syniadau gorau ar gyfer defnyddio technoleg a allai wella profiad myfyrwyr mewn addysg bellach neu addysg uwch.

Dyddiad cyhoeddi: 26 Mai 2016

Tech firms want to detect your emotions and expressions, but people don't like it

Dyma erthygl yn Saesneg gan Andrew Mc Stay, Darllenydd yn yr Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 27 Mehefin 2017

Theori Cerddoriaeth Ganoloesol mewn Cyd-destun, Gorffennaf 2012

Yr Ail Weithdy ar Theori Cerddoriaeth Ganoloesol i’w gynnal ym Mhrifysgol Bangor.

Dyddiad cyhoeddi: 5 Medi 2012

Trafod cydweithio rhwng Prifysgol a’r diwydiannau creadigol

Bydd unigolion sydd yn gweithio yn y diwydiannau creadigol ledled Gogledd Cymru yn dod ynghyd ag arbenigwyr o Ysgol Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau Prifysgol Bangor ddydd Gwener 19 Ionawr ar gyfer Tu Hwnt i’r Ffiniau, sy’n weithdy newydd ar gyfer y ddwy garfan.

Bydd y digwyddiad rhwydweithio cyntaf hwn rhwng y darlithwyr, yr ymchwilwyr ac aelodau Gogledd Creadigol, yn gyfle i’r Ysgol gydweithio’n agosach gyda chwmnïau ac ymarferwyr yn y meysydd creadigol, ac i drafod cyfleoedd i gyd-weithio yn y dyfodol.

Dyddiad cyhoeddi: 17 Ionawr 2018

TransForm - Adrodd hanesion newydd am ddelwedd y corff

Bibliotherapi yw'r syniad y gallwn ddefnyddio hanesion am bobl eraill i'n helpu i feddwl yn wahanol ac yn fwy cadarnhaol am ein pryderon ein hunain. Mae'r project yn dod â bibliotherapi i'r unfed ganrif ar hugain ac yn edrych ar sut y gallwn ddefnyddio gemau straeon ar-lein, neu ffuglen ddigidol, i gefnogi merched ifanc i ddatblygu dulliau o feddwl mwy cadarnhaol am ddelwedd eu cyrff.

Dyddiad cyhoeddi: 28 Mehefin 2013

Trydydd safle yng Nghystadleuaeth Cân i Gymru i Nia

Daeth Nia Davies Williams, myfyrwraig MA mewn cerddoriaeth yn Ysgol Cerddoriaeth y Brifysgol yn drydydd yng Nghystadleuaeth Cân i Gymru neithiwr (3.3.12)

Dyddiad cyhoeddi: 5 Mawrth 2012

Welsh language media could hold the solution to Wales’s democratic deficit

Dyma erthygl yn Saesneg gan Ifan Morgan Jones, Darlithyd mewn Newyddiaduraeth yn yr Ysgol Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 11 Awst 2017

Why Holocaust jokes can only be told by a Jewish comedian

Dyma erthygl yn Saesneg gan yr Athro Nathan Abrams  o’r Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 9 Tachwedd 2017

Y cwrs Radiograffeg gorau yn y DU ar frig tabl cynghrair y Prifysgolion

Yn ôl y Times & Sunday Times University Guide 2016, Prifysgol Bangor yw’r lle gorau i astudioradiograffeg. Ar ben hynny, myfyrwyr radiograffeg Bangor oedd â’r rhagolygon gyrfaol gorau o blith holl raddedigion radiograffeg y DU, a gosodwyd y cwrs ar y trydydd safle o ran safonau mynediad.

Mae Prifysgol Bangor hefyd ymysg 10 uchaf o blith Prifysgolion y DU mewn pum pwnc arall. Yn ogystal â radiograffeg, daw Astudiaethau Celtaidd (Cymraeg) yn ail, Polisi Cymdeithasol yn ail, Amaeth a Choedwigaeth yn seithfed, Ysgrifennu Creadigol yn wythfed ac Addysg yn ddegfed.

Dyddiad cyhoeddi: 28 Medi 2015

Y Gwrthdrawydd Mawr Hadron yn creu cerddoriaeth mewn gŵyl

Bydd darn newydd o gerddoriaeth a grëwyd gan ddefnyddio data’r gwrthdrawydd gronynnau mwyaf yn ei faint a’i bŵer yn cael ei berfformio mewn gŵyl yng Ngogledd Cymru.

Bydd y perfformwyr yng Ngŵyl Gerdd Bangor yn defnyddio gliniaduron i addasu seiniau’r gronynnau yn gwrthdaro a wnaed gan y Gwrthdrawydd Mawr Hadron (Large Hadron Collider) yn Sefydliad Ewropeaidd ar gyfer Ymchwil Niwclear, a elwir yn CERN yn Geneva. 

Dyddiad cyhoeddi: 6 Rhagfyr 2017

Ymchwilwyr o Brifysgol Bangor yn cael gwahoddiad i roi cyflwyniad ar broject pwysig i Aelodau’r Cynulliad

Am yr ail dro eleni mae ymchwilwyr o Brifysgol Bangor wedi cael gwahoddiad i gyflwyno eu gwaith i gynulleidfa o Aelodau’r Cynulliad. Cafodd Dr Nathan Abrams a Dr Sally Baker, o’r Ysgolion Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau a Gwyddorau Cymdeithas, grant o  £19,000 gan Oelufa Cymru (Beacon for Wales) i gynnal arddangosfa deithiol ar Fywyd Iddewig yng Ngogledd Cymru. Mae Goleufa Cymru’n hyrwyddo gwaith pontio rhwng prifysgolion a’r cyhoedd, gan ddod â’r cyhoedd yn gyffredinol a phrifysgolion at ei gilydd. Hyd yma mae’r arddangosfa wedi ymweld â Blaenau Ffestiniog a Bangor ac mae ym Mhwllheli ar hyn o bryd. Eisoes denodd ymwelwyr o Gymru benbaladr, o Ewrop ac o’r Unol Daleithiau. Daeth hanner cant o bobl i dderbyniad gyda bwyd a gwin cosher ym Mhrif Lyfrgell Prifysgol Bangor ar achlysur dyfodiad yr arddangosfa i Fangor.

Dyddiad cyhoeddi: 4 Tachwedd 2010

Ymweliad ag UDA i ymchwilio i Kubrick – un o gyfarwyddwyr ffilmiau gorau America ar ôl y Rhyfel

Mae Dr Nathan Abrams, Uwch Ddarlithydd Astudiaethau Ffilm yn Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau Prifysgol Bangor, wedi ennill Cymrodoriaeth Sefydliad Dorot yng Nghanolfan Ymchwil Dyniaethau Harry Ransom ym Mhrifysgol Texas, Austin – cymrodoriaeth bwysig ac enwog yn rhyngwladol, y mae cystadleuaeth ffyrnig amdani.

Dyddiad cyhoeddi: 19 Mehefin 2013

Ysbrydolwyd gan 2001 Cystadleuaeth i Fyfyrwyr Prifysgol Bangor

Dyddiad cyhoeddi: 20 Ebrill 2018

Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Bangor – y gorau yng Nghymru!

Mae'n swyddogol: Prifysgol Bangor yw’r lle gorau yng Nghymru i astudio gradd mewn Cerddoriaeth. Mae canlyniadau Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2014, a gyhoeddwyd yr wythnos ddiwethaf, yn gosod Ysgol Cerddoriaeth Bangor ar y brig yng Nghymru, gyda chyfradd boddhad cyffredinol enfawr o 91%.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Awst 2014

Ysgol Cerddoriaeth yn ail-agor ar ôl gwerth £2M o waith ail-ddatblygu

Bu Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Bangor yn dathlu ei hagoriad ar ôl gwaith ail-ddatblygu gyda seremoni ar gyfer staff a myfyrwyr. Roedd y seremoni yn dathlu cwblhau gwaith adnewyddu gwerth £2filiwn ar yr adeilad, gan greu cyfleusterau haeddiannol i un o'r pum adran cerddoriaeth gorau yn y DU fel y pleidleisiwyd gan fyfyrwyr yn yr Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol 2016.

Dyddiad cyhoeddi: 19 Medi 2016

Ysgol Cerddoriaeth yn enill dwy wobr Cronfa Goffa Thomas Ellis

Ar ôl edrych drwy ugeiniau o geisiadau oddi wrth nifer hynod o dalentog o ymgeiswyr, mae Prifysgol Cymru wedi cyhoeddi enillwyr Cronfa Goffa Thomas Ellis eleni.

Bydd y darlithydd Cerdd ym Mhrifysgol Bangor, Dr Guto Pryderi Puw, yn derbyn £1500, a bydd y myfyriwr PhD, Gwawr Ifan, hefyd o Brifysgol Bangor yn derbyn £1000.

Dyddiad cyhoeddi: 1 Chwefror 2011