Gwybodaeth am Coronafirws (Covid-19)

Sgwrs gyda Wil Aaron

Sgwrs gyda Wil Aaron

Neuadd Alun, 8 Tachwedd 2018, 5pm-6pm

Mae Wil Aaron yn arloeswr ym myd teledu, sydd wedi gweithio fel cyfarwyddwr a chynhyrchydd annibynnol. Sefydlodd y cwmni teledu ‘Ffilmiau’r Nant’ ym 1976, a  gynhyrchodd rhaglenni megis Hel Straeon, Sgorio a C’mon Midffild i S4C.  Cyn hynny, bu'n gweithio fel cyfarwyddwr i raglenni'r BBC 24 Hours a Midweek. Bydd yn sôn am ei brofiadau mewn ardaloedd rhyfel fel Fietnam, Laos a Cambodia. Y gohebydd yn nifer o'r ffilmiau a wnaeth yno oedd Max Hastings, oedd ar ddechrau gyrfa nodedig a arweiniodd at fod yn olygydd  The Telegraph. Mae'r sgwrs yn cyd-fynd â chyhoeddiad gwaith diffiniol Max am y rhyfel, Vietnam: An Epic Tragedy: 1945-1975.

Dyddiad cyhoeddi: 11 Ionawr 2019