Archif Newyddion: Medi 2013

Myfyriwr Prifysgol Bangor yn ennill gwobr BAFTA Cymru

Mae myfyriwr o Brifysgol Bangor, Osian Williams, wedi ennill Gwobr BAFTA Cymru.

Dyddiad cyhoeddi: 30 Medi 2013

Cyfarwyddwr Newydd ar gyfer prif Ganolfan Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol

Cyfarwyddwr Newydd ar gyfer prif Ganolfan Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol

Mae Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD) wedi penodi Cyfarwyddwr newydd.

Mae’r Athro Ian Rees Jones wedi cael ei benodi yn Gyfarwyddwr newydd WISERD. Wedi’i leoli ym Mhrifysgol Caerdydd, bydd yn arwain y Sefydliad sydd wedi dod yn brif ganolfan ar gyfer rhagoriaeth mewn ymchwil y gwyddorau cymdeithasol, yng Nghymru ac y tu hwnt iddi. Sefydlwyd WISERD yn 2008 i ddod ag arbenigedd ymchwilwyr o brifysgolion Caerdydd, Aberystwyth, Bangor, De Cymru ac Abertawe ynghyd.

Dyddiad cyhoeddi: 27 Medi 2013

Darganfod ail gloc mewnol yn y lleuen fôr frith

Mae gan y lleuen fôr frith (Eurydice pulchra) ddau gloc mewnol yn y corff, un ar gyfer nos a dydd ac un arall ar gyfer llanw a thrai, yn ôl ymchwil a gyhoeddwyd heddiw, dydd Iau 26 Medi.

Mewn papur yn y cyfnodolyn Current Biology, mae ymchwilwyr o Brifysgolion Aberystwyth, Bangor, Caergrawnt a Chaerlŷr yn cadarnhau bodolaeth cloc mewnol ar wahân ac annibynnol sy'n dilyn cylch 12.4 awr y llanw.

Dyddiad cyhoeddi: 27 Medi 2013

Deng mlynedd o lwyddiant - busnesau yn dod ynghyd i ddathlu GO Wales ym Mhrifysgol Bangor

Daeth dros hanner cant o fusnesau o bob rhan o ogledd orllewin Cymru at ei gilydd ym Mhrifysgol Bangor yr wythnos ddiwethaf i ddathlu degfed pen-blwydd GO Wales, y project cymorth busnes a chyflogadwyedd.  Daeth nifer o asiantaethau cymorth i fusnes o bob rhan o'r rhanbarth i'r digwyddiad hefyd, yn ogystal â chynrychiolwyr o Brifysgol Bangor sydd i gyd wedi rhoi cefnogaeth barhaus i'r rhaglen yn ystod y ddegawd ddiwethaf.  

 

Dyddiad cyhoeddi: 27 Medi 2013

Cregyn bylchog yn datgelu cyfrinachau newid yn yr hinsawdd forol

Mae gwyddonwyr morol o Ysgol Gwyddorau’r Eigion yn y Brifysgol yn casglu data defnyddiol am newid yn yr hinsawdd forol- a hynny o fan annisgwyl- cregyn môr.

Dyddiad cyhoeddi: 26 Medi 2013

Cyhoeddi safle dewisol y Parc Gwyddoniaeth

Heddiw, mae Parc Gwyddoniaeth Menai wedi cyhoeddi mai safle 50 erw yn Gaerwen yw safle dewisol y parc gwyddoniaeth newydd fydd yn gwasanaethu gogledd orllewin Cymru. Mae'r safle, sy'n eiddo i Gyngor Sir Ynys Môn ar hyn o bryd, yn un o dri safle ar Ynys Môn oedd ar restr fer tîm project y parc gwyddoniaeth.

