Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn

Troseddau'n erbyn yr unigolyn - moderneiddio'r gyfraith sy'n ymwneud â thrais

Yn ôl Comisiwn y Gyfraith mae angen rheolau newydd i fynd i'r afael â throseddau treisgar a gwneud gwell defnydd o amser y llysoedd.

Ddydd Mawrth, 3 Tachwedd, cafodd adroddiad newydd gan Gomisiwn y Gyfraith ei lansio mewn digwyddiad arbennig ym Mhrifysgol Bangor, gyda'r Athro Ormerod, Comisiynydd y Gyfraith dros gyfraith droseddol, yn traddodi darlith ar 'Reforming Offences Against the Person', i fyfyrwyr Ysgol y Gyfraith Bangor a gwahoddedigion. 

Meddai'r Athro David Ormerod QC wrth lansio'r adroddiad newydd: 

"Mae ymddygiad treisgar yn arwain at hyd at 200,000 o erlyniadau bob blwyddyn ond mae'r gyfraith a ddefnyddir i erlyn pobl am droseddau treisgar yn hen ffasiwn ac yn ddryslyd i'r llysoedd, diffynyddion a rhai sydd wedi dioddef o ganlyniad i droseddau. 

"Os cânt eu gweithredu, bydd y diwygiadau rydym yn eu hargymell yn rhoi cod statudol modern a chlir i ddelio â throseddau treisgar.  Bydd hierarchaeth resymegol o droseddau wedi'u diffinio'n glir yn galluogi erlynyddion i ddefnyddio amser gwerthfawr llysoedd yn fwy priodol ac effeithlon.  A bydd troseddau wedi eu labelu'n briodol yn sicrhau bod gwir natur ymddygiad treisgar yn cael ei gydnabod am yr hyn ydyw."

Meddai'r Athro Dermot Cahill, Pennaeth Ysgol y Gyfraith ym Mangor: "Mae ymweliad Yr Athro Ormerod i draddodi darlith bwysig fel rhan o'r cwrs Cyfraith Droseddol yma ym Mangor, a hynny ar ddiwrnod cyhoeddi adroddiad Comisiwn y Gyfraith, yn anrhydedd i'r Ysgol ac yn gyfle gwych i'n myfyrwyr.  Anaml iawn mae myfyrwyr yn cael clywed un o Gomisiynwyr y Gyfraith yn trafod cynigion i ddiwygio'r gyfraith - yn yr achos hwn Deddf Troseddau Corfforol 1861 - a hynny ar union ddiwrnod eu cyhoeddi." 

 

Yn yr adroddiad mae Comisiwn y Gyfraith yn argymell diwygiadau a fydd yn:

  • rhoi deddfwriaeth fodern, glir a rhesymegol yn lle Deddf Troseddau Corfforol 1861 sy'n hen ffasiwn erbyn hyn
  • creu trosedd newydd, sef "ymosodiad dwys" i bontio'r bwlch rhwng ymosodiad cyffredin ac achosi gwir niwed corfforol (ABH), sy'n llawer mwy difrifol, ac
  • ymestyn y drosedd o fygwth lladd i gynnwys bygythiadau i achosi niwed difrifol neu dreisio.

 

Ceir dros 26,000 o erlyniadau bob blwyddyn dan Ddeddf Troseddau Corfforol 1861 ac o leiaf 100,000 o rai eraill am ymosod, ond mae'r ddeddf yn hynod anodd ei deall a'i defnyddio.  Mae'r iaith yn hynafol ac annelwig.  Mae'n cyfeirio at gysyniadau nad ydynt yn cael eu cydnabod gan y gyfraith mwyach ac yn cynnwys troseddau sydd wedi hen ddarfod amdanynt, megis "rhwystro dianc o longddrylliad". 

Mae'r Ddeddf yn cynnwys amrywiol droseddau, yn cynnwys rhai a adwaenir yn boblogaidd fel ABH a GBH, ond nid ydynt wedi eu dosbarthu'n drefnus o ran eu difrifoldeb neu eu diffinio'n glir.

Mae'r Comisiwn yn argymell y dylid disodli'r Ddeddf gan ddeddfwriaeth fodern wedi'i seilio ar Fesur a ddrafftiwyd yn ystod ymgais gynharach gan y Swyddfa Gartref i ddiwygio'r gyfraith.  Mae'r Mesur newydd yn haws ei ddeall.  Gwneir y troseddau'n gliriach a'u cyflwyno mewn hierarchaeth fwy rhesymegol. Yn achos rhai ohonynt, fe’i gwneir yn ofynnol bod y diffynnydd wedi rhagweld lefel y niwed a achoswyd. 

Argymhellir i'r ddedfryd uchaf am y drosedd newydd o "ymosodiad dwys" fod yn 12 mis o garchar gydag achosion i'w cynnal yn unig mewn Llys Ynadon.  Bydd hyn y galluogi erlynyddion i fynd ag achosion lle nad achoswyd anafiadau difrifol o Lys y Goron (lle mae cynnal achosion yn ddrutach) i Lys Ynadon, yn unol ag argymhellion Deddf Cyfiawnder Troseddol 2003 i gynyddu'r dedfrydau y gall ynadon eu rhoi o chwe mis i 12 mis o garchar.

Yn ogystal â gostwng costau llysoedd yn sylweddol bydd y drosedd newydd yn galluogi i ymosodiadau treisgar gael eu hystyried ar lefel fwy priodol.  Ar hyn o bryd mae dros 70% o rai a geir yn euog mewn achosion o ABH mewn Llys y Goron yn cael dedfrydau o 12 mis neu lai.  Ond, gyda'r cyhuddiad newydd o ymosodiad dwys, gellid gwrando'r achosion hyn mewn Llys Ynadon.  Er mwyn cadw achosion allan o Lys y Goron, mae llawer o droseddwyr sy'n ymosod ar bobl gan achosi anaf iddynt yn cael eu cyhuddo o ymosodiad cyffredin ar hyn o bryd, ac nid yw hynny mewn rhai achosion yn cydnabod natur dreisgar y drosedd.

Bydd argymhelliad y Comisiwn i ymestyn y drosedd o "fygwth" i gynnwys bygythiadau i dreisio a bygythiadau i achosi anaf difrifol yn caniatáu i'r ymddygiad troseddol gael ei brofi ar lefel briodol.  Dan y ddeddf bresennol nid oes unrhyw droseddau rhwng bygythiad i ladd, sy'n cario dedfryd uchaf o 10 mlynedd o garchar, a bygythiad i ymosod, sydd â dedfryd uchaf o chwe mis. 

 

 

Dyddiad cyhoeddi: 3 Tachwedd 2015

Hafan

  • Newyddion
    • Newyddion Cyfredol
    • Archif Newyddion
    • Digwyddiadau
Hafan

Dilynwch Ni

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • Youtube
  • LinkedIn

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor