Newyddion: Medi 2018

Gwylwyr ledled Prydain i gael golwg ar fywyd o amgylch Y Fenai

Bydd gwylwyr teledu oriau brig ledled Prydain yn cael cyfle i ddod i wybod mwy am fywyd o amgylch Y Fenai gan fod cyfres boblogaidd ITV Cymru 'The Strait' i gael ei darlledu ar y sianel genedlaethol dan yr enw newydd 'The Island Strait' am 8.00pm ar ITV am bedair wythnos o 14 Medi.

Mae'r gyfres yn edrych ar fywydau pobl sy'n byw a gweithio ar Y Fenai - y culfor rhyfeddol sy'n gwahanu Ynys Môn oddi wrth dir mawr Cymru.  Ymysg yr unigolion a gaiff sylw yn y gyfres mae Dr Mike Roberts o Brifysgol Bangor.  Trwy lygaid nifer o ddynion a merched sy'n gweithio ar y culfor dramatig ac unigryw hwn, ac ar ei lannau, caiff gwylwyr gyfle i ddeall pa mor bwysig yw'r Fenai fel ased amgylcheddol. 

Dyddiad cyhoeddi: 7 Medi 2018