Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau Ar-lein
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Prospectws

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn Ysgolion/Colegau Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adolygiad Blynyddol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa’r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda’r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a’r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Cyllid ar gyfer Cydweithio, Ymchwil a Datblygu ac Arloesi
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ymgynghoriaeth, Arbenigedd a Gwybodaeth Arbenigol
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Lleoliadau Myfyrwyr ac Interniaethau Mewn Busnes a Menter
      • Hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol Parhaus
      • Prentisiaethau Gradd
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Cysylltiadau
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Cysylltwch â Ni
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau Ar-lein
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Prospectws

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn Ysgolion/Colegau Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adolygiad Blynyddol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa’r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda’r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a’r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Cyllid ar gyfer Cydweithio, Ymchwil a Datblygu ac Arloesi
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ymgynghoriaeth, Arbenigedd a Gwybodaeth Arbenigol
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Lleoliadau Myfyrwyr ac Interniaethau Mewn Busnes a Menter
      • Hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol Parhaus
      • Prentisiaethau Gradd
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Cysylltiadau
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Cysylltwch â Ni
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn

Un o ddeg project yn y DU sydd wedi derbyn grant

Mae academydd yn Ysgol Cemeg Prifysgol Bangor yn un o ddeg academydd o Brydain yn cymryd rhan mewn projectau ymchwil rhwng Prydain ac Israel sydd wedi derbyn grant gan y Britain Israel Research and Academic Exchange Partnership, BIRAX.  Mewn digwyddiad diweddar a drefnwyd gan Matthew Gould, llysgennad Prydain yn Israel, i ddathlu cydweithio ym maes gwyddoniaeth rhwng y DU ac Israel, cyhoeddodd William Hague, Ysgrifennydd Tramor Prydain, enwau projectau sy’n mynd i’r afael â heriau byd-eang ym maes ynni a’r amgylchedd sydd wedi llwyddo i ennill grant gan y bartneriaeth.  Cyfeiriodd at wyddoniaeth fel “un o gonglfeini’r berthynas rhwng Prydain ac Israel" gan ychwanegu bod “y ddwy wlad wedi datblygu eu heconomi a’u hunaniaeth trwy fod yn arweinwyr ym maes gwyddoniaeth a thechnoleg”.

Ymatebodd yr Athro Daniel Hershkowitz, Gweinidog Gwyddoniaeth a Thechnoleg Israel, i’r datganiad gan ddweud “mae'r cytundeb cydweithredu gyda Phrydain, fel cytundebau tebyg gyda gwledydd eraill, yn brawf ychwanegol o statws Israel fel un o arweinwyr y byd gwyddonol. Rwy’n rhoi pwys mawr ar gydweithredu gwyddonol rhyngwladol yn gyffredinol ac ar gydweithredu gyda Phrydain yn benodol. Mae iaith gwyddoniaeth yn pontio gwahaniaethau a bylchau rhwng gwahanol bobl a chymdeithasau’r byd a bydd cydweithredu rhwng Israel a Prydain o fudd nid yn unig i'r ddwy wlad honno, ond i'r byd cyfan."

Dyfarnwyd y grant ar y cyd i’r Athro Igor Perepichka o Ysgol Cemeg Prifysgol Bangor a Dr Michael Bendikov o’r Weizmann Institute of Science i wneud ymchwil i ddatblygu deunydd electronig organig newydd fydd yn helpu arbed ynni solar a chynhyrchu “trydan solar”.  Mae'r project ar y cyd yn cyfuno arbenigedd ymchwilwyr o’r DU ac Israel a’u darganfyddiadau diweddar a’i nod yw llunio ffordd newydd o ddargludo polymerau’n electronig ar gyfer celloedd solar plastig a deall strwythur a gweithred y polymerau hynny mewn dyfeisiadau electronig. Disgwylir i’r deunyddiau newydd a ddatblygir gan yr Athro Perepichka a Dr Bendikov arwain at ddatblygu celloedd solar plastig sy’n gallu trosi ynni solar yn fwy effeithlon a bydd yn cyfrannu at ddatblygu ffynonellau ynni glân effeithlon. Fodd bynnag, mae’r ymchwilwyr hefyd yn gweld bod potensial mawr gan ddeunyddiau o’r fath mewn amrywiaeth ehangach o gymwysiadau electronig a nanoelectronig organig: LED polymer, transistorau plastig, deunyddiau electrocromig, dyfeisiadau cof, synwyryddion/biosynhwyryddion.


