Astudio Ymhellach
Astudio am radd Meistr a PhD
Ar ôl i chi gwblhau eich gradd efallai fyddwch eisiau mynd ymlaen a gwneud meistr, PhD neu ystyried gyrfa yn Seicoleg Glinigol.
Cyrsiau meistr
Mae nifer o wahanol o gyrsiau meistr ar gael yn yr Ysgol Seicoleg yn Brifysgol Bangor (gweler prif wefan yr adran seicoleg) ac mae nifer o gyfleoedd i wneud ceisiadau PhD. Mae gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol cynllun arianni ar gyfer astudio ôl-radd. Mae dau o'n myfyrwyr PhD yn cael i arianni yn rhannol gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Rhaglen Seicoleg Glinigol Gogledd Cymru
Mae Rhaglen Seicoleg Glinigol Gogledd Cymru wedi ei lleoli yn Ysgol Seicoleg Bangor. Mae'r rhaglen yn annog yn gryf siaradwyr dwyieithrwydd Cymraeg-Saesneg i ystyried gwneud cais am le hyfforddi ym Mangor. Mae angen sylweddol am wasanaethau seicoleg glinigol gael eu darparu'n ddwyieithog am fod cyfran fawr o'r boblogaeth yng Ngogledd Cymru yn siarad Cymraeg fel eu hiaith gyntaf.
Am fwy o wybodaeth am y Rhaglen Seicoleg Glinigol Gogledd Cymru edrychwch ar y wefan: http://nwcpp.bangor.ac.uk/