Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau Ar-lein
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Prospectws

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn Ysgolion/Colegau Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adolygiad Blynyddol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa’r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda’r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a’r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Cyllid ar gyfer Cydweithio, Ymchwil a Datblygu ac Arloesi
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ymgynghoriaeth, Arbenigedd a Gwybodaeth Arbenigol
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Lleoliadau Myfyrwyr ac Interniaethau Mewn Busnes a Menter
      • Hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol Parhaus
      • Prentisiaethau Gradd
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Cysylltiadau
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Cysylltwch â Ni
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau Ar-lein
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Prospectws

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn Ysgolion/Colegau Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adolygiad Blynyddol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa’r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda’r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a’r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Cyllid ar gyfer Cydweithio, Ymchwil a Datblygu ac Arloesi
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ymgynghoriaeth, Arbenigedd a Gwybodaeth Arbenigol
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Lleoliadau Myfyrwyr ac Interniaethau Mewn Busnes a Menter
      • Hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol Parhaus
      • Prentisiaethau Gradd
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Cysylltiadau
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Cysylltwch â Ni
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn

Technoleg newydd yn obaith newydd i’r economi werdd

Mae Prifysgol Bangor yn bartner mewn rhaglen gwerth £20 miliwn fydd yn rhoi hwb i’r economi werdd trwy helpu busnesau yn y Gorllewin a’r Cymoedd i ddatblygu technolegau newydd i droi cnydau lleol yn gynnyrch masnachol. Cyhoeddwyd y newyddion heddiw yn y Senedd (Dydd Mawrth, 15 Chwefror),  gan y Dirprwy Brif Weinidog, Ieuan Wyn Jones AC.

 

O dan arweiniad Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth ac mewn cydweithrediad â’i bartneriaid ym Mhrifysgolion Bangor ac Abertawe, bydd y fenter BEACON yn defnyddio techneg flaengar o’r enw “bioburo” i helpu cwmnïau o Gymru i ddatblygu ffyrdd newydd rhad-ar-garbon i wneud cynhyrchion sydd wedi bod yn cael eu gwneud o olew.

 

Amcan BEACON, gyda chefnogaeth £10.6 miliwn o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, yw gwneud Cymru’n Ganolfan Ragoriaeth ar gyfer technolegau Bioburo a gwneud cyfraniad pwysig at arafu’r newid yn yr hinsawdd.  Bydd yn gweithio gyda chwmnïau i droi cnydau fel rhygwellt, ceirch ac artisiôcs yn gynnyrch fel deunydd fferyllol, cemegolion, tanwydd, coluron a thecstilau.

 

Meddai Mr Jones, sydd hefyd yn Weinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth: “Rydym wedi ymrwymo i feithrin arbenigeddau ein Prifysgolion a’n diwydiannau i ddatblygu technolegau a chynnyrch newydd i’n gwneud yn fwy cystadleuol ac i ddiogelu lle i Gymru ar lwyfan ryngwladol. 

 

“Elfen ganolog o Adnewyddu’r Economi yw defnyddio Ymchwil a Datblygu i symbylu arloesedd er  mwyn gallu cynhyrchu mwy, helpu’r economi i dyfu a gwneud y rhanbarth yn fwy ffyniannus.” 

 

Bydd Prifysgol Bangor yn datblygu ei gwaith ar greu deunydd newydd o blanhigion gyda golwg ar ddatblygu cynnyrch newydd, hyn ar ôl darganfod yn ddiweddar bod modd defnyddio cyfansoddion o rai planhigion lleol i reoli problemau fel clwy’r tatws.

 

Meddai’r Athro David Shepherd, Dirprwy Is-ganghellor Ymchwil a Menter ym Mhrifysgol Bangor:

“Mae gan Fangor hanes hir a llwyddiannus o gynnal gwaith ymchwil ar y cyd â chwmnïau i chwilio am ddibenion gwahanol a newydd i blanhigion sy’n gallu cael eu tyfu yn yr ardal.  Rydym yn croesawu’r cyfle hwn i estyn y gwaith hwnnw fel rhan o’r fenter newydd hon a gwella’r cyfleoedd sy’n cael eu cynnig i fusnesau Cymreig i fabwysiadu a manteisio ar dechnolegau isel eu carbon.  Un enghraifft yn unig o’n gwaith mewn un maes ar draws amrywiaeth eang o ddiwydiannau yw’n gwaith gyda’r cwmni lleol Phytovation.”

 

Mae Prifysgol Bangor wedi bod yn gweithio gyda Phytovation – cwmni o Gaernarfon – i ddatblygu technolegau newydd sy’n defnyddio planhigion i gynhyrchu deunydd fferyllol.

 

Mae’r cydweithio hwn wedi arwain at greu cynnyrch newydd fel powdr Senna sy’n cael ei ddefnyddio i wneud lacsatifau effeithlon sydd wedi’u gwneud o blanhigion allai yn y pen draw gael eu tyfu yn y Gogledd.

 

O ganlyniad, mae Phytovation wedi ennill tystysgrif Good Manufacturing Practice (GMP) gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) a fydd yn eu gwneud yn fwy deniadol fel cynhyrchydd ac yn gwella eu cyfle i ennyn busnes o dramor.

 

Meddai Andy Beggin o Phytovation: “Rydym yn gwerthfawrogi ein partneriaeth â’r Brifysgol yn fawr a’n gobaith yw y gwnaiff yr arian hwn sbarduno busnesau fel ni i wneud mwy o elw a rhoi hwb i economi Cymru.  Rydym yn disgwyl ymlaen yn fawr at weithio gyda’r brifysgol yn y dyfodol, hynny er ein lles ein gilydd.”

 

Manteision bioburo i Gymru:  

  • Yn lle cemegolion diwydiannol o olew, defnyddio moleciwlau tebyg o blanhigion i gyflenwi marchnadoedd sydd o fewn cyrraedd rhwydd i gynhyrchwyr o Gymru gyda gobaith creu elw mawr.
  • Trwy droi cnydau fel Rhygwellt, Miscanthus, Ceirch ac Artisiôcs yn danwyddau a chemegolion gwerthfawr, lleihau nwyon tŷ gwydr, diogelu cyflenwadau tanwydd a chemegolion ac ychwanegu at werth economi Cymru.
  • Mae cemegolion sy’n dod o blanhigion yn gallu cael eu defnyddio mewn amrywiaeth o sectorau gan gynnwys trafnidiaeth, bwyd, iechyd, hylendid a’r amgylchedd.
  • Maen nhw’n cynnwys deunyddiau newydd sy’n cael eu galw’n fiogyfansoddion a bioblastigau.
  • Yn ogystal â chreu a diogelu swyddi yn y Gorllewin a’r Cymoedd, bydd y gwaith arloesol hwn yn helpu i ddatblygu’r gwyddorau yng Nghymru.

Dyddiad cyhoeddi: 15 Chwefror 2011

Hafan

  • Newyddion
    • Newyddion Cyfredol
    • Archif Newyddion
    • Digwyddiadau
Hafan

Dilynwch Ni

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • Youtube
  • LinkedIn

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor