Busnes ar Ynys Môn (BOA) yn cynnig bwrsariaeth i Fyfyrwyr Ymchwil SENRGy
Busnes ar Ynys Môn (BOA) yn cynnig bwrsariaeth i Fyfyrwyr Ymchwil SENRGy
Mae BOA yn rhwydwaith o gwmnïau bach a chanolig sydd wedi’u lleoli ym Môn. Hoffent roi bwrsariaeth werth £3,000 i fyfyriwr PhD y bydd ei (h)ymchwil o fudd i amgylchedd Ynys Môn neu i’w datblygiad economaidd neu gymunedol.
Gwahoddir ceisiadau heb fod yn fwy nag 1 ochr A4, yn disgrifio’r ymchwil, y buddion a ragwelir i Ynys Môn, a’r modd y defnyddir y fwrsariaeth.
I fod yn gymwys, rhaid ichi fod yn fyfyriwr ymchwil presennol yn Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth.
Dylech e-bostio ceisiadau at Dr Morag McDonald erbyn 12 Ebrill 2013.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Mawrth 2013