Dyddiad cyhoeddi: 25 Medi 2013

Cyn-fyfyrwraig ar restr fer Stori Fer y BBC

Mae Lisa Blower, a raddiodd yn 2011 efo PhD o Ysgol y Saesneg Prifysgol Bangor, ac sy’n ddarlithydd rhan-amser yn yr Ysgol, yn un o bum awdur ar restr fer Gwobr Stori Fer y BBC 2013.

Dyddiad cyhoeddi: 25 Medi 2013

Defnydd arloesol o therapïau yn gymorth i bobl yn y gymuned

Wrth sôn am arloesedd, byddwn yn aml yn meddwl am dechnoleg, ond mae ystyr llawer mwy eang na hyn i’r gair. Gall pobol fod yn arloesol yn y modd y maent yn mynd ati i gymhwyso gwybodaeth er lles ehangach.

Mae’r Ganolfan Ymwybyddiaeth Ofalgar ym Mhrifysgol Bangor yn enghraifft dda o hyn.  Maent wedi ymestyn y defnydd o therapïau ymwybyddiaeth ofalgar, a ddatblygwyd yn wreiddiol ar gyfer pobl efo iselder, at nifer fawr o ddibenion gwahanol.

Dyddiad cyhoeddi: 25 Medi 2013

Prifysgol Bangor i arwain project gwerth miliynau o bunnoedd yn Ewrop i astudio hanes ein moroedd

Hanes amgylchedd morol Ewrop dros y mil o flynyddoedd diwethaf yw targed project €3.1 miliwn (£2.6 miliwn), a ariannir gan yr Undeb Ewropeaidd ac a arweinir gan wyddonwyr o Ysgol Gwyddorau Eigion, Prifysgol Bangor.  Mae’r project hefyd yn cynnwys ymchwilwyr o Norwy, yr Almaen, Ffrainc, Croatia, Gwlad Pwyl a'r Iseldiroedd a bydd yn defnyddio cregyn  molysgiaid hirhoedlog iawn fel cofnod o newid amgylcheddol dros y mil o flynyddoedd diwethaf. Mae'n adeiladu ar ymchwil a ddatblygwyd yn wreiddiol ym Mangor gan yr Athro James Scourse a'r Athro Chris Richardson a arweiniodd yn 2007 at ddarganfod yr anifail mwyaf hirhoedlog sy'n adnabyddus i wyddonwyr, sef cragen fylchog o Wlad yr Ia a oedd wedi byw am 507 o flynyddoedd.

 

Dyddiad cyhoeddi: 24 Medi 2013

Gwobr Goffa Duncan Tanner 2013

Graddiodd Martin Andrew Hanks 50, o Benmaenmawr, gydag MA mewn Hanes, gan dderbyn hefyd Wobr Duncan Tanner am y Traethawd Hir Gorau ar gyfer MA, yn dwyn y teitl ‘Can I Help You? The Early Life of Douglas Houghton’. 

Dyddiad cyhoeddi: 23 Medi 2013

Myfyriwr Ysgol y Gyfraith yn ennill achos llys CYN graddio

Mae gan fyfyrwraig o Brifysgol Bangor fwy i'w ddathlu na dim ond derbyn gradd anrhydedd dosbarth cyntaf yn Y Gyfraith.  Cafodd Alex Gibson, 36, o Abergwyngregyn brofiad enbyd a'i harweiniodd i gredu mai'r unig ffordd o'i hamddiffyn ei hun rhag gwahaniaethu ac aflonyddu yn y gweithle oedd astudio am radd yn Y Gyfraith.

Dyddiad cyhoeddi: 23 Medi 2013

Cydnabyddiaeth Ryngwladol i Adran Seicoleg Bangor

Wrth i Seicoleg ym Mangor ddathlu hanner canrif ers sefydlu'r adran, pwysleisiwyd statws ac enw da'r adran ar y llwyfan byd-eang unwaith eto ar sail ei safle yn nhabl pwnc Seicoleg yn y QS World University Ranking. Am yr ail flwyddyn yn olynol mae Ysgol Seicoleg Bangor, sy'n un o'r rhai mwyaf ym Mhrydain, wedi dod i'r 100 uchaf o adrannau Seicoleg drwy'r byd.

Dyddiad cyhoeddi: 17 Medi 2013

Food Dudes Ifanc yn Arwain y Ffordd i Feithrinfeydd Iach

Enillodd rhaglen newydd gyffrous sy’n gweithio i sefydlu arferion bwyta da ymhlith plant ifanc iawn brif Wobr Ymchwil Iechyd LARIA (Cymdeithas Ymchwil a Gwybodaeth Awdurdodau Lleol), mewn seremoni wobrwyo ym Mhrifysgol Manceinion.

Dyddiad cyhoeddi: 17 Medi 2013

Myfyrwyr newydd yn cael llwybrau i’r ddinas

Mae Penwythnos Croeso’r Brifysgol arnom unwaith eto - sef 21-22 Medi eleni, ac y mae staff ac Arweinwyr Cyfoed y Brifysgol yn paratoi i groesawu myfyrwyr newydd i Fangor. Oherwydd hyn disgwylir i drafnidiaeth fod yn drymach ym Mangor dros y penwythnos gydag tua 2,000 o fyfyrwyr a’u rhieni yn cyrraedd  Neuaddau Preswyl y Brifysgol.

Dyddiad cyhoeddi: 17 Medi 2013

Micro-geliau ym mhacrew'r Arctig a’r Antarctig

Ers 2006 mae’r Athro Graham Underwood a Dr Shazia Aslam o Brifysgol Essex a’r Athro David Thomas o Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor wedi arwain nifer o brojectau (wedi eu cyllido gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol) i astudio cynhyrchiant micro-geliau, a'u pwysigrwydd eang i ardaloedd oeraf cefnforoedd y byd. Buont yn gweithio mewn tîm gyda chydweithwyr o Awstralia a Chanada i gasglu a dadansoddi creiddiau rhew o’r Arctig a’r Antarctig.  Saith mlynedd ar ôl hynny, ac ar ôl sawl taith rynllyd, maent yn cyhoeddi canfyddiad sydd yn dipyn o syndod. Maent hwy, a'u cydweithwyr wedi darganfod bod perthynas gref yn rhew’r Arctig a’r Antarctig – rhwng natur ffisegol y rhew,  faint o ficrobioleg sydd ynddo, a chrynodiadau’r geliau.

Dyddiad cyhoeddi: 10 Medi 2013

Niwrowyddoniaeth y Parthau Nwydus

Mae ein parthau nwydus ychydig yn od. Mae yna rannau penodol o’n cyrff, o’u cyffwrdd yn dyner, sy’n creu teimladau nwydus, er nad yw rhannau cyfagos o’r corff yn creu’r un teimladau. Er enghraifft, mae’n bosib y bydd merch yn mwynhau’r teimlad o gael ei mwytho ar ei gwddf neu’i chlust ond nid felly ar ei boch neu’i thalcen. Beth yw’r rheswm am hynny?

Dyddiad cyhoeddi: 10 Medi 2013

Prifysgol Bangor yng Nghynghrair y Byd

Mewn tabl newydd o brifysgolion gorau’r byd, mae Bangor ar safle 143 fel cyrchfan i fyfyrwyr rhyngwladol. Mae hefyd ymysg y 200 prifysgol uchaf (safle 183) o ran recriwtio staff rhyngwladol.

Dyddiad cyhoeddi: 10 Medi 2013

Tyfu tomatos blasus iawn yn yr awyr agored yng Nghymru a'r DU

Mae un sefydliad dielw, ymddiriedolaeth ymchwil Sárvári, yn gweithio gydag arbenigwyr ym Mhrifysgol Bangor i ddatblygu cnydau newydd o domatos i arddwriaethwyr yn y DU. Yr amcan yw datblygu math newydd o domatos gwydn masnachol ac a fyddai'n gwrthsefyll malltod hwyr, y clefyd neu organeb sydd gan amlaf yn dinistrio unrhyw gnwd o domatos a dyfir yn yr awyr agored.  Yr un organeb a achosodd y malltod tatws a arweiniodd at y newyn tatws yn Iwerddon. 

Dyddiad cyhoeddi: 10 Medi 2013

Project myfyriwr yn dangos ei bod yn ddiogel bwyta mwyar duon ar ochrau ffyrdd

Mae’n adeg o’r flwyddyn pan fydd llawer o bobl yn hel ffrwythau, fel mwyar duon, ar ochrau ffyrdd.  Fodd bynnag, mae rhai'n pryderu y gall ffrwythau meddal sy'n tyfu ar ochrau ffyrdd gynnwys lefelau uchel o fetelau trwm o ganlyniad o ollyngiadau o gerbydau. 

Nod astudiaeth wyddonol a wnaed gan James Slack, myfyriwr o Sir Durham, fel rhan o'i radd BSc mewn Cadwraeth ac Ecosystemau Coedwig ym Mhrifysgol Bangor, oedd gweld a oedd hyn yn wir ai peidio.

Dyddiad cyhoeddi: 9 Medi 2013

Archif y mis

Archif y mis: Castell Conwy a Phont Grog Telford

Llun o Gastell Conwy a Phont Grog Telford, diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.  Tynnwyd y llun cyn i'r bont ddiweddarach dros Afon Conwy gael ei hadeiladu yn 1958. Y bont honno a ddefnyddiwyd gan gerbydau ar yr A55 nes i Dwnnel Conwy gael ei adeiladu yn 1991. Dychmygwch y tagfeydd traffig fyddai yna heddiw pe bai hon yr unig bont dros yr afon o hyd!

Dyddiad cyhoeddi: 6 Medi 2013

Beth yw ieithoedd dadleuol eu statws?

Rydym yn gyfarwydd â’r term ieithoedd lleiafrifol, yn wir mae’r Gymraeg yn iaith leiafrifol, ac yn cael ei chydnabod a’i chefnogi o’r herwydd, ac mae yna restrau o ieithoedd sydd mewn perygl, ond mae categori arall yn bodoli: sef ieithoedd  dadleuol eu statws ( contested languages).

Ieithoedd yw’r rhain sydd yn ddigon wahanol yn ieithyddol i brif iaith y wlad lle maent yn cael eu siarad i gael eu dosbarthu fel iaith wahanol, ond nad ydynt wedi derbyn statws iaith swyddogol ac yn cael eu hystyried yn  dafodieithoedd.

Dyddiad cyhoeddi: 6 Medi 2013

Cydnabod arloesedd yn y bio-economi

Mae’r Ganolfan Ragoriaeth Bio-buro, BEACON, canolfan ymchwil arloesol sy’n canolbwyntio ar ddatblygu cynnyrch diwydiannol o blanhigion er mwyn lleihau dibyniaeth ar adnoddau ffosil megis glo a nwy, wedi ei chynnwys ar y rhestr fer Gwobrau RegioStarts y Comisiwn Ewropeaidd 2014.

Dyddiad cyhoeddi: 2 Medi 2013

Defnyddio ein heulwen Gymreig

Yng Nghymru rydym yn cael 1,390 awr o heulwen bob blwyddyn ar gyfartaledd ac fe ellid troi'r heulwen honno'n drydan.  Pe baem ond yn gallu dal cyfran fechan o'r heulwen a'i throi'n drydan, ni fyddem angen ffynhonnell arall i greu trydan i gyflawni ein holl anghenion ynni.

Yr enw ar y dechnoleg hon yw photovoltaics, sy'n harneisio pelydrau'r haul a throi'r ynni'n drydan y gellir ei ddefnyddio'n lleol wedyn neu ei fwydo i'r grid cenedlaethol.

Dyddiad cyhoeddi: 2 Medi 2013