Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn

Symud o wasanaethau gofal lliniarol i blant i rai i oedolion: mae'r bwlch yn dal yn rhy fawr i bobl ifanc gyda chyflyrau byrhau bywyd i ymdopi ag ef

Yn ôl ymchwil a wnaed gan Brifysgol Bangor mae'r gwahaniaethau rhwng gwasanaethau gofal lliniarol i blant ac i oedolion yn rhy fawr i bobl ifanc gyda chyflyrau byrhau bywyd ymdopi â hwy.  Wrth sôn am y darganfyddiadau mae'r ymchwilwyr yn galw ar wasanaethau gofal lliniarol i oedolion i ymestyn eu sgôp er mwyn darparu'n well at anghenion pobl ifanc gyda chyflyrau byrhau bywyd a'u teuluoedd.

Fe wnaeth y tîm ymchwil ddod â phobl ifanc gyda chyflyrau byrhau bywyd, rhieni a gweithwyr proffesiynol o wasanaethau gofal lliniarol i blant ac oedolion at ei gilydd i rannu eu profiadau o'r newid o wasanaethau plant i rai oedolion.

Yn aml nid oedd cynllunio'r symud o ofal lliniarol plant i un oedolion yn canolbwyntio ar yr unigolyn ifanc a'r hyn roeddent hwy ei eisiau neu ei angen.  Nid oedd gan lawer o bobl ifanc 'weithiwr allweddol' neu rywun i'w cefnogi i drefnu'r symud, ac felly roedd yn hawdd i bobl ifanc fynd ar goll a syrthio drwy'r bylchau.  Nid oedd y cynlluniau presennol yn rhoi sylw i bethau fel barn y bobl ifanc ar eu poen gyfnewidiol a rheoli symptomau, a newidiadau yn y ffordd roedd y person ifanc yn hoffi neu angen bwyta ac yfed.  

Fe wnaeth pobl ifanc a rhieni dynnu sylw hefyd at y gwahaniaethau rhwng gwasanaethau gofal lliniarol i blant ac oedolion a sut yr effeithiodd hyn arnynt. Roedd pobl ifanc gyda chyflyrau byrhau bywyd yn gyfarwydd â 'chynllunio cyfochrog' lle roedd gwasanaethau gofal lliniarol i blant yn rhoi cefnogaeth holistig, o ddiagnosis ymlaen, i bobl ifanc a'u teuluoedd fedru mwynhau bywyd, yn ogystal â chynllunio ymlaen at ofal diwedd oes pan fyddai ei angen. Dywedodd pobl ifanc bod gwasanaethau gofal lliniarol holistig i'r teulu cyfan, a oedd wedi bod o fudd mawr iddynt yn ystod plentyndod, yn aml yn dod i ben wrth iddynt drosglwyddo i wasanaethau i oedolion. Roedd gwasanaethau gofal lliniarol i oedolion, ar y llaw arall, wedi'u hanelu'n fwy at gyflawni anghenion pobl hŷn yn bennaf, yn dioddef oddi wrth gyflyrau fel canser neu glefyd y galon, wrth iddynt agosáu at ddiwedd oes.  Roedd gweithwyr proffesiynol gofal lliniarol i oedolion yn brofiadol iawn gyda rheoli cyflyrau fel Dystroffi Cyhyrol a symptomau cyffredin fel poen a chyfog, ond nid oeddent mor gyfarwydd â rheoli'r ystod eang o gyflyrau cymharol anghyffredin sy'n bygwth bywyd ac sydd yn dechrau yn ystod plentyndod. 

Meddai'r Athro Jane Noyes o Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Bangor: 'Roedd dod â gweithwyr proffesiynol gofal lliniarol i blant ac oedolion i gyfarfod â phobl ifanc gyda chyflyrau byrhau bywyd a'u rhieni yn eithriadol werthfawr.   Mae gwasanaethau gofal lliniarol i blant ac oedolion wedi datblygu ar wahân i'w gilydd gan ddarparu ar gyfer grwpiau gwahanol o bobl.   Nid yw'n syndod bod gwasanaethau i oedolion yn cael trafferth i ymwneud â phobl ifanc gyda chyflyrau byrhau bywyd a ddechreuodd mewn plentyndod.'

'Mae pobl ifanc gyda chyflyrau byrhau bywyd ac anghenion gofal lliniarol yn syrthio drwy'r bylchau yn ystod y symud o wasanaethau gofal lliniarol plant i rai oedolion. Mae angen i wasanaethau gofal lliniarol i oedolion i ymestyn eu sgôp er mwyn darparu'n well at anghenion pobl ifanc gyda chyflyrau byrhau bywyd a'u teuluoedd. 

Er mwyn codi ymwybyddiaeth ac i helpu i bontio'r bwlch rhwng gwasanaethau gofal lliniarol i blant ac oedolion, cynhyrchodd y tîm o Brifysgol Bangor yr adnoddau canlynol i'w defnyddio gan weithwyr proffesiynol, pobl ifanc a theuluoedd.  Mae'r adnoddau ar gael am ddim a gellir eu lawrlwytho o'r lincs isod:

  • Arweinlyfr a phecyn cymorth i weithwyr proffesiynol   Mae'r arweinlyfr yn ymdrin â'r elfennau o ofal lliniarol a gaiff eu hanghofio'n aml yn ystod yr adeg o symud o ofal plant i oedolion, yn ogystal ag egwyddorion pwysig cynllunio a chyfathrebu sy'n canolbwyntio ar unigolion.   Mae'r arweinlyfr hefyd yn disgrifio swyddogaethau gweithiwr allweddol mewn cyd-destun gofal lliniarol. 
  • Ffilm fer i ddangos pa mor bwysig yw cynllunio'n dda at newidiadau mewn gofal lliniarol o safbwynt pobl ifanc a'u rhieni.  
  • Adroddiad byr yn disgrifio'r project a darganfyddiadau allweddol.  

Dywedodd Lizzie Chambers, Cyfarwyddwr Datblygu a Chyfarwyddwr Gweithredol yr ‘UK Transition Taskforce’ yn ‘Together for Short Lives’: “Mae’r ymchwil yn  tynnu sylw at yr angen brys i adeiladu pontydd cryfion rhwng gwasanaethau plant ac oedolion gyda chyflyrau sy’n byrhau bywyd. Mae’r Tasglu wedi ymrwymo i wneud i hyn ddigwydd ar draws y Deyrnas Unedig fel bod pobol ifanc yn medru byw eu bywydau  i’r eithaf.  Rydym yn croesawu’r adnoddau hyn a fydd o gymorth i fudiadau gydweithio i ddatblygu gwasanaethau sydd â phobol ifanc yn ganolbwynt iddynt.”

Cyllidwyd yr astudiaeth 'Bridging the Gap' gan Together for Short Lives, elusen ar draws y DU sy’n cefnogi plant, pobl ifanc a’u teuluoedd sy’n byw gyda chyflyrau sy’n cyfyngu bywyd ac yn bygwth bywyd.

Mae’r ffilm, adroddiad, arweinlyfr a bocs offer ar gael drwy ddilyn y ddolen at adnoddau ar wefan Together for Short Lives  neu ar wefan project Bridging the Gap

Dyddiad cyhoeddi: 21 Hydref 2014

Hafan

  • Newyddion
    • Newyddion Cyfredol
    • Archif Newyddion
    • Digwyddiadau
Hafan

Dilynwch Ni

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • Youtube
  • LinkedIn

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor