Gwybodaeth am Coronafirws (Covid-19)

Newyddion: Hydref 2019

Diwrnodau Agored Prifysgol Bangor i rymuso'r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr

Nod Coleg Gwyddorau Amgylcheddol a Pheirianneg Prifysgol Bangor yw dangos nad cenhedlaeth o liprod yw ein pobl ifanc trwy gyhoeddi galwad am fyfyrwyr sy'n benderfynol o wneud gwahaniaeth i broblemau'r byd.

Datgelwyd mewn arolwg* diweddar nad lliprod gwangalon a gor-sensitif yw 85% o bobl ifanc, yn wahanol i'r darlun a gawn ar y cyfryngau, a'u bod yn teimlo bod y grym ganddynt i fynd i'r afael â materion fel y cynhesu byd-eang, lefelau'r môr yn codi a llygredd diddiwedd.

Dyddiad cyhoeddi: 4 Hydref 2019

Ymchwil U-boats y Brifysgol yn cael sylw ar raglen Drain the Oceans

Bydd ymchwil gan Brifysgol Bangor yn cael sylw mewn rhaglen sy’n rhan o gyfres Drain the Oceans ar sianel y National Geographic nos Lun 7 Hydref rhwng 8 a 9pm.

Bydd rhaglen nos Lun yn sôn am ddatblygiad llongau tanfor yn yr Almaen, a sut y bu i hynny newid rhyfela ar y môr am byth. Cafodd y Cynghreiriaid eu gorfodi i newid eu tactegau.

Mae gwaith y Prince Madog, llong ymchwil Ysgol Gwyddorau’r Eigion, Prifysgol Bangor yn cael sylw ar y rhaglen. Mae’r llong wedi bod yn mapio nifer o longddrylliadau o amgylch Môr Iwerddon fel rhan o broject ymchwil ar y cyd â Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Noddir y project gan Gronfa Treftadaeth y Loteri a’i fwriad yw coffau’r rhyfel yn erbyn llongau tanfor yr Almaen ar hyd arfordir Cymru rhwng 1914 ac 1918.

Dyddiad cyhoeddi: 4 Hydref 2019