Mynegodd David Willetts, Gweinidog Prifysgolion a Gwyddoniaeth Prydain, ei gefnogaeth i’r cynllun: “Rwy’n awyddus i wneud yn fawr o’r cyfraniad y gall gwyddoniaeth ac ymchwil ei wneud at adferiad economaidd y DU,” dywedodd.  “Mae datblygu ymchwil o ansawdd uchel ar y cyd yn un ffordd o wneud hynny. Felly rwy’n croesawu mentrau megis y rhaglen gyfnewid hon rhwng ymchwilwyr ac academyddion Prydain ac Israel. Mae’n amlwg bod sefydliadau addysg uwch y ddwy wlad yn awyddus iawn i gydweithio. Rwy’n gobeithio gweld mwy o ymchwil o ansawdd uchel ar y cyd rhwng y DU ac Israel yn y dyfodol.”

Mae’r deg project a ddewiswyd yn ymdrin ag amrywiaeth eang o bynciau ym maes yr amgylchedd, yn cynnwys cadwraeth y riff cwrel yn y Môr Coch, datblygu adnoddau bioadnewyddadwy i gymryd lle deunyddiau plastig petroliwm nad ydynt yn fioddiraddadwy a chynhyrchu cnydau mewn modd sy’n diogelu amaethyddiaeth gynaliadwy. Dewiswyd y projectau oherwydd eu bod yn arloesol, oherwydd cryfder y cydweithio a’r rhagolygon tymor hir i barhad ac effaith y project.

Mae enillwyr blaenorol grantiau BIRAX wedi canmol y cynllun sy’n ariannu ymweliadau rhwng sefydliadau yn y DU ac Israel ac sy’n meithrin cysylltiadau parhaol rhwng gwyddonwyr sy’n rhannu’r un diddordebau. Dywed Dr Maya Schuldiner o’r Weizmann Institute, a gafodd grant i’w galluogi i wneud ymchwil ar y cyd gydag academyddion o Brifysgol Manceinion i’r genynnau sy’n gyfrifol am gynnal y lefel asidedd sy’n hanfodol i gelloedd burum, “Mae BIRAX wedi ein galluogi i feddwl a gweithio’n well… ond rwy’n meddwl mai cyfeillgarwch yw ei rodd fwyaf”.

Mae’r deg project llwyddiannus yn cynnwys naw prifysgol ym Mhrydain a saith prifysgol yn Israel. Mae’r prifysgolion ym Mhrydain yn cynnwys Bangor, Caerfaddon, Brunel, Caergrawnt, Glasgow, Leeds, Rhydychen, Southampton ac Imperial College ac mae’r prifysgolion yn Israel yn cynnwys Ben Gurion, Haifa, Hebrew University of Jerusalem, Technion – Israel Institute of Technology, Tel Aviv a’r Weizmann Institute.

Lansiwyd BIRAX yn 2008 gan brif weinidogion Israel a Phrydain gyda’r nod o gryfhau cydweithrediad academaidd rhwng y ddwy wlad ac mae’n parhau i gael cefnogaeth gan y ddwy lywodraeth.  Mae’r cyrff cyllido’n cynnwys y Pears Foundation, UJIA, yr Adran Arloesi Busnes a Sgiliau a’r Swyddfa Dramor a Chymanwlad ym Mhrydain a’r Weinyddiaeth Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn Israel.  Lluniwyd y cynllun gan y Cyngor Prydeinig ar y cyd a’r Pears Foundation ac academyddion blaenllaw yn y ddwy wlad a chaiff ei drefnu gan y Cyngor Prydeinig yn Israel.

Dyddiad cyhoeddi: 29 Tachwedd 2010

Hafan

  • Newyddion
    • Newyddion Cyfredol
    • Archif Newyddion
    • Digwyddiadau
Hafan

Dilynwch Ni

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • Youtube
  • LinkedIn

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor